Gwylan goesddu

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gwylan Goesddu)
Neidio i: llywio, chwilio
Gwylan goesddu
Rissa tridactyla
Rissa tridactyla (Vardø, 2012).jpg
Black-legged-Kittiwake.jpg
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Laridae
Genws: Kittiwake[*]
Rhywogaeth: Rissa tridactyla
Enw deuenwol
Rissa tridactyla
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aelod o deulu'r gwylanod (Laridae) yw gwylan goesddu sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog yw 'gwylanod coesddu' ac fe'i hadnabyddir hefyd gyda'i henw gwyddonol Rissa tridactyla; yr enw Saesneg arni yw Black-legged kittiwake. Talfyrir yr enw Lladin ar ôl y cyfeiriad cyntaf mewn ysgrif i R. tridactyla[1] Ceir nifer o enwau eraill arni — gwylan dribys, drilyn, gwylan benwen a gwylan Gernyw.[2]


Mae'r teulu'n perthyn i urdd y Charadriiformes.[3] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae'n aderyn gweddol gyffredin o gwmpas arfordir Cymru, lle mae'n nythu. Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Ewrop ac Affrica.

Fel rheol mae'n nythu ar glogwyni ger y môr yn rhan ogleddol Cefnfor Iwerydd a'r Cefnfor Tawel, yn enwedig o gwmpas Ewrop a Gogledd America. Pysgod yw ei phrif fwyd, ac anaml y'i gwelir ymhell o'r môr (ar ôl stormydd gan amlaf), yn wahanol i lawer o'r gwylanod eraill.

Ceir nythfeydd yr Wylan Goesddu ar glogwyni serth ac mewn ogofeydd. Mae'n adeiladu'r nyth ar silff gul, a gall fod mewn perygl oddi wrth y tonnau mewn storm. Ei bwyd yw pysgod bychain, megis llymrïod, corbenwaig a phenwaig bychain, a chreaduriaid di-asgwrn-cefn, sy'n cael eu cipio o wyneb y môr. Mae hefyd yn codi'r gwastraff y tu ôl i gychod pysgota. Y prif nythfeydd yng Nghaernarfon yw Ynysoedd Tudwal, Pen Cilan, Ynys Enlli, Carreg y Llam, Rhiwledyn a’r Gogarth, a cheir prif nythfeydd Môn ar Ynys Seiriol ac Ynys Lawd.[4]

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwylan y môr mawr yw hon sy'n nythu ar glogwyni ac yn gorffwyso ar draethau a chreigiau gwastad; anaml y'i gwelir yn y mewndir.

Mae'r big yn felynwyrdd a'r coesau a'r llygaid yn ddu. Mae’r cefn llwyd, main yn drawiadol. Mae'r aderyn ifanc yn fwy di-nod, yn felynllwyd ei adenydd, yn llwyd ei war, yn frown ei goesau ac yn dywyll ei big. Yn y gaeaf, bydd gwar lwyd a chlust ddu gan yr aderyn llawn dwf. Mae'r aderyn ifanc yn hynod am fod ganddo resen igam-ogam ddu ar gefn golau, a choler ddu a phig ddu. Mae'r enw Lladin Rissa tridactyla yn cyfeirio at y nodwedd hwn hefyd.

Poblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr Wylan goesddu yw'r aderyn mwyaf cefnforol o'r gwylanod, gan dreulio'r rhan helaethaf o'i hamser, tu allan i'r cyfnod nythu, ymhell allan yn y môr. Mae eu hardal nythu yn ymestyn o'r Arctig yn y Gogledd i Dde Lloegr. Dyma wylan sydd wedi cynyddu mewn niferoedd yn ystod y can mlynedd ddiwethaf. Cyn y deddfau gwarchod adar, yn bennaf yn dilyn ffurfio'r RSPB yn 1889 (er bod y Ddeddf Cadwraeth Adar Môr wedi dod i rym ers 1869), lladdwyd nifer fawr o Wylanod coesddu o gwmpas arfordir Prydain fel sbort ac ar gyfer y diwydiant gwneud hetiau. Môr Hafren oedd un o'r ardaloedd gwaethaf, a honnir bod 9,000 wedi eu saethu o fewn pythefnos ar Ynys Wair (Lundy). Yn dilyn pasio nifer o ddeddfau gwellodd pethau i'r Wylanod goesddu. Er i More ddweud yn 1865 nad oedd yr Wylan goesddu yn nythu yng Nghymru, roedd hyn yn anghywir gan bod tystiolaeth bod rhai'n nythu ar y Gogarth Fawr a'r Gogarth Fach cyn belled yn ôl ag 1835 ac roedd rhai eraill yn Ynys Sgomer, Gwales (Grassholm) a Phenrhyn Cilan. Hyd yn oed erbyn canol yr 20g doedd dim mwy na dwsin o gytrefi o gwmpas arfordir Cymru, yn ôl Cyfrifiad 1959. Darganfu Coulson (1963) bod dau gytref heb eu cynnwys gan ychwanegu 250 o barau. Yn ogystal, dangosodd Coulson bod y cynnydd yn yr 20g hyd at 1959 rhwng 3% a 4%, a bod hyn wedi parhau hyd 1969 (Coulson 1983). Roedd hyn yn gwneud cyfanswm Cymru oddeutu 5,250 o barau mewn 14 o gytrefi.[5]

