Black Lives Matter

Oddi ar Wicipedia
Black Lives Matter
Official logo depicting name in black capital letters on yellow background with "LIVES" color inverted
SefydlwydGorffennaf 13, 2013; 10 o flynyddoedd yn ôl (2013-07-13)
Sefydlwyr
MathMudiad ymgyrchu
PwrpasProtest ac ymgyrchu gwrth-hiliaeth
Lleoliad
  • Rhyngwladol
    (gan fwyaf yn yr UDA)
Pobl allweddol
  • Shaun King, Richard Morgan, DeRay Mckesson, Johnetta Elzie, Tef Poe, Erica Garner
Gwefanblacklivesmatter.com/

Mae Black Lives Matter (talfyriad: BLM; ceid hefyd Mae Bywydau Du yn Bwysig ac Mae Bywydau Du o Bwys yn y Gymraeg), yn fudiad hawliau dynol pobl ddu a'i wreiddiau yn yr Unol Daleithiau ond sydd bellach wedi ymledu ar draws y byd gan ennyn cefnogaeth pobl ddu a gwyn.

Mae'r symudiad hwn yn frwydr yn erbyn trais a hiliaeth systematig yn erbyn pobl dduon. Mae mudiad BLM yn cynnal protestiadau dyddiol yn nwylo’r heddlu dros ladd pobl dduon ddiniwed ac ar faterion ehangach fel creulondeb yr heddlu, anghydraddoldeb hiliol, a phroffilio hiliol yn system droseddol yr Unol Daleithiau.

Hanes ac Esblygiad[golygu | golygu cod]

Yn 2013 dechreuodd y mudiad ddefnyddio'r hashnod #BlackLivesMatter ar gyfryngau cymdeithasol pan gafwyd George Zimmerman, llofrudd dyn ifanc du o'r enw Trayvon Martin, yn ddieuog.[1][2] Ond dechreuodd y mudiad ennill cydnabyddiaeth ar draws UDA yn 2014, yn dilyn llofruddiaethau dau ddyn du arall: Michael Brown, a gafodd ei saethu’n farw gan yr heddlu, ac Eric Garner, a gafodd ei dagu gan heddwas hyd ei farwolaeth. Dechrau protestiadau a therfysgoedd yn ninas Ferguson ac Efrog Newydd.[3][4]

Ers protestiadau Ferguson, aeth cyfranogwyr y mudiad i’r strydoedd i arddangos ar ôl marwolaeth sawl Americanwr Affricanaidd arall, a laddwyd o ganlyniad i weithredoedd yr heddlu neu yn ystod y ddalfa yn y carchar. Yn ystod haf 2015, cymerodd gweithredwyr Black Lives Matter ran yn gyhoeddus yn nhrafodaethau etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau yn 2016. Fe wnaeth crewyr yr hashnod a sylfaenwyr y mudiad, Alicia Garza, Patrisse Cullors ac Opal Tometi, sy'n perthyn i'r gymuned liw, rhwng 2014 a 2016 ymestyn eu prosiect cychwynnol i rwydwaith o dros 30 o ganghennau lleol.[5] Fodd bynnag, mae'r mudiad Black Lives Matter yn ei gyfanrwydd yn grŵp datganoledig ac nid oes ganddo hierarchaeth ffurfiol.[6]

Ers hynny mae cyfranogwyr y mudiad wedi protestio yn erbyn lladd pobl dduon eraill, gan gynnwys Tamira Rice, Eric Harris, Walter Scott, Jonathan Ferrell, Sandra Bland, Samuel DuBose, Freddie Grey a George Floyd.

Lladd George Floyd[golygu | golygu cod]

Murlun o George Floyd, ar Eme Street Art, Mauerpark Berlin
Protest Black Lives Matter Protest, Munich, Yr Almaen - 6 Mehefin 2020

Daeth mudiad BLM yn fudiad anferthol ryngwladol yn sgil llofruddio George Floyd ar 25 Mai 2020. Gan ddechrau ar 26 Mai 2020 gyda phrotestiadau dros gyfiawnder am lofruddiaeth Floyd. Cafodd George Floyd ei lofruddio o flaen pobl ac o flaen y camera yn nwylo tri heddwas, gyda Derek Chauvik yn ei gicio yn ei wddf fel bod y fideo o lofruddiaeth Floyd yn mynd yn firaol a'i eiriau olaf "I can't breathe" a "My Neck Hurts, All My Body Hurts" fel "Mae gen i Boen yn Fy Gwddf, mae gen i boen yn fy nghorff cyfan".

Yn sgil lladd George Floyd ar 25 Mai 25 2020, cafwyd protestiadau dan faner #BlackLivesMatter - y mwyafrif yn dechrau'n heddychlon ond gyda rhai yn esblygu i drais a difrod i eiddo. Cafwyd llawer o ymatebion o wahanol fathau i'r mudiad. Mae barn gyffredinol Black Lives Matter ym mhoblogaeth yr UD yn amrywio'n sylweddol rhwng gwahanol grwpiau ethnig.[7] Mewn ymateb i'r mudiad, bathwyd yr ymadrodd "All Lives Matter", ond fe'i beirniadwyd am anwybyddu neu gamddeall y neges y mae'r arwyddair "Black Lives Matter" eisiau ei chyfleu.[8][9] Yn dilyn lladd dau heddwas yn Ferguson, crëwyd yr hashnod #BlueLivesMatter i gefnogi aelodau gorfodaeth cyfraith.[10]

Roedd rhai gweithredwyr hawliau sifil du yn anghytuno â strategaeth y mudiad arall.[11][12]

Mae Black Lives Matter wedi cael ei feirniadu am fod yn erbyn yr heddlu,[13] e alcuni hanno messo in discussione alcune delle statistiche presentate dal movimento.[14][15] ac mae rhai wedi cwestiynu rhai o’r ystadegau a gyflwynwyd gan y mudiad. Mae rhai gwrthwynebwyr yn credu y dylai Black Lives Matter ganolbwyntio mwy ar drais rhyng-hiliol, neu na wnaeth ganolbwyntio digon ar dynged menywod du i ddechrau.

Black Lives Matter - Cymru[golygu | golygu cod]

Cafwyd ton o brotestiadau mewn cefnogaeth i #BlackLivesMatter ar draws Cymru yn yr wythnosau yn dilyn lladd George Floyd. Roedd hyn er gwaethaf rheolau Cloi mewn ("lock down") yn ceisio rheoli lledaeniad y COVID-19 ar y pryd. Esboniodd Emily Pemberton, Cymraes ifanc ddu o Gaerdydd, "Does dim geiriau i ddisgrifio’r emosiwn nes i deimlo wrth wylio’r fideo George Floyd yn ... . Mae Black Lives Matter yn berthnasol i ni yng Nghymru achos mae hiliaeth ar waith yma yng Nghymru. Fel person du yma yng Nghaerdydd dwi wedi profi hiliaeth." [16]

Cynhaliwyd protest o flaen Castell Caerdydd ar ddydd Sadwrn 31 Mai 2020 [17]. Cafwyd protest fwy (ond gyda'r mynychwyr yn dilyn rheol bwlch 2 metr Llywodraeth Cymru) y dydd Sadwrn canlynol yng Nghaerdydd.

Protestiadau cefnogi Black Lives Matter yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Cafwyd amryw o brotestiadau ar draws Cymru i gefnogi BLM, er cof am George Floyd a hefyd yn dangos cefnogaeth i ddymchwel Cerflun Edward Colston y masnachwr caethweision. Cynhaliwyd y protestiadau heddychlon mewn manau agored megis parciau a thraethau oherwydd y rheolau pellter cymdeithasol o 2 fetr yn sgil COVID-19 yng Nghymru. Beirniadwyd protest y tu allan i Senedd Cymru gan y Ceidwadwr, a'r Aelod o'r Senedd, Andrew R. T. Davies am dorri 'pellter cymdeithasol' a pheidio teithio mwy na 5 milltir Llywodraeth Cymru.[18]

Protestiadau BLM yn ystod mis Mehefin 2020:[18][19][20]

Swastika Penygroes a Phrotest BLM Caernarfon[golygu | golygu cod]

Ar 2.00am fore Sadwrn 13 Mehefin paentiwyd swastica (yn wynebu i'r cyfeiriad anghywir) ar flaen drws garej y Red Lion, man busnes teulu'r Ogunbanwo ym mhentref Pen-y-groes, Gwynedd.[23]. Fel rhan o'r cyfres o brostiadau heddychlon i gefnogi Black Lives Matter ar draws Cymru, ond yn fwy iasol, cynhaliwyd protest ar y Maes yng Nghaernarfon ar 14 Mehefin 2020 lle bu i Margaret Ogunbanwo siarad.[24] Bu i drigolion y pentref baentio dros y swastika ar 15 Mehefin a chanu emynau.[25] Cafwyd ymgyrch anffurfiol i brynu nwyddau bwyd gan gwmni'r teulu, Maggie's Exotic Food. Magwyd Margareg Ogunbanwo yn Nigeria a symudodd y teulu o sir Caint yn Lloegr i Benygroes yn 2007 gan ddysgu Cymraeg a rhoddwyd cyfweliadau yn y Gymraeg gan Maggie a'i mab, Toda Ogunbanwo. Bu i'r ddau gynnal cyfweliadau yn y Gymraeg ar y digwyddiad hiliol.

Arestiwd dyn 35 oed ar amheuaeth o baentio'r arlwyddlun hiliol.[26][27]

Mewn erthygl i NationCymru nododd brodor o'r ardal, Chris Schoen bod "hiliaeth yn fyw yng Nghymru".[28]

Safbwyntiau Cymry Cymraeg Ifanc Du[golygu | golygu cod]

Cafwyd sawl cyfweliad a chyflwyniad gan bobl ddu ifanc Cymraeg eu hiaith ar y cyfryngau Cymraeg yn enwedig ar Cymru Fyw ac fel rhan o sianel ar-lein S4C i bobl ifanc, Hansh.

  • Cymru a #BLM [16] - 3 Mehefin - Emily Pemberton yn esbonio pam bod y mudiad #BlackLivesMatter yn berthnasol i Gymru.
  • Trosedd Casineb a Hiliaeth - profiad Yasmin Kamal [29] 9 Mehefin - profiad Yasmin o Amlwch, Môn yn trafod ei phrofiad o hiliaeth a throsedd casineb.
  • #BlackLivesMatter: Safbwynt Cymry ifanc [30] - 14 Mehefin 2020 - cyfweliad â Katie a Zach, gefeilliaid yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd a nododd bod hiliaeth nid dim ond yn broblem yn America.
  • Ydy hi'n amser edrych ar sut i wella addysg hanes BAME mewn ysgolion?[31] - 16 Mehefin - gyda Nia a Marged yn trafod ar Hansh.
  • Lles Meddwl a ‘Black Lives Matter’ – Emily Pemberton[32] - 13 Mehefin 2020 - blog ar wefan iechyd meddwl, meddwl.org.
  • Geiriau - Eädyth a Kizzy[33] - 18 Mehefin - cerdd gan y chwiorydd Kizzy ac Eädyth Crawford am hiliaeth, perthyn a Chymru ar Hansh
  • Pobl ddim am gydnabod bod hiliaeth yn digwydd yma[34] - 18 Mehefin - sgwrs gyda Savanna Jones, Caerdydd, ar BBC Cymru
  • Mae Mared yn credu bod cefn gwlad Cymru yn hiliol - Ydych chi'n cytuno? Neu Anghytuno? Gadewch i ni wybod[35] - 18 Mehefin 2020 - barn Mared, dynes ifanc wen.

BLM Cymraeg yn Weledol[golygu | golygu cod]

Cafwyd hefyd neges ar gyfrif Twitter BLMUK yn y Gymraeg "Mae bywydau Du o bwys" ac yn cefnogi'r "teulu Cymreig Du, rydym yn eich gweld chi a rydym yn eich cefnogi chi." [36] Ceir hefyd cyfrif Twitter, @BLMCardiff sy'n defnyddio'r Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.[37]

Cynhyrchwyd gludyddion yn cefnogi BLM yn y Gymraeg gyda'r slogan "Mae Bywydau Du o Bwys" gan indywales[38]

Thomas Picton[golygu | golygu cod]

  • Cofeb Neuadd y Ddinas, Caerdydd - Yn sgîl ton ymwybyddiaeth BLM codwyd cwestiynau am briodoldeb cadw cerflun o Thomas Picton yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd a Sgwâr Picton, Caerfyrddin. Nodwyd i Picton fod yn euog o gamdrin caethwasion tra roedd y Lywodraethwr ar ynys Trinidad ac iddo sefyll achos am lofruddio Louisa Caldernon.[39] Ar 2 Gorffennaf 2020, pleidleisiodd cynghorwyr Cyngor Dinas Caerdydd o blaid symud cofeb Picton o Oriel Arwyr Cymru yn Neuadd y Ddinas.[40]
  • Cofeb Obelisg Caerfyrddin - Ym mis Mehefin, trafodwyd hefyd addaswydd cadw cofeb wedi ei henwi mewn gwrogaeth i Picton ym Maes Picton, Caerfyrddin.[41] Cytunwyd ym mis Mehefin i asesu'r gofeb.[42]

Term Cymraeg[golygu | golygu cod]

Cafwyd trafodaeth a ddylid cyfieithu Black Lives Matter, ac os felly, beth fyddai'r cyfieithiad neu'r addasiad orau. Cafwyd Mae Bywydau Du o Bwys a hefyd Mae Bywydau Du yn Bwysig.

