Castell Degannwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Castell canoloesol a godwyd ar safle bryngaer gynharach wrth aber Conwy yng ngogledd Cymru yw '''Castell Degannwy'''. Mae'n safle o bwys hanesyddol mawr yn...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:17, 28 Tachwedd 2007

Castell canoloesol a godwyd ar safle bryngaer gynharach wrth aber Conwy yng ngogledd Cymru yw Castell Degannwy. Mae'n safle o bwys hanesyddol mawr yn hanes teyrnas Gwynedd a'r rhyfeloedd dros annibyniaeth rhwng tywysogion Cymru a brenhinoedd Lloegr, ond ychydig sy'n weladwy yno heddiw. Amddiffynnai groesfan strategol iawn ar afon Conwy.

Safle Castell Degannwy o'r gorllewin, dros afon Conwy, gyda Degannwy wrth ei droed

Yn ôl traddodiad, bu gan y brenin cynnar Maelgwn Gwynedd amddiffynfa ar y safle neu'n agos iddi yn y 6ed ganrif. Cyfeirir ato yn y chwedl Hanes Taliesin ac mewn rhai o'r cerddi a briodolir i'r ffug-Daliesin (Taliesin Ben Beirdd). Yn ôl y chwedl carcharodd Maelgwn Elffin ap Gwyddno, noddwr y Taliesin chwedlonol, yn y castell "dan dri ar ddeg clo", ond cafodd ei ryddhau diolch i ddawn Taliesin.

Cloddiwyd rhan o'r safle yn 1960-61 a darganfuwyd olion sy'n dyddio i gyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru a dechrau'r Oesoedd Tywyll. Nid oes modd profi'r cysylltiad â Maelgwn Gwynedd yn ôl y dystiolaeth honno, ond ceir digon o gofnodion a thraddodiadau am y cysylltiad â Maelgwn.

Safai'r amddiffynfa gynnar ar yr uchaf o'r ddau graig ar gopa'r bryn, a chodwyd y castell canoloesol ar yr un safle. Ni wyddys a fu amddiffynfa Gymreig yno ar ôl cyfnod Maelgwn, ond cofnodir i'r iairll Normanaidd Robert o Ruddlan godi castell mwnt a beili yno yn 1088 pan ddaeth y Normaniaid yn agos iawn at oresgyn Gwynedd. Yn 1213 cipiwyd y castell gan Llywelyn Fawr a chodwyd castell o gerrig ganddo. Mae cerflun bychan a ddarganfuwyd yno yn bortreadu'r tywysog ei hun efallai, ac os felly dyna'r unig ddelwedd ohono i oroesi.

Ar ôl marwolaeth Llywelyn Fawr manteisiodd y brenin Harri III o Loegr ar ymraniadau mewnol Gwynedd ac ymosododd arni. Dymchwelwyd castell Llywelyn gan ei etifedd ac olynydd Dafydd ap Llywelyn rhag ofn i'r Saeson ei gipio. Ond cododd Henri gastell newydd yno, cyfrach o gryn dipyn, a gostiodd lawer o farciau iddo. Yn 1263 rhoddodd Llywelyn ap Gruffudd y castell dan warchae. Llwygwyd y garsiwn i ildio a dinistriwyd y castell bron yn llwyr. Dim ond rhan o rai o'r muriau isaf sydd i'w gweld yno heddiw.

Llyfryddiaeth

  • Leslie Alcock, 'Excacations at Deganwy Castle...', Archaeological Journal, CXXIV (1967), tt. 190-201.
  • Roger Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983)
  • Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)

Gweler hefyd