Paisley a De Swydd Renfrew (etholaeth seneddol y DU)

Oddi ar Wicipedia

Cyfesurynnau: 55°48′50″N 4°29′06″W / 55.814°N 4.485°W / 55.814; -4.485

Paisley a De Swydd Renfrew
Etholaeth Sirol
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Paisley a De Swydd Renfrew yn Yr Alban.
Awdurdodau unedol yr AlbanSwydd Renfrew
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd2005
Aelod SeneddolMhairi Black SNP
Crewyd oDe Paisley
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban

Mae Paisley a De Swydd Renfrew yn etholaeth sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Cynrychiolir yr etholaeth gan Mhairi Black ar ran Plaid Genedlaethol yr Alban, ers 8 Mai 2015.

Cynrychiolwyd yr etholaeth ers 2005 gan Douglas Alexander, a gynrychiolodd De Paisley cyn hynny. Hyd at 2005 bu'n Ysgrifennydd Tramor yr Wrthblaid yn San Steffan. Fe'i trechwyd yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 gan Mhairi Black (SNP) a hithau'n ddim ond ugain oed. Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei gafael yn y sedd gyda mwyafrif o 2,541. Gwnaeth yr un peth yn 2019 gan ennill mwyafrif o 10,679.

Etholiad Aelod Plaid
2005 Douglas Alexander Llafur
2015 Mhairi Black SNP
2017 Mhairi Black SNP
2019 Mhairi Black SNP

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]