Baner Barbados

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Flag of Barbados

Mabwysiadwyd baner genedlaethol Barbados ar 30 Tachwedd 1966, sef, diwrnod annibyniaeth gyntaf y genedl yma sydd yn y Caribî. Codwyd y faner gan y Lefftenant Hartley Dottin o Gatrawd Barbados. Cymuseredd y faner yw 3:2.[1]

Dyluniad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r faner yn faner triband fertical gyda dau fand o liw dulas ar y naill ochr a band lliw aur yn y canol. Gosodir tridant (picell triphen) ddu, a elwir fel rheol yn 'broken trident', yng nghanol y band aur. Mae'r defnydd o liw a gwrthgyferbyniad lliw yn enghraifft dda o faner sy'n dilyn Rheol Tintur a luniwyd gan Humphrey Lhuyd yn y 16g.

Symboliaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner Barbados ar ffurf map o'r ynys

Mae'r bandiau glas golau yn sefyll am y môr a'r awyr las a'r band aur yn sefyll am y tywod aur. Mae arwyddocâd hefyd i'r ffaith nad oes gwialenffon i'r tridant hefyd. Mae'n deillio o fathodyn trefedigaethol Barbados lle roedd tridant y duw Groegaidd Poseidon yn cael ei ddal gan ddelwedd Britannia. Mae'r rhan waelod sydd ar goll yn cyfleu toriad symbolaidd y genedl oddi ar fod yn drefedigaeth i Brydain.[2] Mae tri phig y tridant yn cynrychioli tair egwyddor democratiaeth, sef:

Llywodraeth y bobl
Llywodraeth i'r bobl
Llywodraeth gan y bobl

Cynllunwyd y faner gan Grantley W. Prescod a dewiswyd hi mewn cystadleuaeth agored a drefnwyd gan Lywodraeth Barbados. Derbyniwyd dros fil o ymgeisyddion yn y gystadleuaeth.[3]

Gwybodaeth Dechnegol[golygu | golygu cod y dudalen]

Côd liwiau swyddogol cydnabyddiedig y 'British Colour Council': Dulas — BCC 148; Aur — BS O/002.[4]

Baneri Hanesyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner Cyfnod Defnydd Disgrifiad
Flag of the West Indies Federation (1958–1962).svg 1958–62 Baner Ffederasiwn India'r Gorllewin (West Indies Federation) Gelwir fel y "Sun and Seas Flag"[5] -- Llain las gyda pedair bar donnog llorweddol wen (y ddau pâr yn gyfochrog i'w gilydd ond nid i'r pâr gyferbyn) gyda haul oern yn y canol.
Flag of Barbados (1870–1966).svg 1870–1966 Baner Trefediaeth Brydeinig Barbados Baner 'Blue Ensign' Brydeinig gydag arwyddlun Barbados

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]