Ynys Wair

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eglwys Santes Helen
Yr hen oleudy

Ynys ym Môr Hafren yw Ynys Wair (Saesneg: Lundy neu Lundy Island). Mae'n rhan o sir Dyfnaint, yn Lloegr. Hi ydyw ynys fwyaf Môr Hafren - mae hi tua 4.5 km o hyd (o'r gogledd i'r de) a thua 1 km o led. Ynys Wair ydyw'r unig warchodfa natur forol yn Lloegr. Mae 18 o bobl (yn 2006) yn byw ar yr ynys, y rhan fwyaf mewn pentre bach yn y rhan ddeheuol. Ceir hen oleudy yno.

Mae'r llong MS Oldenburg yn dod â theithwyr i'r ynys tuag at pum gwaith bob dydd yn ystod yr haf. Mae 23 o fythynnod ar gael i deithwyr i'r ynys.[1]. Gwelir tua 140 rhywogaeth o adar ar yr ynys, ac mae hyd at 35 ohonynt yn nythu yno.[2]

Perchnog yr ynys yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gwarantwyd y pwrcas gan yr Ymddiriedolaeth Landmark, a chyfrannodd Jack Hayward £150,000 at y cost. Cytunodd yr Ymddiriedolaeth Landmark i adfer yr adeiladau ac yn sicrhau bod yr ynys ar gael i'r cyhoedd. Cyblhawyd y gwaith papur ar 29ain Medi 1969.[3]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.