Bleddyn Fardd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Bardd Cymreig oedd '''Bleddyn Fardd''' (fl. 1268-1283<ref>http://yba.llgc.org.uk/cy/c-BLED-FAR-1268.html Bywgraffiad Bleddyn Fardd ar Wefan Llyfrgell Genedlaethol...
 
ehangu
Llinell 1: Llinell 1:
Bardd [[Cymraeg|Cymreig]] oedd '''Bleddyn Fardd''' (fl. [[1268]]-[[1283]]<ref>http://yba.llgc.org.uk/cy/c-BLED-FAR-1268.html Bywgraffiad Bleddyn Fardd ar Wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru</ref>), un o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]]. Mae'n fardd nodweddiadol oherwydd yr galargerdd a ysgrifenodd ar farwolaeth [[Llywelyn ap Gruffudd]] sydd wedi ei gofnodi yn llawysgrif [[Hendregadredd]].
Bardd [[Cymry|Cymreig]] oedd '''Bleddyn Fardd''' (fl. [[1268]]-[[1283]]), un o'r olaf o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]]. Mae'n fardd nodweddiadol oherwydd y galargerddi a ysgrifenodd ar farwolaeth [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]], sydd wedi eu cofnodi yn [[Llawysgrif Hendregadredd]], fel gweddill y testunau.


Ni wyddys dim am fywyd y bardd ar wahân i'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth ei gerddi. Ymddengys mai [[Dafydd Benfras]] oedd athro barddol Bleddyn. Fel Dafydd Benfras, mae hi bron yn sicr fod Bleddyn Fardd yn [[pencerdd|bencerdd]] i Lywelyn ap Gruffudd; yn sicr yr oedd yn un o feirdd llys [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]].
==Cyfeirnodau==

<references/>
Cedwir 14 o gerddi gan Fleddyn Fardd. Ceir saith [[awdl]] a saith cadwyn [[englyn]]ion; cyfanswm o 458 o linellau. Canodd [[marwnad|farwnadau]] i Ddafydd Benfras, [[Goronwy ab Ednyfed]] ([[distain]] Gwynedd) a'i fab [[Hywel ap Goronwy]]. Ceir yn ogystal marwnad i Gruffudd ab Iorwerth ap Maredudd o Fôn. Canodd gerdd o fawl i [[Rhys ap Maredudd ap Rhys|Rys ap Maredudd ap Rhys]].

Ond fe'i cofir yn bennaf efallai am y gyfres o farwnadau nodedig i Lywelyn ap Gruffudd a'i frodyr [[Dafydd ap Gruffudd|Dafydd]] ac [[Owain Goch ap Gruffudd ap Llywelyn|Owain Goch]]. Yn ogystal canodd gerdd arbennig 'Marwnad Tri Mab Gruffudd ap Llywelyn', sydd i'w dyddio i tua [[1283]].

Ceir yn ogystal [[marwysgafn]] gan y bardd ar ei wely angau.

==Llyfryddiaeth==
*Rhian M. Andrews (gol.). 'Gwaith Bleddyn Fardd', yn ''Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg'' (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.

==Dolenni allanol==
*[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-BLED-FAR-1268.html Bywgraffiad Bleddyn Fardd ar Wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru]


{{Beirdd y Tywysogion}}


{{eginyn}}


[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]

Fersiwn yn ôl 17:08, 23 Awst 2007

Bardd Cymreig oedd Bleddyn Fardd (fl. 1268-1283), un o'r olaf o Feirdd y Tywysogion. Mae'n fardd nodweddiadol oherwydd y galargerddi a ysgrifenodd ar farwolaeth Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, sydd wedi eu cofnodi yn Llawysgrif Hendregadredd, fel gweddill y testunau.

Ni wyddys dim am fywyd y bardd ar wahân i'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth ei gerddi. Ymddengys mai Dafydd Benfras oedd athro barddol Bleddyn. Fel Dafydd Benfras, mae hi bron yn sicr fod Bleddyn Fardd yn bencerdd i Lywelyn ap Gruffudd; yn sicr yr oedd yn un o feirdd llys Gwynedd.

Cedwir 14 o gerddi gan Fleddyn Fardd. Ceir saith awdl a saith cadwyn englynion; cyfanswm o 458 o linellau. Canodd farwnadau i Ddafydd Benfras, Goronwy ab Ednyfed (distain Gwynedd) a'i fab Hywel ap Goronwy. Ceir yn ogystal marwnad i Gruffudd ab Iorwerth ap Maredudd o Fôn. Canodd gerdd o fawl i Rys ap Maredudd ap Rhys.

Ond fe'i cofir yn bennaf efallai am y gyfres o farwnadau nodedig i Lywelyn ap Gruffudd a'i frodyr Dafydd ac Owain Goch. Yn ogystal canodd gerdd arbennig 'Marwnad Tri Mab Gruffudd ap Llywelyn', sydd i'w dyddio i tua 1283.

Ceir yn ogystal marwysgafn gan y bardd ar ei wely angau.

Llyfryddiaeth

  • Rhian M. Andrews (gol.). 'Gwaith Bleddyn Fardd', yn Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.

Dolenni allanol



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch