Storiel (Amgueddfa Bangor)

Oddi ar Wicipedia
Plas yr Esgob (Bangor). Cartref Storiel (2016-)

Storiel yw ymgnawdoliad ac enw presennol (2017)[1] Amgueddfa ac Oriel Gwynedd. Menter yw ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor. Ers Ionawr 2016 lleolir yr amgueddfa ym Mhlas yr Esgob ger Cadeirlan Bangor (Gwynedd). Yn y casgliadau parhaol mae ystod o gelfi tŷ, dillad a gwrthrychau hanes cymdeithasol o'r 18 i'r 21 ganrif. Storiel, hefyd, yw unig gadwrfa deunydd archeolegol Gwynedd a Môn, ac mae'r arddangosfa yn adlewyrchu hyn. Yn ogystal â chasgliad celf barhaol, mae Storiel yn llwyfanni arddangosfeydd achlysurol.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cychwynnwyd Amgueddfa Gwynedd gan Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ac mae'r cofnod gyntaf ohoni yng nghofnodion Senedd y Coleg am Ragfyr 14 1891[2]. Ar Orffennaf 1 1940 fe'i hagorwyd i'r cyhoedd yn adeilad hen Ysgol Sir y Merched ar Ffordd y Coleg (yn 2017 dyma Ysgol Gerdd Prifysgol Bangor). Y pryd hynny cynhwyswyd, hefyd, benthyciadau o Amgueddfa'r Ddinas (a sefydlwyd yn annibynnol yn 1870 gan y Capten John Jones). Yn 1973 symudwyd yr amgueddfa i Hen Ganondy y Gadeirlan (Ffordd Gwynedd) i ymuno ag Oriel y brifysgol. Yn Ionawr 2016, yn dilyn grantiau sylweddol (cyfanswm £2.57 miliwn) sefydlwyd ym Mhlas yr Esgob (Ffordd Gwynedd), un o adeiladau hanesyddol pwysicaf y ddinas, sy'n dyddio o tua 1500[3]. Ar y pryd mi roedd yn un o rwydwaith o arddangosfeydd ledled y sir[4] (gan gynnwys casgliadau eraill Prifysgol Bangor).  

Hen Ganondy Cadeirlan Bangor. Cartref Amgueddfa ac Oriel Bangor o 1973 i 2016

Ymlith curaduron (a churaduron cynorthwyol ac er anrhydedd) yr amgueddfa[2] bu'r James J. Dobbie (1891-1903), Philip J. White (1914-), R. Silyn Roberts (-1929), Ifor Williams (1929-1948), Thomas Parry (1929-1952) , R.T. Jenkins (1948-1963), Maurice Cooke (1963-), A.H. Dodd (1962-1975), Robin Livens (1975-77), John Ellis Jones (1977-1991), Pat Bennyworth (1991-), Esther Roberts (-2016)

Gwefan Storiel yw https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Hamdden-Parciau-Digwyddiadau/Amgueddfeydd-ar-Celfyddydau/Storiel.aspx Archifwyd 2017-07-03 yn y Peiriant Wayback.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.dailypost.co.uk/whats-on/arts-culture-news/new-museum-gallery-opens-doors-10806893
  2. 2.0 2.1 Emma Hobbins. A Brief History of Bangor Museum. yn Bangor. From a Cell to a City tt 102-109. (gol. Siân Ifor White) Cyfeillion Amgueddfa ac Oriel Bangor 1994
  3. Richard Haslam, Julian Orbach & Adam Völcker. The Buildings of Wales. Gwynedd.tt 243-4 (gol. sef. Nikolaus Pevsner) Yale University Press 2009
  4. "Gwreiddiau Gwynedd Roots 70, 20-21 2016" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-09-02. Cyrchwyd 2017-03-17.