Gwylan y Gweunydd
Gwedd
| Gwylan y Gweunydd | |
|---|---|
| Oedolyn yn Norwy | |
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Charadriiformes |
| Teulu: | Laridae |
| Genws: | Larus |
| Rhywogaeth: | L. canus |
| Enw deuenwol | |
| Larus canus Linnaeus, 1758 | |

Gwylan ganolig ei maint o Ewrasia a Gogledd America yw Gwylan y Gweunydd (Larus canus). Mae'n nythu ger y môr a mewn cynefinoedd mewndirol megis gweunydd, corsydd, afonydd a llynnoedd.[1] Mae'r mwyafrif o adar yn mudo i'r de yn ystod y gaeaf. Mae'n bwydo ar infertebratau a physgod gan fwyaf.[1]
Mae'n 40–42 cm o hyd a 110–130 cm ar draws yr adenydd.[1] Mae'r oedolyn yn wyn gyda chefn ac adenydd llwyd. Mae blaenau'r adenydd yn ddu gyda smotiau gwyn. Mae lliw'r coesau a'r big yn felyn neu'n wyrdd. Ceir llinellau llwyd ar y pen yn ystod y gaeaf.
Isrywogaethau
[golygu | golygu cod]Mae gan Wylan y Gweunydd bedair isrywogaeth.[2] Ystyrir L. c. kamtschatschensis a L. c. brachyrhynchus yn rhywogaethau gwahanol gan rai tacsonomyddion.
- Larus canus canus: gogledd Ewrop o Wlad yr Iâ i ogledd-orllewin Rwsia
- Larus canus heinei: Rwsia o ardal Moscfa i Afon Lena
- Larus canus kamtschatschensis: dwyrain Siberia
- Larus canus brachyrhynchus (Gwylan Fewian): gogledd-orllewin Gogledd America
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) BTO BirdFacts: Common Gull (Larus canus)
- (Saesneg) Internet Bird Collection: Mew Gull (Larus canus) Archifwyd 2016-03-10 yn y Peiriant Wayback
