Gwylan

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Laridae)
Am y ddrama gan Chekhov gweler Gwylan (drama). Gweler hefyd Gwylan (gwahaniaethu).

Aderyn a gysylltir â glan y môr yw gwylan ['gʊɨ̯lan] (lluosog gwylanod neu weithiau 'gwylain'); gair sydd o darddiad Brythonig.

Mae'r wylan yn bwyta pysgod wrth gwrs, ond mae hefyd yn bwyta pob math o gig, wyau adar eraill, hadau a llysiau a hefyd anifeiliaid wedi marw a phob math o fudreddi.[1][2] Mae'n lladd a bwyta crancod trwy hedfan yn uchel a'u gollwng ar y creigiau fel bod y crancod yn torri'n ddarnau. Yng Nghymru yr ydym yn eu gweld yn dilyn aradr, hyd yn oed filltiroedd i mewn i'r tir mawr, yn casglu mwydon a chynrhon wrth iddynt ddod i'r wyneb. Bydd yr wylan yn bwydo ei rhai bach drwy godi cil.[1]

Ymhlith y gwahanol fathau o wylanod mae Gwylan Benddu, Gwylan y Penwaig, Gwylan Gefnddu Fwyaf, Gwylan Gefnddu Leiaf, Gwylan y Gweunydd a Gwylan Goesddu.

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ceir drama enwog gan Anton Chekhov o'r enw 'Yr Wylan'. Sgwennodd Dafydd ap Gwilym flynyddoedd ynghynt gywydd enwog iddi ('Darn o haul, dyrnfol heli...') ac englyn iddi:

Yr Wylan

Lliw eira mewn mantell arian - ar don
Hwyr y dydd, yn cwynfan;
Ewyn môr yn y marian,
A chwaer i luwch ar y lan.

Fe'i defnyddir hefyd i ragddweud y tywydd; dyma hen bennill i'r perwyl hynny:

Yr wylan fach adnebydd
Pan fo'n gyfnewid tywydd;
Hi hed yn deg ar adain wen
O'r môr - i ben y mynydd.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Mae'r gair golau yn dod o'r Frythoneg a gwelir hyn yn y berthynas rhwng y tair iaith:

  • Llydaweg: gouelan ['gwe:lɑ̃n]; gwrywaidd; lluosog: gouelaned, gouelini
  • Cernyweg: golan ['go:lan]; benywaidd; lluosog: golanes

Daeth y gair Ffrangeg goéland o'r gair Llydaweg gouelan, a benthyciad o'r Gymraeg, mae'n debyg, yw'r Saesneg gull.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Perrins, Christopher, gol. (2004) The New Encyclopedia of Birds, Oxford University Press, Rhydychen.
  2. Svensson, Lars & Peter J. Grant (1999) Collins Bird Guide, HarperCollins, Llundain.
  3. BrythonicWOTD ar Trydar; adalwyd 8 Mai 2018.
Chwiliwch am gwylan
yn Wiciadur.