Neidio i'r cynnwys

Gwylan (drama)

Oddi ar Wicipedia
Gwylan
Enghraifft o:gwaith dramatig Edit this on Wikidata
AwdurAnton Chekhov Edit this on Wikidata
IaithRwseg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1896 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1895 Edit this on Wikidata
Genrecomedi Edit this on Wikidata
CymeriadauIrina Nikolayevna Arkadina, Konstantin Gavrilovich Treplyov, Pjotr Nikolayevich Sorin, Dorn, Boris Alexeyevich Trigorin, Nina Mikhailovna Zarechnaya, Ilya Afanasyevich Shamrayev, Polina Andryevna, Masha, Semyon Semyonovich Medvedenko, Yakov Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afAlexandrinsky Theatre Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af17 Hydref 1896 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/02dx08 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

"Comedi mewn pedair act" gan y dramodydd o Rwsia, Anton Chekhov yw Gwylan (Rwseg Чайка, "Chayka" [geilw W. Gareth Jones y ddrama yn "Tshaica"][1]; Saesneg The Seagull) a gyfansoddwyd ym 1895 a'i llwyfannu am y tro cyntaf ym 1896. Mae hi ymhlith y 4 drama mwyaf enwog y dramodydd. Cyfieithwyd y ddrama i'r Gymraeg gan W. Gareth Jones ym 1970 a'i chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru fel rhan o'r gyfres Y Ddrama yn Ewrop.

Mae'n dramateiddio'r gwrthdaro rhamantus ac artistig rhwng pedwar cymeriad: y llenor Boris Trigorin, y llances ifanc Nina, yr actores hŷn Irina Arkadina, a'i mab y dramodydd symbolaidd Konstantin Treplev.

Cyn i Gwylan gael ei pherfformio am y tro cyntaf ym mis Hydref 1896, ystyrid Chekhov "yn feistr ar y stori fer, ac yn Rwsia hyd heddiw [1970au] fel storïwr yn anad dim y meddylir amdano".[1]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
Cymeriadau

Chekhov

Cymeriadau

W. Gareth Jones

Disgrifiad W. Gareth Jones
Irina Nikolayevna Arkadina Irina Arcadina ei henw priod yw Treplefa, actores
Konstantin Gavrilovich Treplev Constantin Treplef ei mab, gŵr ifanc
Pyotr Nikolayevich Sorin Piotr Sorin ei brawd
Nina Mikhailovna Zarechnaya Nina Zaretshnaia merch ifanc, a'i thad yn dirfeddiannwr cyfoethog
Ilya Afanasyevich Shamrayev Ilia Shamraief is-gapten wedi ymddeol o'r fyddin, beili Sorin.
Polina Andreyevna Polina Shamraiefa ei wraig
Maria Ilyinishna Shamrayeva, "Masha" Masha ei ferch
Boris Alexeyevich Trigorin Boris Trigorin llenor
Yevgeny Sergeyevich Dorn Iefgeni Dorn meddyg
Semyon Semyonovich Medvedenko Seimon Medfedenco athro
Yakov Iacof gwas
Gotovit' Cogydd
Sluzhanka Morwyn

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

Mae Piotr Sorin, cyn uwch-was-sifil sydd bellach wedi ymddeol, yn ymlacio ar ei ystâd wledig, wrth i'w iechyd 'wanychu. Mae ei chwaer, yr actores Irina Arcadina, yn cyrraedd am wyliau byr gyda'i chariad, y llenor Boris Trigorin. Mae Piotr a'i westeion yn ymgynnull ar lwyfan awyr agored i weld drama anghonfensiynol mab Irina, Constantin Treplef, wedi'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo ganddo. Mae'r ddrama-o-fewn-drama yn cynnwys Nina, menyw ifanc sy'n byw ar ystâd gyfagos. Y ddrama yw ymgais ddiweddaraf Constantin i greu ffurf theatrig newydd. Mae'n waith symbolaidd dwys. Mae Irina yn chwerthin am y ddrama, am ei bod hi'n anodd ei deall ac yn chwerthinllyd. Daw'r perfformiad i ben yn gynnar, ar ôl i'r gynulleidfa ymyrryd ac mae Constantin yn rhuthro oddi yno, mewn cywilydd. Nid yw Irina'n bryderus am ei mab, ac er bod eraill yn gwawdio ei ddrama, mae'r meddyg Iefgeni Dorn yn ei ganmol.

