Gottfried Wilhelm von Leibniz

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Portread o Leibniz gan Bernhard Christoph Francke (olew ar ganfas)

Athronydd Almaenig oedd Gottfried Wilhelm Leibniz (1 Gorffennaf 164614 Tachwedd 1716), a anwyd yn Leipzig, yr Almaen.

Yn ogystal â bod yn athronydd, roedd Gottfried Leibniz yn wyddonydd, mathemategydd, llenor, diplomydd a hanesydd.

Gyda'r eglwyswr Ffrengig Bossuet ceisiai ddarganfod modd i gymodi ac uno'r Eglwys Gatholig a'r eglwysi diwygiedig. Tua'r un adeg â Isaac Newton darganfu Leibniz calcwlws a chreodd gyfrifiadur elfennol a oedd yn gallu lluosogi rhifau. Ceisiodd yn ogystal greu iaith artiffisial — y characteristica universalis — a fyddai'n gyfrwng gyffredin i wyddonwyr a meddylwyr ymhob gwlad.

Yn ei gyfrolau athronyddol (yn yr iaith Ffrangeg) Nouveaux Essais sur l'entendement humain (1704), Essais de théodicée (1710) a Monadologie (1714) cyflwynodd a datblygodd athroniaeth ddelfrydol. Yn ôl Leibiniz mae pob bod dynol wedi ei greu o monades a rhyngddynt ceir cytgord rhagosodedig. Ar sail ei astudiaethau daeth i'r casgliad "fod pob dim am y gorau yn y byd gorau o bob byd dichonadwy" (Tout est pour le mieux dans le meilleur des mondes possibles).

Troir y dywediad enwog hwnnw o eiddo Leibniz ar ei ben gan Voltaire yn ei chwedl ddychanol Candide, sy'n ymosod ar Optimistiaeth naiïf y 18fed ganrif. Mae'n bosibl bod cymeriad Candide yn cynrychioli Leibniz.

Bu farw Leibniz yn Hanover yn 1716, yn 70 oed.

Gweler hefyd[golygu]