Yr Ynys Las

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Greenland)
Jump to navigation Jump to search
Grønland
Kalaallit Nunaat

Yr Ynys Las
Baner yr Ynys Las Arfbais yr Ynys Las
Baner Arfbais
Arwyddair: dim
Anthem: Nunarput utoqqarsuanngoravit
Nuna asiilasooq
Lleoliad yr Ynys Las
Prifddinas Nuuk (Godthåb)
Dinas fwyaf Nuuk
Iaith / Ieithoedd swyddogol Kalaallisut, Daneg
Llywodraeth Democratiaeth seneddol (tu fewn i frenhiniaeth gyfansoddiadol)
- Teyrn Margrethe II
- Prif Weinidog Kim Kielsen
Statws

- Ymreolaeth
Talaith ymreolaethol Teyrnas Denmarc
1979
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
2,166,086 km² (13eg)
81.11
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Dwysedd
 
56,968 (31 Mawrth 2014) (214ydd)
0.026/km² (230ain)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2001
$1.1 biliwn (-)
20,000 (-)
Indecs Datblygiad Dynol (1998) 0.927 (-) – uchel
Arian cyfred Krone Denmarc (DKK)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC0 i -4)
Côd ISO y wlad .gl
Côd ffôn +299
1 Gorchuddir 1,755,637 km2 gan iâ.

Yr ynys fwyaf yn y byd yw'r Ynys Las neu'r Lasynys (Kalaallisut: Kalaallit Nunaat; Daneg: Grønland), yng Ngogledd Môr yr Iwerydd rhwng Canada a Gwlad yr Iâ. Mae brenhines Denmarc, Margrethe II, hefyd yn frenhines ar yr Ynys Las. Prifddinas yr ynys yw Nuuk.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygfa ger Nanortalik

Mae iâ yn gorchuddio 84% o'r tir. Gorchuddir y rhan fwyaf o'r wlad gan gap rhew anferth â nunatakau yn torri trwodd o gwmpas ei ymylon. O'r cap rhew hwn mae nifer o rewlifoedd, neu afonydd iâ, yn llifo, gan gynnwys Rhewlif Humboldt, ac yn torri i fyny'n fynyddoedd iâ wrth gyrraedd y môr. Nodwedd arall ar dirwedd yr Ynys Las yw'r nifer sylweddol o pingos (bryniau crwn gyda rhew yn eu canol) a geir yno.

Er gwaethaf yr holl rew, mae'r enw yn y Ddaneg (ac mewn ieithoedd Almaenaidd eraill) yn golygu "Tir (neu wlad) glas" (gweler isod).

Mae'r Ynys Las (2 miliwn km²) yn ymddangos ar fapiau o dafluniad Mercator cymaint ag yr Affrig (30 miliwn km²),

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes yr Ynys Las

Cyrhaeddodd pobl yr Ynys Las am y tro cyntaf tua 2500 CC. Tua'r flwyddyn 986, darganfu'r morwr o Lychlynwr Eric Goch yr ynys. Fe'i galwodd "yr Ynys Las" er mwyn denu pobl yno o Wlad yr Iâ a Norwy. Cyrhaedodd yr Inuit modern o'r gogledd-orllewin tua 1200. Am gyfnod bu nifer fach o drefedigaethau Llychlynaidd ar yr arfordir, ond diflanasant erbyn y 15g, naill ai o ganlyniad i afiechyd neu ymosodiadau gan y brodorion. Yn 1721 creuwyd tref fechan Ddanaidd newydd ar yr ynys a hawliodd coron Denmarc y tir. Cafodd yr Ynys Las ei gwahanu oddi wrth Denmarc yn ystod yr Ail Ryfel Byd o ganlyniad i feddiannaeth Denmarc gan yr Almaen. Daeth y wlad yn rhan gymathedig o Ddenmarc yn 1953. Yn 1979, y flwyddyn y collwyd y refferendwm ar ddatganoli yng Nghymru, enillodd yr Ynys Las hunanlywodraeth dan sofraniaeth Denmarc, gyda'i senedd ei hun ar gyfer materion mewnol.

Iaith a diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae tua 80% o'r boblogaeth yn Esgimo. Daniaid yw'r gweddill i gyd bron. Siaredir y ddwy iaith yn swyddogol.

Trefi mwyaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]