Libia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
arweinwyr |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
arwyddair_cenedlaethol = الحرية والعدالة والديمقراطية<br>''Rhyddid, Cyfiawnder, Democratiaeth!'' | |
arwyddair_cenedlaethol = الحرية والعدالة والديمقراطية<br>''Rhyddid, Cyfiawnder, Democratiaeth!'' | |
||
anthem_genedlaethol = [[Libya, Libya, Libya]] | |
anthem_genedlaethol = [[Libya, Libya, Libya]] | |
||
delwedd_map = |
delwedd_map = Libya in its region.svg | |
||
prifddinas = [[Tripoli]] | |
prifddinas = [[Tripoli]] | |
||
dinas_fwyaf = Tripoli | |
dinas_fwyaf = Tripoli | |
Fersiwn yn ôl 12:55, 23 Ebrill 2012
| |||||
Arwyddair: الحرية والعدالة والديمقراطية Rhyddid, Cyfiawnder, Democratiaeth! | |||||
Anthem: Libya, Libya, Libya | |||||
Prifddinas | Tripoli | ||||
Dinas fwyaf | Tripoli | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Arabeg | ||||
Llywodraeth | Llywodraeth dros dro | ||||
- Cadeirydd y Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol | Mustafa Abdul Jalil | ||||
- Prif Weinidog | Abdurrahim El-Keib | ||||
Annibyniaeth - oddiwrth yr Eidal - oddi Ffrainc/DU |
10 Chwefror 1947 24 Rhagfyr 1951 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
1,759,540 km² (17fed) - | ||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2006 - Cyfrifiad 2006 - Dwysedd |
5,670,688 (105fed) 5,670,688 3.2/km² (218fed) | ||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2006 $74.97 biliwn (67fed) $12,700 (58fed) | ||||
Indecs Datblygiad Dynol (2005) | 0.798 (64fed) – canolig | ||||
Arian cyfred | Dinar (LYD )
| ||||
Cylchfa amser - Haf |
EET (UTC+2) (UTC+2) | ||||
Côd ISO y wlad | .ly | ||||
Côd ffôn | +218
|
Gwlad yng ngogledd Affrica, sy'n ffinio â'r Môr Canoldir, yw Libya (hefyd Libia). Mae wedi ei lleoli rhwng yr Aifft i'r dwyrain, Swdan i'r de-ddwyrain, Chad a Niger i'r de ac Algeria a Tunisia i'r gorllewin. Ei phrifddinas yw Tripoli. Tair rhanbarth draddodiadol y wlad yw Tripolitania, y Fezzan a Cyrenaica. Mae'r wlad yn un o'r 10 gwlad sy'n cynhyrchu mwyaf o olew drwy'r byd.
Daearyddiaeth
- Prif: Daearyddiaeth Libya
Mae rhan fawr o Libya'n gorwedd yn anialwch y Sahara, gyda 1,800,000 kilometr sgwar (700,000 milltir sgwar). Hi yw'r bedwaredd wlad fwyaf yn Affrica, a'r 17ed yn y byd. Mae 1.7 miliwn o drigolion y wlad yn byw yn Tripoli, y brif ddinas, allan o boblogaeth o 6.4 miliwn.
Hanes
- Prif: Hanes Libya
Cynhanes
Dros 10 mil o flynyddoedd yn ôl roedd 90% o'r wlad yn llawn o blanhigion a choed, gyda hinsawdd debyg i wledydd y Canoldir. Dengys tystiolaeth archaeolegol mai'r Berberiaid oedd yn byw yn y rhan yma o Affrica yn Oes Newydd y Cerrig. Gallent dyfu cnydau a magu anifeiliaid.
Y Ffeniciaid a'r Groegwyr
Tua 500 CC roedd dylanwad Ffeniciaid ar yr ardal yn gryf a gwelwyd sefydlu tair dinas yn yr ardal rydym heddiw'n ei alw'n Tripolis ("tair dinas"). Erbyn 630 roedd yr Hen Roegiaid wedi sefydlu 630 BC, porthladd Cyrene ac yna pedair dinas arall yn ystod y blynyddoedd dilynol, a galwyd rhain y Pentapolis ("pum dinas").
Tyfodd Cyrene yn un o ganolfannau celfyddydol ac academig drwy gydol y byd Groegaidd, gyda'i hysgol meddygol a phensaerniol a'i chanolfannau dysg heb eu hail drwy'r byd.
Y Rhufeiniaid
Ymosododd y Rhufeiniaid ar yr ardal o gwmpas Tripoli) yn 106 CC ac erbyn 64 CC roedd llengoedd Iwl Cesar wedi cadarnhau a chryfhau'r dair ardal yn Rhanbarth Rufeinig, gan greu (o ran tiriogaeth) am y tro cyntaf y ffiniau presennol.
Llewyrchodd yr economi am rai canrifoedd o dan y Rhufeiniaid.
Chwyldro 1969
Ar y 1af o Fedi 1969 cafwyd coup d'état yn y wlad a daeth Muammar al-Gaddafi i rym ar ôl trechu'r Brenin Idris tra fod y brenin yn Nhwrci yn cael triniaeth meddygol.
Chwyldro 2011
- Prif: Rhyfel Cartref Libya
Yn Chwefror 2011 llifodd ton ar ôl ton o brotestiadau gwleidyddol drwy'r Dwyrain Canol; ffynhonnell y protestiadau hyn oedd Tiwnisia ac yna'r Aifft yn Ionawr 2011 a gwelwyd ymgyrch gref drwy Lybia i gael gwared â Gaddafi a'i ddull unbeniaethol o reoli. Dyw hyn ddim yn syndod o gofio fod y ddwy wlad yma (Tiwnisa a'r Aifft) o fewn tafliad carreg i Lybia (ffiniau dwyreiniol a gorllewinol).
Erbyn 23ain o Chwefror roedd Gaddafi wedi colli rheolaeth o lawer iawn o drefi'r wlad ac yn ôl nifer o adroddiadau roedd dros fil o bobl wedi marw.
Ar yr 17fed o Fawrth pasiwyd "mesur 1973" gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig o 10 pleidlais i 0 gyda Rwsia, Tseina ac India yn ymatal. Roedd y mesur yn caniatau gwaharddiad hedfan ac i warchod trigolion Lybia "drwy unrhyw ddull angenrheidiol". Deuddydd wedyn roedd Awyrlu Ffrainc wedi ymosod ar 4 o danciau Gadaffi.[1]
Economi
- Prif: Economi Libya
Mae Libya'n wlad ffynnianus sy'n elwa o'r cyfoeth olew a geir yn Niffeithwch Libya a mannau eraill yn ne'r wlad.
Cyfeiriadau
Gweler hefyd
- Y Gwanwyn Arabaidd
- Intifada Tunisia, Rhagfyr 2010–heddiw
- Gogledd Affrica
- Undeb y Maghreb Arabaidd
- Al Bayda: y bedwaredd dinas fwyaf yn Libya.
|
|