Mae Act 1 yn planu gwahanol drionglau rhamantus yn y ddrama. Mae'r athro ysgol Seimon Medfedenco wedi gwirioni efo Masha, merch stiward yr ystâd Ilia Shamraief a'i wraig Polina Shamraiefa. Fodd bynnag, mae Masha mewn cariad â Constantin, sydd mewn cariad â Nina, ond mae Nina'n syrthio mewn cariad â Trigorin. Mae Polina mewn perthynas ag Ifvgeni. Pan ddywed Masha wrth Iefgeni am ei hiraeth am Constantin, mae Iefgeni yn beio'r llyn ar yr ystâd, am wneud i bawb deimlo'n rhamantus.

Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, yn y prynhawn, mae'r cymeriadau eto'n ymlacio tu allan, ar yr ystâd. Ar ôl hel atgofion am gyfnodau hapusach, mae Madam Arcadina'n cael dadl frwd gyda stiward y tŷ Shamraief ac yn penderfynu ymadael. Mae Nina'n aros, ar ôl i'r grŵp adael, ac mae Constantin yn cyrraedd i roi gwylan iddi - gwylan y mae ef wedi'i saethu'n farw. Mae Nina wedi'i drysu ac wedi dychryn gan yr anrheg. Mae Constantin yn gweld Trigorin yn agosáu ac yn gadael mewn ffit o genfigen.

Mae Nina yn gofyn i Trigorin ddweud mwy wrthi am ei fywyd fel llenor; mae yntau'n ateb nad yw'n fywyd hawdd. Mae Nina yn dweud ei bod hi'n gwybod nad yw bywyd actores yn hawdd chwaith, ond ei bod hi'n dymuno bod yn un, prun bynnag. Mae Trigorin yn gweld yr wylan y mae Constantin wedi'i saethu ac yn myfyrio ar sut y gallai ei ddefnyddio fel pwnc ar gyfer cynllun i stori fer:

"Merch ifanc fel chi [Nina] wedi byw ar lan llyn ers ei phlentyndod; yn caru'r llyn, fel gwylan. Ond mae dyn yn digwydd dod heibio, yn ei gweld hi ac, er mwyn pasio'r amser, yn ei dinistrio, fel yr wylan acw".[1]

Geilw Madam Arcadina am Trigorin, ac mae'n gadael wrth iddi ddweud wrtho ei bod wedi newid ei meddwl – a byddan nhw'n gadael ar unwaith. Mae Nina'n oedi eto, wedi'i swyno gan enwogrwydd a gostyngeiddrwydd Trigorin, ac "ar ôl tipyn o fyfyrio" yn datgan, "Breuddwyd!"[1] [neu "fy mreuddwyd"].

Tu mewn i'r ystâd, mae Madam Arcadina a Trigorin wedi penderfynu ymadael. Rhwng y ddwy act, ceisiodd Constantin ladd ei hun trwy saethu ei hun yn y pen, gyda'r fwled dim ond yn crafu ei benglog. Mae'n treulio'r rhan fwyaf o Act 3 gyda'i ben wedi'i rwymo'n drwm.

Mae Nina yn dod o hyd i Trigorin sy'n bwyta ei frecwast ac yn cyflwyno "[m]edaliwn fach" iddo, fel arwydd o'i hymroddiad. Mae'r fedaliwn yn cynnwys arysgrif, wedi iddi gael "[t]orri llythrennau cyntaf eich enw, ac ar yr ochr arall, deitl eich llyfr: "Dyddiau a Nosau". Mae cyfeiriad penodol hefyd at rif y dudalen a'r llinellau, ac fe ddadlenir mai cyfeirio at y linnell "Os bydd eisiau fy mywyd arnat rywbryd, yna tyrd a chymer ef" y mae'r anrheg.[1] Mae hi'n encilio eto cyn ceisio'r cyfle olaf i weld Trigorin cyn iddo adael. Mae Madam Arcadina yn ymddangos, ac yna Sorin, gyda'i iechyd yn parhau i ddirywio. Mae Trigorin yn ymadael i barhau i bacio. Ar ôl dadl fer rhwng Irina a Sorin, mae Sorin yn cwympo mewn galar. Mae Medfedenco yn ei gynorthwyo. Daw Constantin i mewn i ofyn i'w fam newid ei rwymyn. Wrth iddi wneud hyn, mae Constantin yn dirmygu Trigorin, gan ysgogi dadl arall. Pan ail-ymuna Trigorin, mae Constantin yn gadael yn ei ddagrau.

Gofyna Trigorin wrth Madam Arcadina os allant aros yn yr ystâd, ond mae hi'n ei swyno ac yn ei berswadio i ddychwelyd gyda hi i Moscfa. Ar ôl iddi adael yr ystafell, daw Nina i ffarwelio â Trigorin am y tro olaf ac i'w hysbysu ei bod hi am ddianc i fod yn actores yn erbyn dymuniadau ei rhieni. Maen nhw'n cusanu'n angerddol ac yn gwneud cynlluniau i gyfarfod eto ym Moscfa.

Aeth dwy flynedd heibio, a dychwelwn yn y Gaeaf i "un o'r parlyrau yn nhŷ Sorin wedi ei droi gan Constatin yn stydi". Mae Masha o'r diwedd yn derbyn cynnig priodas Medfedenco, ac mae ganddyn nhw blentyn gyda'i gilydd, er bod Masha yn dal i feithrin cariad digymar at Constantin. Mae amryw o gymeriadau'n trafod yr hyn sydd wedi digwydd yn y ddwy flynedd aeth heibio: bu Nina a Trigorin yn byw gyda'i gilydd ym Moscfa am gyfnod nes iddo ei gadael a mynd yn ôl at Madam Arcadina. Rhoddodd Nina enedigaeth i fabi Trigorin, ond bu farw mewn cyfnod byr. Ni chafodd Nina unrhyw lwyddiant gwirioneddol fel actores, ac ar hyn o bryd mae hi ar daith o amgylch y taleithiau gyda grŵp theatr bychan. Mae Constantin wedi cyhoeddi rhai straeon byrion, ond mae'n gynyddol isel ei ysbryd. Mae iechyd Sorin yn gwanhau, ac mae gweithwyr yr ystâd wedi anfon neges at Madam Arcadina i ddychwelyd ar gyfer ei ddyddiau olaf.

Mae'r rhan fwyaf o gymeriadau'r ddrama yn mynd i'r parlwr i chwarae gêm o loto. Nid yw Constantin yn ymuno â nhw, gan ddewis yn hytrach i weithio ar lawysgrif wrth ei ddesg. Ar ôl i'r criw ymadael am ginio, mae Constantin yn clywed rhywun wrth y drws cefn. Mae'n synnu o weld mai Nina sydd yno, ac mae'n ei gwahodd i mewn. Mae Nina yn dweud wrth Constantin am ei phrofiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae Constantin yn dweud wrthi ei fod wedi dilyn Nina. Mae hi'n dechrau cymharu ei hun â'r wylan a laddodd Constantin yn Act 2, cyn ail-feddwl, a datgan mai "actores" yw hi erbyn hyn, fel mae yntau yn datblygu'n "llenor". Mae hi'n dweud wrtho ei bod wedi'i gorfodi i deithio gyda chwmni theatr eilradd ar ôl marwolaeth y plentyn a gafodd gyda Trigorin, ond mae'n ymddangos bod ganddi hyder newydd. Mae Constantin yn erfyn arni i aros, ond mae hi mewn cymaint o ddryswch fel na effeitha dim ar ei meddylia.Mae hi'n cofleidio Constantin ac yn gadael. Yn ddigalon, mae Constantin yn rhwygo ei lawysgrifau yn dawel cyn gadael y parlwr.

Mae deiliaid yr ystâd yn dychwelyd wedi'r ciniawa, ac yn ôl i'r gêm. Clywir ergyd gwn sydyn oddi ar y llwyfan, ac mae Dorn yn mynd i ymchwilio. Mae'n dychwelyd ac yn mynd â Trigorin o'r neilltu, gan ei rybuddio bod yn rhaid cadw Madam Arcadina draw, am bod Constantin wedi saethu ei hun.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Prynodd Chekhov fferm Melikhovo ym 1892, gan orchymyn iddynt godi preswylfa yng nghanol perllan geirios. Roedd gan y llety dair ystafell, un yn cynnwys gwely a'r llall yn cynnwys bwrdd ysgrifennu. Symudodd Chekhov yno tua 1895, ac mewn llythyr a ysgrifennwyd ym mis Hydref ysgrifennodd:

"Rwy'n cyfansoddi drama na fyddaf yn ei gorffen cyn diwedd mis Tachwedd, mae'n debyg. Nid heb bleser yr wyf yn ei hysgrifennu, er fy mod yn tyngu'n ofnus ar gonfensiynau'r llwyfan. Comedi, tair rhan i ferched, chwech i feibion, pedair act, golygfa ar lyn; llawer o siarad am lenydda, dim llawer yn digwydd, pum pwys o gariad"[2][1]

Noda'r cyfieithydd W. Gareth Jones yn ei Ragair i'r cyhoeddiad Cymraeg : "Wrth sôn am ei bum pwys o gariad, mae Tshechof yn awgrymu fod gan ei ddrama blot rhamantaidd difyr - patrwm rhamantaidd safonol wedi'i osod ar ddigwyddiadau'r ddrama, fel y gosododd Trigorin ffrâm fach ddeiniadol am stori'r wylan farw - ond wrth gwrs yn Gwylan mae yna blot cymhleth".[1]

