Abaty Ynys Enlli
![]() | |
Math | abaty ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Ynys Enlli ![]() |
Sir | Aberdaron ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 45.7 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.7643°N 4.78774°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Manylion | |
Clas Celtaidd ac yn ddiweddarach abaty o Ganoniaid Rheolaidd Awstinaidd oedd Abaty Ynys Enlli neu Abaty'r Santes Fair.[1]
Hanes[golygu | golygu cod]
Clas[golygu | golygu cod]
O gyfnod cynnar iawn, ystyrid Ynys Enlli yn fangre santaidd ac yn gyrchfan i bererinion. Dywedir i'r fynachlog gael ei sefydlu gan Sant Cadfan yn y 6g, ac yn ôl y chwedl mae ugain mil o saint wedi eu claddu yno. Yng nghyfnod Gerallt Gymro (tua 1188), roedd y sefydliad yn parhau i fod yn glas traddodiadol. Dywed Gerallt fod stori mai dim ond o henaint y byddai neb yn marw ar Enlli, ac na fyddai neb yn marw cyn y preswylydd hynaf.[1]
Abaty[golygu | golygu cod]

Oddeutu'r flwyddyn 1200, daeth y fynachlog yn abaty Awstinaidd; yn ôl pob tebyf trwy ddylanwad Llywelyn Fawr, a berswadiodd nifer o glasau yng Ngwynedd i droi yn dai Awstinaidd yn y cyfnod hwn. Ceir cofnod o gytundeb rhwng yr abaty a chanoniaid Aberdaron yn 1252.[1]
Roedd yr abaty yn dal tiroedd sylweddol ar Benrhyn Llŷn, ond ni fu erioed yn gyfoethog. Ychydig cyn ei ddiddymu yn 1537, roedd yn werth £46. Dim ond ychydig o adfeilion sy'n weddill heddiw.[1]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies, 1992) ISBN 0-7154-07120