Yn ystod y degawd (1969-79) bu cwymp yn niferoedd 3 cytref yng Nghymru (allan o ddim ond 5 cytref drwy Brydain gyfan: Sant Tudwal - 28%, Ynys Enlli -97% ac Ynys Gwales -21%. Mewn ffordd, roedd hyn yn broffwydol, oherwydd yn y 10 mlynedd ddilynol yn yr arolwg (1979) wedi'i selio ar flynyddoedd 1973-76, bu gostyngiad yn y rhan fwyaf o gytrefi Môr Iwerddon, yn groes i'r hyn ddigwyddodd ar yr ochr orllewinol, ac yn enwedig yng nghytrefi Môr y Gogledd.

Dydi Coulson (1983) ddim wedi cadw cofnodion Cymru ar wahân yn yr arolwg (1979), ond daeth i'r casgliad a ganlyn: De Cymru ac Ynys Wair 1959-69 cynnydd o 48%, 1969-79 gostyngiad o 3%; Gogledd Cymru, Gogledd Orllewin Lloegr ac Ynys Manaw, 1959-69, cynnydd o 69%, 1969-79 gostyngiad o 20%. [5].

Nifer y parau o wylanod coesddu

Rhwng 1979 a'r Cyfrif Sea Register (1986)'doedd yna ddim gostyngiad pellach yn ymddangos yng Nghymru er bod ambell gytred yn dangos hynny (gweler y tabl). Rhudd y Gofrestr Gytrefi Adar Môr gyfansem o 9120 o barau mewn 20 o gytrefi yng Nghymru, cynnydd o 29% drwy Gymru ers 1979.

Allan o'r cyfnod nythu gwelir niferoedd uchel o'r Gwylanod coesddu sr daith ymhell allan yn y môr, Yn hwyr yn yr hydref byddant ar eu taith i'r de a gwelir hwy ymron ymhob arolwg o'r traethau gorllewinol, cymaint â 3,500 ger Ynys Enlli, cymaint ag 800 yn bwydo oddi ar Ynys Sgogwm, ac yn rhyfeddol, 30,000 y dydd ym Mhen Caer yn Nhachwedd. mae'n amlwg bod rhain wedi cychwyn ar eu taith o'r gogledd pell, yn ôl y dystiolaeth o aderyn wedi ei fodrwyo ym Mhenalun, Penfro, (4 Mawrth, 1982)a'i saeth yn Inerssvat, yr Ynys Las dri haf yn ddiweddarach, a'i bod yn cynnwys cyfran o adar o'r Arctig. Mae'r Wylan goesddu yn aderyn sy'n teithio ymhell dros y cefnforoedd, a darganfuwyd rhai o Gymru yn Heligoland, yn Ne Sbaen a Gorllewin Canada (y rhai olaf o fewn trimis i'w deor). Gwelir niferoedd o adar sydd yn eu blwydd gyntaf yn paratoi i hedfan i gytrefi Gwennol y Môr (E.I.S Reisin litt.) ar ddiwedd haf a dechrau'r hydref.

