Asterix

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gweler hefyd: Asterix (gwahaniaethu)
Logo'r gyfres (yn Ffrangeg)
Cymeriadau'r gyfres

Cyfres o stribedi comig ydy Anturiaethau Asterix (Ffrangeg: Astérix neu Astérix le Gaulois), a grewyd gan René Goscinny ac Albert Uderzo. Ymddangosodd y gyfres yn y cylchgrawn Ffrengig Pilote am y tro cyntaf ar 29 Hydref 1959. Mae 39 llyfr comig wedi cael eu cyhoeddi yn y gyfres hyd 2021.

Mae'r cyfres yn dilyn hanesion pentref yng Ngâl hynafol, tra eu bod yn gwerthsefyll meddiannu'r wlad gan y Rhufeiniaid. Maent yn gwneud hyn drwy ddefnyddio cymysgedd hudol, sy'n cael ei fragu gan eu derwydd, sy'n rhoi cryfder goruwchddynol i'r un sy'n ei yfed. Asterix yw'r prif gymeriad, ynghyd a'i ffrind Obelix; maent yn cael amryw o anturiaethau sy'n eu harwain i deithio o amgylch nifer o wledydd y byd, ond mae sawl llyfr wedi eu seilio o amgylch eu pentref.

Asterix yw un o'r cyfresi comig Ffrengig-Belgaidd mwyaf poblogaidd yn y byd. Mae wedi cael ei gyfieithu i dros 100 o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, ac mae'n fwyaf poblogaidd yng ngwledydd Ewrop. Mae Asterix yn llai adnabyddus yn yr Unol Daleithiau a Japan.

O ganlyniad i lwyddiant y gyfres mae nifer o'r llyfrau wedi'u haddasu'n ffilmiau: wyth wedi eu hanimeiddio, a thri gydag actorion byw. Mae hefyd nifer o gemau yn seiliedig ar y cymeriadau, ac mae'r parc thema Ffrengig, Parc Astérix, wedi ei seilio ar y gyfres.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Asterix ar ddarn 2 ewro

Cyn creu cyfres Asterix, roedd Goscinny ac Uderzo eisoes wedi cael llwyddiant gyda'u cyfres Oumpah-pah, a gafodd ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Tintin.

Cyhoeddwyd Astérix yn wreiddiol ar ffurf cyfres Pilote, cyhoeddwyd am y tro cyntaf ar 29 Hydref 1959.[1] Yn 1961, cysodwyd fel llyfr am y tro cyntaf: Astérix le Gaulois. O hynny ymlaen, cyhoeddwyd llyfr yn flynyddol fel rheol.[2]

Pan fu farw Goscinny, cariodd Uderzo y gyfres ymlaen ar ei ben ei hun, ond yn llai rheolaidd. Nid yw straeon Uderzo wedi cael beirniadaeth cystal a'r rhai a gyd-ysgrifennodd gyda Goscinny. Ymddeolodd Uderzo yn 2009, a bu farw yn 2020. Yn 2013, cymerodd tim newydd yr awenau, sef Jean-Yves Ferri (yn ysgrifennu'r testun) a Didier Conrad (yn darlunio'r arlunwaith).


Rhestr teitlau[golygu | golygu cod y dudalen]

Arwydd ar dafarn yn Llanrwst yn dangos cartŵn allan o Asterix a Gorchest Prydain

Allwedd:      Mewn print      Allan o brint

Rhif Teitl gwreiddiol Testun ac arlunwaith Dyddiad
cyhoeddi
Teitl Cymraeg Dyddiad cyhoeddi
yn Gymraeg
1 Astérix le Gaulois Goscinny ac Uderzo 1961 Asterix y Galiad 1976 (Dref Wen)
2012 (Dalen)
2 La Serpe d'or Goscinny ac Uderzo 1962 Asterix a'r Cryman Aur 2014 (Dalen)
3 Astérix et les Goths Goscinny ac Uderzo 1963 –– ––
4 Astérix gladiateur Goscinny ac Uderzo 1964 Asterix y Gladiator 1977 (Dref Wen)
2015 (Dalen)
5 Le Tour de Gaule d'Astérix Goscinny ac Uderzo 1965 –– ––
6 Astérix et Cléopâtre Goscinny ac Uderzo 1965 Asterix a Cleopatra 1976 (Dref Wen)
2018 (Dalen)
7 Le Combat des chefs Goscinny ac Uderzo 1966 Asterix a'r Ornest Fawr 1980 (Dref Wen)
Asterix a'r Cur Pen 2018 (Dalen)
8 Astérix chez les Bretons Goscinny ac Uderzo 1966 Asterix ym Mhrydain 1976 (Dref Wen)
Asterix a Gorchest Prydain 2012 (Dalen)
9 Astérix et les Normands Goscinny ac Uderzo 1967 –– ––
10 Astérix légionnaire Goscinny ac Uderzo 1967 Asterix ym Myddin Cesar 1978 (Dref Wen)
Asterix, Milwr Cesar 2018 (Dalen)
11 Le Bouclier arverne Goscinny ac Uderzo 1968 Asterix a Tharian y Llyw Olaf 2019 (Dalen)
12 Astérix aux Jeux Olympiques Goscinny ac Uderzo 1968 Asterix yn y Gemau Olympaidd 1979 (Dref Wen)
2012 (Dalen)
13 Astérix et le chaudron Goscinny ac Uderzo 1969 Asterix a'r Pair Pres 2013 (Dalen)
14 Astérix en Hispanie Goscinny ac Uderzo 1969 –– ––
15 La Zizanie Goscinny ac Uderzo 1970 Asterix a'r Snichyn 2013 (Dalen)
16 Astérix chez les Helvètes Goscinny ac Uderzo 1970 –– ––
17 Le Domaine des dieux Goscinny ac Uderzo 1971 Asterix – Rhandir y Duwiau 2012 (Dalen)
18 Les Lauriers de César Goscinny ac Uderzo 1972 Asterix a Choron Cesar 2012 (Dalen)
19 Le Devin Goscinny ac Uderzo 1972 Asterix a'r Argoel Fawr 2015 (Dalen)
20 Astérix en Corse Goscinny ac Uderzo 1973 –– ––
21 Le Cadeau de César Goscinny ac Uderzo 1974 Asterix ac Anrheg Cesar 1981 (Dref Wen)
22 La Grande Traversée Goscinny ac Uderzo 1975 –– ––
23 Obélix et compagnie Goscinny ac Uderzo 1976 –– ––
24 Astérix chez les Belges Goscinny ac Uderzo 1979 –– ––
25 Le Grand Fossé Uderzo yn unig 1980 –– ––
26 L'Odyssée d'Astérix Uderzo yn unig 1981 –– ––
27 Le Fils d'Astérix Uderzo yn unig 1983 Asterix a'r Pwt Bach Twt 2020 (Dalen)
28 Astérix chez Rahàzade Uderzo yn unig 1987 –– ––
29 La Rose et le Glaive Uderzo yn unig 1991 –– ––
30 La Galère d'Obélix Uderzo yn unig 1996 –– ––
31 Astérix et Latraviata Uderzo yn unig 2001 –– ––
32 Astérix et la rentrée gauloise Uderzo yn unig 2003 –– ––
33 Le ciel lui tombe sur la tête Uderzo yn unig 2005 –– ––
34 L'Anniversaire d'Astérix et Obélix – Le Livre d'or Uderzo yn unig 2009 –– ––
35 Astérix chez les Pictes Ferri a Conrad 2013 Asterix a Gwŷr y Gogledd 2020 (Dalen)
36 Le Papyrus de César Ferri a Conrad 2015 –– ––
37 Astérix et la Transitalique Ferri a Conrad 2017 –– ––
38 La Fille de Vercingétorix Ferri a Conrad 2019 –– ––
39 Astérix et le Griffon Ferri a Conrad 2021 –– ––

Cyfieithiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r tri prif lyfr wedi eu cyfieithu i drost 100 o ieithoedd a thafodieithoedd. Heblaw y Ffrangeg gwreiddiol, mae'r rhan fwyaf ar gael yn Estoneg, Saesneg, Iseldireg, Almaeneg, Daneg, Islandeg, Norwyeg, Swedeg, Ffinneg, Sbaeneg, Catalaneg, Basgeg, Portiwgaleg (a Portiwgaleg Brasil), Eidaleg, Hwngareg, Pwyleg, Romaneg, Groeg, Llydaweg, Twrceg, Slofeneg, Bwlgareg, Serbeg a Croateg. Heblaw ieithoedd cyfoes Ewrop mae nifer hefyd wedi eu cyfieithu i Esperanto, Indoneseg, Mandarin, Corëeg, Siapaneg, Bengaleg, Affricaneg, Arabeg, Hindi, Hebraeg, Ffrisieg, Lladin a Hen Roeg.

Yn Ffrainc, Ffindir, Gwlad Pŵyl ac yn arbennig yn yr Almaen, mae nifer wedi cael eu cyfieithu i ieithoedd lleiafrifol a thafodieithoedd lleol megis Alsaseg, Swabeg, Sacsoneg Isel, Caswbeg, Sileseg, Savo, Careleg, Rauma a bratiaith Helsinki. Cyhoeddwyd rhifyn arbennig o'r llyfr cyntaf, Asterix y Galiad, yn iaith leiafrifol Portiwgal, sef Mirandeg.

Alun Ceri Jones a gyfieithodd yr 8 llyfr Cymraeg gyntaf a cyhoeddwyd hwy gan Wasg y Dref Wen.[3] Ef aeth ymlaen i sefydlu Dalen, gan ail-gyhoeddi 4 ohonynt a chyhoeddi 2 lyfr pellach yn 2012. Ond, oherwydd rhesymau hawlfraint, bu'n rhaid ail-gyfieithu ac ail-enwi'r cymeriadau yn y broses.[4]

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Ffrangeg) BDoubliées. Pilote année 1959.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-07. Cyrchwyd 2008-10-15.
  3.  COFIO... Dyma 1977. BBC Cymru'r Byd.
  4.  Ann Gruffydd Rhys (Hydref 2012). Ffarwel Crycymalix, Henffych Gwyddoniadix. Barn. Adalwyd ar 15 Tachwedd 2012.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: