Ynys Enlli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB |
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 14eg ganrif → 14g, [[File: → [[Delwedd: using AWB |
||
Llinell 32: | Llinell 32: | ||
==Hanes== |
==Hanes== |
||
[[ |
[[Delwedd:Bardsey boat, Aberdaron NLW3363876.jpg|bawd|chwith|Cwch yn Aberdaron oddeutu 1885.]] |
||
Sefydlwyd [[mynachlog]] ar Enlli yn y [[5ed ganrif|bumed ganrif]] gan [[Cadfan|Sant Cadfan]]. Dichon bod meudwyon [[clas]] [[Aberdaron]] yn croesi i'r ynys er mwyn ymneilltuo o'r byd yn yr oesoedd cynnar. Yn ystod [[yr Oesoedd Canol]] daeth yr ynys yn gyrchfan [[pererindota]] enwog. Roedd tair [[pererindod]] i Ynys Enlli yn cyfateb i un i [[Rhufain|Rufain]]. Yn ôl traddodiad mae ugain mil o [[sant|saint]] wedi eu claddu yno. Yn ddiweddarach disodlwyd yr hen fynachlog Geltaidd gan [[Abaty Ynys Enlli|Abaty'r Santes Fair]], abaty [[Awstiniaid|Awstinaidd]]; mae olion yr hen [[abaty]] i'w gweld yno o hyd. |
Sefydlwyd [[mynachlog]] ar Enlli yn y [[5ed ganrif|bumed ganrif]] gan [[Cadfan|Sant Cadfan]]. Dichon bod meudwyon [[clas]] [[Aberdaron]] yn croesi i'r ynys er mwyn ymneilltuo o'r byd yn yr oesoedd cynnar. Yn ystod [[yr Oesoedd Canol]] daeth yr ynys yn gyrchfan [[pererindota]] enwog. Roedd tair [[pererindod]] i Ynys Enlli yn cyfateb i un i [[Rhufain|Rufain]]. Yn ôl traddodiad mae ugain mil o [[sant|saint]] wedi eu claddu yno. Yn ddiweddarach disodlwyd yr hen fynachlog Geltaidd gan [[Abaty Ynys Enlli|Abaty'r Santes Fair]], abaty [[Awstiniaid|Awstinaidd]]; mae olion yr hen [[abaty]] i'w gweld yno o hyd. |
||
Llinell 51: | Llinell 51: | ||
==Afalau Ynys Enlli== |
==Afalau Ynys Enlli== |
||
Enlli yw cartref gwreiddiol Afalau Ynys Enlli, a elwir weithiau "yr afal mwyaf prin yn y byd". Credir i'r coed afalau gael eu tyfu yno aers y [[ |
Enlli yw cartref gwreiddiol Afalau Ynys Enlli, a elwir weithiau "yr afal mwyaf prin yn y byd". Credir i'r coed afalau gael eu tyfu yno aers y [[14g]] gan y mynachod. Goroesoedd rhai enghreifftiau dros y canrifoedd ond ni chafodd ei hadnabod yn rhywogaeth arbennig tan [[1998]] pan anfonodd Ian Sturrock sampl i'r Casgliad Ffrwythau Cenedlaethol yn [[Brogdale]], sir [[Caint]]. Mae coed Afalau Enlli ar werth mewn sawl man erbyn heddiw. |
||
==Oriel== |
==Oriel== |
Fersiwn yn ôl 22:36, 2 Ionawr 2017
Ynys Enlli | |
Ynys Enlli o'r Mynydd Mawr |
|
Ynys Enlli yn: Gwynedd | |
Cyfeirnod grid yr AO | SH122218 |
---|---|
Cymuned | Aberdaron |
Sir | Gwynedd |
Sir seremonïol | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
Tref bost | PWLLHELI |
Rhanbarth cod post | LL53 |
Cod deialu | 01758 |
Heddlu | Gogledd Cymru |
Tân | Gogledd Cymru |
Ambiwlans | Cymru |
Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
Senedd y DU | Dwyfor Meirionnydd |
Cynulliad Cymru | Dwyfor Meirionnydd |
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Gwynedd |
Ynys ar gwr gogleddol Bae Ceredigion sy'n gorwedd i'r gorllewin o benrhyn Llŷn, yng Ngwynedd, yw Ynys Enlli (Saesneg: Bardsey Island).
Rhaid croesi'r Swnt, sef y môr rhwng Aberdaron ac Enlli, i fynd i'r ynys.
Hanes
Sefydlwyd mynachlog ar Enlli yn y bumed ganrif gan Sant Cadfan. Dichon bod meudwyon clas Aberdaron yn croesi i'r ynys er mwyn ymneilltuo o'r byd yn yr oesoedd cynnar. Yn ystod yr Oesoedd Canol daeth yr ynys yn gyrchfan pererindota enwog. Roedd tair pererindod i Ynys Enlli yn cyfateb i un i Rufain. Yn ôl traddodiad mae ugain mil o saint wedi eu claddu yno. Yn ddiweddarach disodlwyd yr hen fynachlog Geltaidd gan Abaty'r Santes Fair, abaty Awstinaidd; mae olion yr hen abaty i'w gweld yno o hyd.
Gerallt Gymro
Galwodd Gerallt Gymro yn Nefyn ar ei daith trwy Gymru yn 1188. Dyma ei ddisgrifiad o'r ynys:
- 'Ond y mae'n gorwedd y tu draw i Lŷn ynys fechan y preswylia ynddi fynaich ffyddlon iawn eu crefydd, a alwant Coelibes ("gwŷr dibriod") neu Colidei ("addolwyr Duw"). Rhyfeddod a berthyn i'r ynys hon, naill ai oherwydd iachusrwydd yr awyr a dderbyn o'i chymdogaeth agos at Iwerddon, neu'n hytrach trwy ryw wyrth a haeddianau'r saint, yw bod y bobl hynaf ynddi yn marw gyntaf, gan mai'n brin iawn y ceir clefydon ynddi; ac yn anaml, heu nid o gwbl, y bydd neb farw yma, onid ar ôl nychdod hir henaint. Enlli, yn Gymraeg, y gelwir yr ynys hon, ac yn yr iaith Saesneg, Bardsey. Ac ynddi, yn ôl traddodiad, y mae cyrff dirifedi saint wedi eu claddu; a thystiant mai yno y gorwedd corff y gwynfydedig Ddaniel, esgob Bangor.'
Y goleudy
Codwyd goleudy ar bwynt deheuol yr ynys yn 1821. Mae'r goleudy o siâp sgwâr anghyffredin ac yn gant troedfedd o uchder. Fel yn achos Ynys Lawd, Joseph Nelson oedd y pensaer. Costiodd £2,950 i godi. Mae'r goleudy yn otomatig bellach ac yn cael ei redeg o ganolfan gwylio'r glannau Caergybi.
Adar
Mae Gwylfa Adar ar yr ynys, sy'n bwysig fel man nythu i nifer o rywogaethau, yn enwedig Aderyn-Drycin Manaw. Yn ystod y tymor mudo yn yr hydref gellir gweld adar anarferol iawn ar yr ynys.
Ymddiriedolaeth Ynys Enlli
Mae'r ynys yng ngofal Ymddiriedolaeth Ynys Enlli. Ceir fferm weithredol ar yr ynys o hyd ac mae hi'n boblogaidd gan ymwelwyr sy'n ceisio tawelwch. Ar dywydd braf gellir croesi'r Swnt iddi ar gychod sy'n hwylio o Aberdaron.
Afalau Ynys Enlli
Enlli yw cartref gwreiddiol Afalau Ynys Enlli, a elwir weithiau "yr afal mwyaf prin yn y byd". Credir i'r coed afalau gael eu tyfu yno aers y 14g gan y mynachod. Goroesoedd rhai enghreifftiau dros y canrifoedd ond ni chafodd ei hadnabod yn rhywogaeth arbennig tan 1998 pan anfonodd Ian Sturrock sampl i'r Casgliad Ffrwythau Cenedlaethol yn Brogdale, sir Caint. Mae coed Afalau Enlli ar werth mewn sawl man erbyn heddiw.
Oriel
-
885
Gweler hefyd
- A'u Bryd ar Ynys Enlli; cyfrol gan Enid Roberts
Llyfryddiaeth
- Thomas Jones (gol.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938), t.126.
- Jennie Jones, Tomos o Enlli (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1964). Atgofion difyr ac unigryw Tomos Jones, hen lanc chwech a phedwar ugain oed a aned ar yr ynys ac a dreuliodd ei oes yno, wedi ei godi oddi ar dafod-leferydd gan yr awdures.