Er mai aderyn y môr yw'r Wylan goesddu, nid yw'n anhebybygol ei gweld mewn aberoedd a glannau mewndirol ar wahân pan fo tywydd eithafol. Nid yw'n hedfan i'r tir, a dim ond ychydig iawn o dystiolaeth o hynny a geir. Yr un anoddaf i'w esbonio yw 14 o adar yn Nyffryn Elan ym Mai 1976 (M. Davies, pers. comm.) Fel adar eigionol, mae'r Gwylanod coesddu, ar adgau, yn gallu cael eu heffeithio gan stormydd gaeaf a dioddef colledion enbyd. Cofnododd Thomas Pennant yn Chwefror 1776 bod miloeddwedi eu darganfod, un ai yn farw, neu ar drengi yn ardal Cricieth. Yn ystod yr 20g y gwaethaf a gofnodwyd oedd 100 wedi marw ym Morgannwg, 40 yn Sir Aberteifi a 30 yn Sir Gaernarfon. Ar yr un adeg cofnodwyd 10, un ai wedi marw, neu ar drengi mewn ardaloedd mewndirol. (McCarten 1958).[5].

Roedd 3,253 o nythod yng Ngogledd Cymru pan wnaed cyfrifiad 1969-70. Erbyn y cyfrifiad nesaf yn 1985-88 roedd y nifer wedi cynyddu i 4,259 ond dangosodd cyfrifiad yn 8.5 dangosodd cyfrifiad 1998-2002 ostyngiad o 9%, 13,880 nyth[6] [angen gwybodaeth am y de]

Mae Atlas Adfer Modrwyon Adar Ynys Enlli[7] yn disgrifio poblogaeth yr wylan goesddu ar yr ynys yn y cyfnod 1953-96 yn ansefydlog ac amrywiol. Bu 100 o barau hyd 1957, wedyn isafbwynt o 2 bar yn unig yn 1967. Gwelwyd cynydd tua chanol y ‘70au i 150 par yn 1986 ac wedyn naid i 1887 - cynydd o 70% mewn blwyddyn. Bu’r boblogaeth yn aros rhwng 198 a 318 par pob blwyddyn tan ddiwedd y cyfnod. [Y sefyllfa heddiw?].

Mae'r adar yn nythu ar arfordiroedd hen siroedd Morgannwg a Chaernarfon (nid Meirionnydd). Gwelir niferoedd hefyd, tra'n mudo, ymhell allan yn y môr.

Symudiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodwyd mudo mawr o wylanod coesddu yn 1999, 6000 oddiar Enlli, 2 Tachwedd, 2000 oddiar Trwyn Leinws, Môn ar y 6ed, 10,000 mewn 4 awr oddiar Strumble Head, Sir Benfro ar y 3ydd ac fe bashiodd 12,000 heibio iddo 31 Hydref 2000.

Ynys Enlli[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid yw’r wylan goesddu yn aderyn mudol yn wir ystyr y term ac mae adferiadau adar â modrwy yn wasgarog iawn. Dengys y dystiolaeth modrwyo ar yr ynys fel a ganlyn:

  • Cyfanswm adar a fodrwywyd 1142
  • Nifer o adar a fodrwywyd ar Enlli ac a ail-ddalwyd oddiar yr ynys yn fyw neu’n farw 16 (1.4%)
  • Taith hwyaf un aderyn 2982km. (saethwyd aderyn o oed anhysbys, mod. Enlli 8 Gorffennaf 1988, yn Nuuk, ger Godthab, yr Ynys Werdd, 15 Mawrth 1989).
  • Hoedledd hwyaf un aderyn 11bl. 2fis. 19 diwrnod (aderyn a fodrwywyd yn Northumberland 28 Mehefin 1961 a ganfuwyd yn farw ar Enlli 17 Medi 1972.

Nid oes awgrym o adar a fodrwywyd fel cywion ar Enlli (pob un namyn un) yn ail sefydlu mewn cytrefi eraill, ond mae tystiolaeth (3 aderyn) o adar a anwyd mewn cytrefi eraill yn cael eu canfod ar Enlli (2x Ynysoedd y Farne, Northumberland, 1x Ynys Canna, yr Alban, pob un yn 1991). Ni wyddys i ba raddau bu’r cynnydd ar Enlli oherwydd mewnlifiad ond mae’r tair enghraifft yma yn awgrymu peth mewnfudo.

Bwyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Bwyd pennaf yr wylan goesddu yw pysgod morol ac infertebrata a gafwyd ar y môr trwy sborioni o gwmpas cychod pysgota, ac yn fwy diweddar, mewn aberoedd a phorthladdoedd. Yn y bôn ymborthwr cefnforol ydyw, un ai trwy dowcio o’r wyneb wrth arnofio, pit-patian ar wyneb y dwr wrth hedfan, plymio o’r wyneb hyd at 0.5-1m o ddyfnder, neu gipio wrth nofio ar y wyneb. Heidiau weithiau yn dilyn cychod pysgota i fanteisio ar sborion a thameidiach pysgod. Dadansoddwyd 45 stumog o gytrefi ym Mhrydain: cynhwysant bysgod, cramenogion ac anelidau a molwsciaid[8]


Yr Wylan goesddu ar Greigiau Rhiwledyn[golygu | golygu cod y dudalen]

Byr iawn, dros gyfnod nythu yn ystod misoedd Mai a Mehefin y gwelir yr Wylan goesddu ar Greigiau Rhiwledyn. O edrych ar lun y nythod mae rhywun yn rhyfeddu sut na fuasent wedi disgyn i'r traeth. Mae'n amlwg mai o wymon yr adaeiladir y rhan helaethaf o'r nythod, ond hefyd defnyddir mwd a glaswellt. Bydd yr iâr yn dodwy rhwng un a thri ŵy fel arfer, a bydd hi a'r ceiliog yn eistedd ar y nyth am rhwng 25 a 32 o ddyddiau. Gall y cywion hedfan o fewn 33 - 54 o ddyddiau. Yn ôl arolwg Parc Gwledig y Gogarth (2017) roedd 665 o barau yn nythu ar Greigiau Rhiwledyn a 327 o barau ar Ben y Gogarth.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r wylan goesddu'n perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae). Dyma aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:


rhywogaeth enw tacson delwedd
Corswennol Inca Larosterna inca
Larosterna inca (Inca Tern - Inkaseeschwalbe) Weltvogelpark Walsrode 2012-015.jpg
Gwylan fechan Hydrocoloeus minutus
Larus minutus juv.jpg
Gwylan ifori Pagophila eburnea
Ivory Gull Portrait.jpg
Gwylan Ross Rhodostethia rosea
Rhodostethia rosea.jpg
Gwylan Sabine Xema sabini
Xema sabini -Iceland -swimming-8 (1).jpg
Gwylan y Galapagos Creagrus furcatus
Swallow-tailed-gull.jpg
Môr-wennol bigfawr Phaetusa simplex
Large-billed Tern.JPG
Môr-wennol gawraidd Hydroprogne caspia
Sterna-caspia-010.jpg
Môr-wennol ylfinbraff Gelochelidon nilotica
Gelochelidon nilotica and Calidris ruficollis (crop).jpg
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Rydym fwyaf ymwybodol o farwolaeth yr wylan goesddu pan fyddant yn marw yn lluoedd oherwydd tywydd mawr. Sonia Pennant yn ei Tour in North Wales am storm fawr Chwefror 1776 a thywydd oer yn ei ddilyn a laddodd lawer iawn o adar arfordir Cricieth gan gynnwys: y pâl, gwalch y penwaig, heligog, gwylan Goesddu (miloedd ohonynt), huganod, gwyddau gwylltion, gwyddau wyran a hwyaid copog.

Ecoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Addasiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn wahanol i adar eraill y clogwyni mae’r wylan goesddu yn gwneud nyth sylweddol o wymon wedi ei gasglu o wyneb y dŵr. O’r herwydd nid oes rhaid iddi greu wy ffurf gellygen fel ei chymdogion, y carfilod di-nyth, yn yr un cynefin.

Mae’r wylan goesddu yn dueddol o fynychu ardal arbennig tua gwaelod clogwyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  2. '’Llyfr Adar Iolo Williams; Gwasg Carreg Gwalch.
  3. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  4. Brenchley et al Atlas Adar Nythu Gogledd Cymru
  5. 5.0 5.1 5.2 Lovegrove, R., Williams, G., a Williams, I., (1994); Birds in Wales, Cyh: T. & A.D. Poyser
  6. Brenchley, A. et. al
  7. Loxton, R.; Kittle, T.; Hope-Jones, P. (1999) Atlas of Recoveries of Birds ringed by Bardsey Observatory 1953-1996 Cyh.: Bardsey Bird and Field Observatory, Bethesda
  8. Cramp S et al Handbook of the Birds of the Western Palearctic
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: