Gwylan y Penwaig
| Gwylan y Penwaig | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Charadriiformes |
| Teulu: | Laridae |
| Genws: | Larus |
| Rhywogaeth: | L. argentatus |
| Enw deuenwol | |
| Larus argentatus Pontopiddan, 1763 | |

Un o'r gwylanod mwyaf ei maint yw Gwylan y Penwaig (Lladin: Larus argentatus; Saesneg: Herring Gull), sydd weithiau cyhyd â 66 cm o ran hyd, a hefyd sy'n un o'r gwylanod mwyaf rheibus ac ysglyfaethus, gan wledda ar bob math o bethau, gan gynnwys cywion gwylanod eraill. Mae ganddi enwau eraill gan gynnwys Gwylan Lwyd, Gwylan Frech a Gwylan Ysgadan. Mae'n byw yng ngogledd a gorllewin Ewrop; ceir rhywogaethau tebyg yn ne Ewrop, Gogledd America ac Asia. Gallant ymdopi a bywyd trefol hefyd, yn enwedig mewn dymps.
Sgrech
[golygu | golygu cod]Mae eu sŵn (neu swn) yn ymdebygu i sgechian chwerthin yn hemisffer y gogledd. Gallant hefyd wneud swn neu gri perygl a thro arall swn isel tebyg i gyfarth ci pan maent mewn argyfwng.
Mae'r cywion yn gwneud swn unigryw sy'n cael ei ailadrodd: swn uchel tebyg i 'pîîp', gan fflicio eu pennau yr un pryd - yn enwedig pan maen nhw'n mofyn bwyd gan eu rhieni. Yn rhyfedd iawn, mae oedolion y gwylanod hefyd yn gwneud hyn pan cânt eu bwydo gan bobl.