Bu hefyd trafodaeth ar Twitter a oedd y term Pobl Dduon yn dderbyniol ai pheidio.[43]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://www.usatoday.com/story/tech/2015/03/04/alicia-garza-black-lives-matter/24341593/
  2. http://www.marinij.com/general-news/20150111/keynote-speaker-at-be-the-dream-event-a-leader-in-protest-against-killings-of-unarmed-blacks
  3. https://www.theguardian.com/world/2015/jul/19/blacklivesmatter-birth-civil-rights-movement
  4. https://www.cbsnews.com/news/how-the-black-lives-matter-movement-changed-america-one-year-later/
  5. https://medium.com/@patrissemariecullorsbrignac/we-didn-t-start-a-movement-we-started-a-network[dolen marw]
  6. http://www.thedailybeast.com/articles/2015/08/15/who-really-runs-blacklivesmatter.html
  7. https://www.dropbox.com/s/j64c02ub48aipja/PBS-NEWSHOUR-MARIST-POLL-SEP2015.pdf
  8. https://www.usatoday.com/story/news/nation-now/2016/07/13/why-saying-all-lives-matter-opposite-black-lives-matter/87025190/
  9. https://thinkprogress.org/justice/2015/10/22/3715332/obama-explains-the-problem-with-all-lives-matter/
  10. https://www.bbc.com/news/blogs-trending-31853299
  11. https://www.washingtonpost.com/posteverything/wp/2015/08/24/i-was-a-civil-rights-activist-in-the-1960s-but-its-hard-for-me-to-get-behind-black-lives-matter
  12. http://www.latimes.com/local/california/la-me-black-lives-matter-20151030-story.html
  13. https://www.washingtontimes.com/news/2015/oct/28/david-clarke-black-milwaukee-sheriff-black-lives-m/
  14. https://nypost.com/2015/11/06/black-lives-matters-numbers-are-bogus
  15. https://nypost.com/2016/09/06/the-lies-told-by-the-black-lives-matter-movement/
  16. 16.0 16.1 https://www.youtube.com/watch?v=l2ebGZJZ620
  17. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/52869321
  18. 18.0 18.1 https://www.itv.com/news/wales/2020-06-06/the-black-lives-matter-protests-taking-place-across-wales-this-weekend/
  19. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-53041422
  20. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-53035050
  21. "#Black Lives Matter Protest held in Carmarthen". Wales News Online (yn Saesneg). 2020-06-06. Cyrchwyd 2020-07-05.
  22. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-53011856
  23. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/53037672
  24. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/53050651
  25. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/53058720
  26. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/53066994
  27. https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/569884-arestio-mewn-cysylltiad-graffiti-hiliol-mhenygroes
  28. https://nation.cymru/opinion/racism-is-alive-and-well-in-our-communities-the-penygroes-swastika-was-a-wake-up-call/
  29. https://www.youtube.com/watch?v=iJIX-3ll2Z0&t=200s
  30. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/53024149
  31. https://www.youtube.com/watch?v=WtHxKvmRdZQ
  32. https://meddwl.org/myfyrdodau/blog-emily-pemberton/
  33. https://www.youtube.com/watch?v=WNuw85cWfCs
  34. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/53086528
  35. https://twitter.com/hanshs4c/status/1273279864892805120
  36. https://twitter.com/SteffanPowell/status/1270648535143321600
  37. https://twitter.com/BLMCardiff/status/1271849816486707201
  38. https://twitter.com/indywales3/status/1269938838916476928/photo/1
  39. https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/569656-darn-barn-broblem-thomas-picton
  40. https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2005910-pleidleisio-dynnu-cerflun-thomas-picton-neuadd
  41. https://coflein.gov.uk/cy/site/32669/details/picton-monument
  42. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/52979570
  43. https://twitter.com/EmmaRaczka/status/1268204229090512898

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]