Gwasg argraffu gudd Rhiwledyn
Enghraifft o'r canlynol | ogof |
---|---|
Cysylltir gyda | Y Drych Cristianogawl |
Rhanbarth | Conwy |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwasg Argraffu Gudd Rhiwledyn yw'r enw a roddir heddiw i'r wasg a argraffodd y llyfr Cymraeg cyntaf i'w argraffu yng Nghymru, a hynny mewn ogof ar Greigiau Rhiwledyn, Llandudno yn 1587. Roedd y cyfnod hwn yn un helbulus i'r Catholigion ac argraffwyd y gwaith yn guddiedig.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Yng Nghastell Newydd Emlyn mae plac sy'n honni mai yno yn 1718 y sefydlwyd y wasg argraffu gyntaf yng Nghymru. Fodd bynnag, argraffwyd Y Drych Cristionogawl mewn ogof ar y Gogarth Fach (sef Rhiwledyn), Llandudno, 131 o flynyddoedd ynghynt.
Gwasg anghyfreithlon oedd hon ac erlidiwyd y Pabyddion yn ddidrugaredd am wneud y gwaith. Roedd problemau crefyddol dyrys ddiwedd yr 16g ac roedd y sefyllfa yn y wlad, yn haf a hydref 1586, yn amser anodd iawn iddynt gan fod Cynllwyn Babington i roi Mari, brenhines yr Alban ar orsedd Lloegr yn lle Elisabeth wedi methu a Chatholigion yn cael eu herlid o'r herwydd. Dienyddiwyd mab hynaf Thomas Salusbury (ganed 1564), mab hynaf Catrin o Ferain am ei ran yng Nghynllwyn Babington.
Ymysg y Catholigion mwyaf nodedig yn y cyfnod hwn yng Nghymru roedd Robert Puw o Blasty Penrhyn Creuddyn, ei gefnder Huw Thomas o Chwitffordd a William Davies offeiriad crefyddol a ferthyrwyd ym Meaumaris yn 1593. Ganwyd William Davies yng Nghroes Eirias (ble mae Parc Eirias heddiw) yn fab i delynor adnabyddus, Roger Thackwell – argraffydd o Sais.
Eu tasg oedd argraffu'r Drych Cristianogawl, gan Griffith Robert, Milan. Mae'r llyfr hwn mewn tair rhan ac yn rhoi gwybodaeth am y ffydd Gatholig i'r Cymry yn y Gymraeg.
Roedd yn llyfr maint poced o 180 o dudalennau, ond dim ond y rhan gyntaf a gyhoeddwyd. Penderfynwyd ei bod yn rhy beryglus i wneud y gwaith yn y plasty ac o'r herwydd penderfynwyd sefydlu'r wasg mewn ogof ym mhenrhyn Rhiwledyn - a buont yno am dros hanner blwyddyn.
Yr ogof
[golygu | golygu cod]Wynebent nifer o broblemau: dim ond o'r môr roedd yn bosib' mynd i'r ogof! bu'n rhaid cario'r offer mewn cychod heb i unrhyw un eu gweld: y wasg argraffu bren, yr inc, y papur, y coed i lorio'r ogof, bwyd ac yn y blaen. Gorffennwyd printio'r rhan gyntaf yn Chwefror 1587 ac mae'r unig gopi perffaith yn y Llyfrgell Genedlaethol, ond ceir tri chopi arall anghyflawn.
Darganfuwyd yr ogof a'i chwmni gan weision yr Ustus Heddwch lleol, Syr Thomas Mostyn o Gloddaeth, ar 14 Ebrill 1587 (Dydd Gwener y Groglith). Fe osodwyd gwarchae ar yr ogof gan dros 40 o ddynion Mostyn, ond roedd arnynt ofn ymosod ar yr ogof! Buont yn gwylio'r lle dros nos, ond erbyn y bore roedd y Catholigion i gyd a'u hoffer wedi dianc, er fe ddaliwyd Roger Thackwell rai misoedd yn ddiweddarach!
Mae'n bosib nad oedd y gwylwyr wedi gwneud eu gwaith yn drylwyr, ond dywedir am Mostyn: “a man not very rigid against Catholics”. Fe wnaeth Ustus heddwch arall – Dr William Griffiith o Gaernarfon ysgrifennu llythyr cas at Archesgob Caergaint ymhen 5 niwrnod i gwyno am ddiofalwch Thomas Mostyn. Llythyr William Griffith yw prif ffynhonnell ein gwybodaeth am y wasg.
Mae sôn hefyd bod John Penry yn cwyno am y driniaeth dyner gafodd “knave Thackwell … which printed popish and traitorous Welsh books in Wales” gan yr awdurdodau wedi iddo gael ei ddal.
Daliwyd William Davies yng Nghaergybi ym 1592 pan oedd ar groesi'r môr i'r Iwerddon gydag ymgeiswyr clerigaidd ar eu ffordd i Valladolid yn Sbaen. Fe roddwyd sawl cyfle iddo newid ei ddaliadau crefyddol ond ni wnai ildio. Bu mewn sawl carchar ar wahaân i Fiwmaris gan gynnwys Ludlow a Bewdley cyn cael ei anfon yn ôl i Fôn. Roedd yna lawer o gydymdeimlad â'i achos yn lleol, ond yn y diwedd fe'i deddfrydwyd i gael ei grogi ar y 27ain o Orffennaf 1593. Doedd neb lleol yn fodlon gwneud y gwaith, a bu'n rhaid cyflogi dau ddyn o Gaer ar gost uchel.
Dirgelwch yr ogof
[golygu | golygu cod]Ond, y cwestiwn mawr yw, “Pa ogof oedd honno?”
[golygu | golygu cod]Ymwelodd Tom Parry, sy'n arbenigwr ar hanes lleol, a minnau â'r ogof a gysylltir gan rai arbenigwyr â'r wasg argraffu (Cyfeirnod map 8132.8250) yn weddol ddiweddar. 'R oedd Tom wedi bod yno sawl gwaith o'r blaen, ond heb ymweld â hi ers dros ugain mlynedd. Hwn oedd f'ymweliad cyntaf i.
Mae'r ogof wedi ei lleoli rhyw 80 troedfedd islaw copa' Gogarth Fach a 300 troedfedd uwchben y môr ar lethr digon serth sydd bron yn syth wrth nesau at lefel y môr. Dim ond ychydig dros ddwy droedfedd yw uchder y fynedfa i'r ogof, sy'n wynebu'r gogledd (a'r môr). Yn ôl disgrifiad Kenneth Dibble yn ei lyfr Saesneg 'Rhiwledyn and Little Orme' mae twnnel o rhyw 7 troedfedd yn arwain i'r ogof ei hun. Mae honno'n mesur rhyw 10 troedfedd wrth 12 troedfedd a'r to yn codi i rhyw 12 troedfedd. Hefyd, mae yna siafft yn codi tua 15 troedfedd. Gallai'r siafft yma fod wedi ei ddefnyddio fel ffordd o ddianc neu fel simdde i fwg.
Bu gwr o'r enw Douglas B. Hague o Gomisiwn Brenhinol Henebion yn archwilio'r ogof yma ym 1961 gan geisio darganfod olion marciau yn y llawr ble mae'n bosib' bu 'joists' gwasg argraffu. Yn anffodus, roedd yna rhyw ddeunaw modfedd o'r hyn a alwodd yn 'modern debris' ar y llawr ond er hynny roedd yn argyhoeddedig bod y marciau yn rhai tebygol. Ni allodd ddarganfod unrhyw olion o 'deip argraffu' ond er hynny roedd Douglas Hague yn tueddu i gredu bod yr ogof wedi ei defnyddio i'r pwrpas yma yn yr 16g. Yn diweddarach cadarnhawyd y 'floor joists imprint' gan Melvyn Davies archeolegydd gyda'r Cyngor Gwarchod Natur.
Nid yw safle'r ogof na'i maint yn gwahaniaethu oddi wrth ddisgrifiad yr Ynad Heddwch, William Griffith yn ei lythyr at Archesgob Caergaint ym 1587 yn trafod lleoliad y fan bu'r Pabyddion yn argraffu'r Drych Cristianogawl nag ychwaith gerdd wyr Robert Pugh, Gwilym Pugh, dan y teitl 'Mawl Penrhyn' yn 1676. Yn Mawl Penrhyn mae sôn am fwg yn codi o ogof ar y Gogarth Fach.
Ogof Ty'n y Graig
[golygu | golygu cod]Cred rhai arbenigwyr mai Ogof Ty'n y Graig yw'r un. Mae hon ar lan y lli ond nid yw'n bosib mynd ati ond o'r môr a hynny pan fo'r llanw'n isel. Ar y chwith fe welwch y fynedfa, ac yn y llun isod mae Tom Parry yn sefyll wrth gwch tu mewn i'r ogof.
Nid yw Tom Parry yn credu bod yr un o'r ddwy ogof i fyny â'r gofynion. Dros y blynyddoedd chwalwyd rhan fawr o'r Gogarth Fach drwy weithgareddau chwarelyddol, Chwarel Trwyn y Fuwch (Rhiwledyn). Yn ei farn ef, mae'n fwy na thebyg bod yr ogof dan sylw wedi ei chwalu ers rhai blynyddoedd. Gorchwyl hawdd fyddai cyrraedd y môr i'r argraffwyr pe bai'r ogof yn agos at Borth Dyniewyd. Cred eraill mai ymgais i daflu llwch i lygaid yr awdurdodau oedd stori'r ogof. All rhywun brofi'n wahanol?
Oriel luniau o ogof gudd rhiwledyn
[golygu | golygu cod]-
Yr olygfa o geg yr ogof.
Heddiw
[golygu | golygu cod]Mae'r olygfa'n bur wahanol o ben y clogwyn yn agos at yr ogof gyntaf. Mae melinau gwynt 'Rhyl Flats', 'North Hoyle' a 'Gwynt y Môr' yn amlwg o ben Rhiwledyn.