Fel dramâu hir eraill Chekhov, mae Gwylan yn ddibynnol ar ensemble o gymeriadau amrywiol a llawn. Mewn cyferbyniad â melodrama theatr brif ffrwd y 19eg ganrif, ni ddangosir ar y llwyfan weithredoedd erchyll (megis ymdrechion hunanladdiad Constantin).[3]

"Wrth alltudio'r digwyddiadau cyfrwys hyn i'r cefndir ac i'r egwylion rhwng yr actau - y mae Tchechof fel petai'n alltudio awdurdod dyn" noda W. Gareth Jones, "Ar y llwyfan, darnau bychain dinod o fywyd a welir: cwyno am fywyd cefn gwlad, cweryla am geffylau, sôn am bysgota, chwarae loto, a cheir argraff o fywyd fel ag y mae, gyda'r mân bethau'n llenwi ein golwg a'r pethau dychrynllyd, tyngedfennol yn digwydd yn ddirgel, allan o'n cyrraedd", meddai.[1]

Mae'r cymeriadau'n dueddol o siarad drwy is-destun yn hytrach nag yn uniongyrchol.[3] Ystyrir y cymeriad Trigorin yn un o gymeriadau gwrywaidd gorau Chekhov.

Addasiadau Cymraeg

[golygu | golygu cod]

Yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1952, llwyfannwyd cyfieithiad T. Hudson Williams o'r enw Yr Wylan gan Gwmni Caergybi yn y gystadleuaeth actio drama.

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Roedd noson agoriadol y cynhyrchiad cyntaf yn fethiant enwog. Wedi'i dychryn gymaint gan elyniaeth y gynulleidfa, collodd Vera Komissarzhevskaya, oedd yn portreadu Nina, ei llais. [4] Ymadawodd Chekhov â'r gynulleidfa a threuliodd y ddwy act olaf y tu ôl i'r llenni. Pan geisodd ei gefnogwyr ei ddarbwyllo o lwyddiant y ddrama, tybiodd mai ceisio bod yn garedig yr oeddent.[5] Pan gyfarwyddodd Konstantin Stanislavski, [ymarferydd theatr arloesol o Rwsia] y ddrama ym 1898 ar gyfer Theatr Gelf Moscow, roedd y ddrama yn lwyddiant mawr. Daeth cynhyrchiad Stanislavski yn "un o'r digwyddiadau mwyaf yn hanes theatr Rwsia ac un o'r datblygiadau newydd yn hanes drama'r byd".[6]

Castiau nodedig
Cymeriad West End

Llundain

West End

Llundain

Public Theater

Efrog Newydd

West End

Llundain

Barbican

Llundain

1936 1994 2001 2020 2025
Irina Arkadina Edith Evans Judi Dench Meryl Streep Indira Varma Cate Blanchett
Konstantin Treplev N/A Alan Cox Philip Seymour Hoffman Daniel Monks Kodi Smit-McPhee
Pyotr Sorin Frederick Lloyd Norman Rodway Christopher Walken Robert Glenister Jason Watkins
Nina Zarechnaya Peggy Ashcroft Helen McCrory Natalie Portman Emilia Clarke Emma Corrin
Ilya Shamrayev George Devine Robert Demeger John Goodman Jason Barnett Paul Higgins
Polina Andreyevna N/A Anna Calder-Marshall Debra Monk Sara Powell Priyanga Burford
"Masha" Shamreyeva Marita Hunt Rachel Power Marcia Gay Harden Sophie Wu Tanya Reynolds
Boris Trigorin John Gielgud Bill Nighy Kevin Kline Tom Rhys Harries Tom Burke
Yevgeny Dorn N/A Edward Pethebridge Larry Pine Gerald Kyd Paul Bazley
Semyon Medvedenko N/A John Hodgkinson Stephen Spinella Mika Onyx Johnson Zachary Hart
Yakov N/A Jimmy Gardner Henry Gummer N/A N/A

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 Jones, W. Gareth (1970). Gwylan. Gwasg Prifysgol Cymru.
  2. Chekhov, Anton. 1920. Letters of Anton Chekhov to His Family and Friends with Biographical Sketch. Trans. Constance Garnett. New York: Macmillan. Full text available online at Gutenberg.
  3. 3.0 3.1 Benedetti, Jean. 1989. Stanislavski: An Introduction. Revised edition. Original edition published in 1982. London: Methuen. ISBN 0-413-50030-6.
  4. Chekhov (1920); Letter to A. F. Koni, 11 November 1896. Available online at Project Gutenberg.
  5. Chekhov (1920); Letter to A. F. Koni, 11 November 1896. Available online at Project Gutenberg.
  6. Rudnitsky, Konstantin. 1981. Meyerhold the Director. Trans. George Petrov. Ed. Sydney Schultze. Revised translation of Rezhisser Meierkhol'd. Moscow: Academy of Sciences, 1969. ISBN 0-88233-313-5.