Gwylan Gefnddu Fwyaf
Gwedd
| Gwylan Gefnddu Fwyaf | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Charadriiformes |
| Teulu: | Laridae |
| Genws: | Larus |
| Rhywogaeth: | L. marinus |
| Enw deuenwol | |
| Larus marinus Linnaeus, 1758 | |

Yr wylan fwyaf a welir yn ynysoedd Prydain yw'r Wylan Gefnddu Fwyaf (Larus marinus). Fel Gwylan y Penwaig, aderyn ysglyfaethus iawn yw hi, gan fwyta pysgod, llygod, adar a'u chywion gan gynnwys wyau a chywion gwylannod eraill. Mae fel arfer yn aros yn yr un man o flwyddyn i flwyddyn. Am ei bod yn aderyn sy'n hela, mae fel arfer ar ei phen ei hun, neu yn un o ddwy.
Dyma'r mwyaf o'r holl wylanod.