Neidio i'r cynnwys

Baner Sawdi Arabia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Ychwanegwyd 347 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
[[Maes (herodraeth)|Maes]] gwyrdd gydag [[arysgrif]] [[Arabeg]] a [[cleddyf|chleddyf]] gwyn yw '''[[baner]] [[Sawdi Arabia]]'''. Gwyrdd yw lliw [[Islam]], tra bo'r cleddyf yn symboleiddio [[cyfiawnder]]. Y [[shahadah]], Cyffesiad y Ffydd Islamaidd, yw'r arysgrif sydd yn darllen "Un [[Allah|Duw]] sydd a [[Muhammad]] yw Ei Broffwyd". Mae'n debyg iawn i faner yr enwad [[Wahabi]], a ddefnyddiwyd ers 1901. Cyflwynwyd baner Sawdi Arabia ym 1932, a mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol ar 15 Mawrth 1973.
 
Un nodwedd bwysig o faner [[Sawdi Arabia]] yw ei fod, fel [[Baner Paragwâi|baner Paragwâi]] a Baner Gweriniaeth Ddemocrataidd Arabiaid y Sahara yn cynnwys yn wahanol ar y naill ochr i'r llall. Yn achos baner Arabia Sawdi mae'r cleddyf yn wynebu ffordd wahanol ar gefn y faner. Gwneir hyn fel fod y cleddyf yn wynebu'r 'ffordd iawn', sef i'r chwith, pan fydd yn chwifio o fast.
 
Dydy baner Arabia Sawdi byth yn cael ei chwifio ar hanner mast hyd yn oed mewn achos o gydnabod marwolaeth neu trasiedi. Dyfernir ei fod yn [[cabledd|gableddus]] i wneud. Ymysg y baneri eraill na chaiff byth eu chwifio ar hanner mast mae [[Baner Irac|Irac]], [[Baner Afghanistan|Afghanistan]] a [[Baner Somaliland|Somaliland]].
 
==Ffynhonnell==