Llewelyn Gwyn Chambers

Oddi ar Wicipedia
Llewelyn Gwyn Chambers
Ganwyd11 Chwefror 1924 Edit this on Wikidata
Bu farw9 Rhagfyr 2014 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwyddonydd Edit this on Wikidata

Dr. Ll. Gwyn Chambers DSc (11 Chwefror 19249 Rhagfyr 2014) oedd un o sefydlwyr y cylchgrawn Cymraeg Y Gwyddonydd ym Mawrth 1963. Fe'i ganed yn Hornchurch, Essex a'i addysgu yn Ysgol Haberdashers' Aske's yn Elstree ac yn Ysgol Ramadeg Porthmadog. Graddiodd o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor yn 1944. Bu'n gweithio ar ymchwil wyddonol yn y lluoedd arfog cyn cael gwaith fel darlithydd yn y coleg milwrol yn Shrivenham. O'r 1950au hyd at ei ymddeoliad bu'n ddarlithydd ym Mangor.

Y Gwyddonydd[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd y cyfnodolyn Y Gwyddonydd am y tro cyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi 1963, gyda chyhoeddiadau cyson hyd at 1996. Yr Athro Glyn O Phillips oedd y golygydd rhwng 1963 a 1993. "Fe'i sefydlwyd er mwyn dangos fod ymdrin â pynciau gwyddonol a thechnolegol o bob math drwy gyfrwng y Gymraeg yn gwbwl bosibl" yn ôl Dr Hefin Jones.[1] Nifwl troellog trobwll yng nghytser Canes Venatica oedd y llun ar glawr y rhifyn cyntaf.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • A course of Vector Analysis (1960)
  • Introduction to the Mathematics of Electricity and Magnetism (1973)
  • Integral Equations: a short course (1976)
  • A Generalised Coordinates (1985)
  • Ystadegaeth Elfennol (1991)
  • Mathemategwyr Cymru (1994)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Fideo ar You Tube; adalwyd 3 Chwefror 2015