Rhiwledyn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gogarth Fach)
Jump to navigation Jump to search
Rhiwledyn
Little Orme from Llandudno Promenade.jpg
Mathpentir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3247°N 3.7786°W Edit this on Wikidata
Rhiwledyn o rodfa môr Llandudno

Penrhyn creigiog ar arfordir gogledd Cymru sy'n codi 141 metr (463 troedfedd) uwch lefel y môr yw Rhiwledyn a adnabyddir hefyd fel Trwyn y Fuwch, Trwyn y Gogarth neu'r Gogarth Fach (Saesneg: Little Orme), Cyfeirnod OS: SH8182. Mae'n un o ddau benrhyn calchfaen sy'n gorwedd yn nau ben Bae Llandudno, ym mwrdeistref sirol Conwy; Pen y Gogarth, i'r gorllewin, yw'r ail a'r mwyaf o'r ddau. Mae'n gorwedd rhwng Craig-y-don i'r gorllewin a Bae Penrhyn i'r dwyrain ac yn ffurfio pwynt gogledd-ddwyreiniol y Creuddyn.

Cyfeirio at greigiau'r penrhyn hwn o dir a wna'r enw hynafol 'Creigiau Rhiwledyn' neu 'Raulyn' fel y'i sillefid yn 1284.[1] Rhestrir pwynt uchaf y penrhyn yn gopa HuMP dan yr enw Creigiau Rhiwledyn.

Defnydd tir[golygu | golygu cod y dudalen]

Mewn cyferbyniaeth â'r Gogarth dros y bae, ni chafodd Rhiwledyn ei ddatblygu ar gyfer cloddio copr na twristiaeth. Ond agorwyd chwarel calchfaen ganol y 1800au ar ochr Bae Penrhyn. Canolwyd y gwaith ym Mhorth Dyniewyd ac fe'i gwasanaethwyd gan dramffordd chwarel; daeth y chwarelu i ben ym 1936. Defnyddir rhai o'r llethrau isaf ar gyfer ffermio, fel porfa defaid yn bennaf.

Ers y 1970au mae creigiau'r gogledd yn boblogaidd gan ddringwyr sy'n ceisio sialens, ond mae'r dringo'n anodd ac yn gofyn am gryn brofiad gan fod y graig yn anniogel weithiau.

Ecoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae rhannau o Riwledyn (yn bennaf Gwarchodfa Natur Rhiwledyn) yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae'n warchodfa adar yn ogystal, gyda wardeiniaid yn cadw golwg ar yr adar môr niferus. Gellir gweld yr adar hyn trwy gymryd taith ar hyd gwaelod y clogwynni mewn cychod bach, sy'n rhedeg o Landudno yn yr haf.

Rhed Llwybr Gogledd Cymru ar draws Rhiwledyn, gan ddefnyddio'r llwybrau cyhoeddus sy'n arwain i'r copa.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu pobl yn byw ar Riwledyn ar ddechrau Hen Oes y Cerrig, a chafwyd hyd i olion o'r cyfnod yn ogof Pant y Wennol.

Darganfuwyd celc bychan o waith metel Celtaidd o gyfnod Oes yr Haearn mewn ogof ar y penrhyn.

Yn yr Oesoedd Canol gorweddai Rhiwledyn yng nghwmwd y Creuddyn, cantref Rhos. Ceir adfeilion capel canoloesol cysegredig i'r 'Forwyn Fair o'r Penrhyn', ar y llethrau isaf ger Hen Neuadd Penrhyn; rhoddwyd gorau i'w ddefnyddio ym 1930 ac mae'r adfeilion mewn cyflwr drwg erbyn heddiw.

Ar 14 Ebrill 1587, cafwyd hyd i olion gwasg gudd, a ddefnyddiwyd i argraffu llenyddiaeth Gatholig mewn ogof ar Riwledyn, a gafodd ei defnyddio gan y reciwsant lleol Robert Pugh o'r Penrhyn a'i gaplan y Tad William Davies i argraffu Y Drych Cristianogawl (gan Robert Gwyn neu Gruffydd Robert), y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru. Llochesant yno i geisio dianc yr erledigaeth ar Gatholigion a gychwynwyd gan Elisabeth I o Loegr ym Mai 1586.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), t. 214

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]