Neidio i'r cynnwys

Aled Jones Williams

Oddi ar Wicipedia
Aled Jones Williams
Ganwyd1956 Edit this on Wikidata
Llanwnda Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethllenor, offeiriad Edit this on Wikidata

Llenor a dramodydd o Gymru yw Aled Jones Williams (ganed ym 1956).[1]

Yn 2002, enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002 gydag Awelon.[2] Cafodd ei lyfr Ychydig Is Na’r Angylion ei enwebu ar gyfer rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2007. Achoswyd cryn ymryson gan ei ddrama Iesu! yn 2008, gan iddo bortreadu Iesu fel merch.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Aled Jones Williams yn Llanwnda ger Caernarfon, yn unig blentyn i ficer y plwyf a'i wraig, R. E. a Megan Williams. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle cyn mynychu Prifysgol Bangor a graddio ym 1977. Aeth ymlaen i Goleg Diwinyddol Mihangel, Llandaf, a Phrifysgol Caerdydd. Fe ordeinwyd i'r Eglwys yng Nghymru ym 1979 gan wasanaethu yng Nghonwy, Llanrug a Machynlleth. Wedi cyfnod yn dioddef o alcoholiaeth gadawodd yr eglwys, daeth yn aelod o gymuned L'Arche yn Lerpwl gan rannu ei fywyd â rhai oedd ag anabledd meddwl. Yn ystod ei gyfnod yno y priododd â Susan. Dychwelodd i Gymru yn 1995 i wasanaethu fel offeiriad ym Mhorthmadog. Mae ganddyn nhw dri o blant: Marc, Bethan a Gwydion.[2] Mae'n byw yng Nghricieth erbyn hyn.[3]

Dramâu

[golygu | golygu cod]

Darlledwyd nifer o'i ddramâu ar BBC Radio Cymru gan gynnwys Chwara Adra (2009); Y Ferch yn y Peiriant (2011); O Ben y Bont (2012); Efa ac Adda (2012); Sonata (2013); Y Cymro Olaf (2015).

Mae ei ddramâu llwyfan yn cynnwys Pêl Goch; Cnawd (1997); Ta-ra Teresa (2002) Cwmni Theatr Gwynedd; Be' O'dd Enw Ci Tintin? (Tach 2003) Theatr Bara Caws; Lysh (Gorff 2004) Theatr Bara Caws; Disgwl Bys yn Stafell Mam (2006); Iesu! (Gorff 2008) Theatr Genedlathol Cymru; Merched Eira (2010); Chwilys (Awst 2010) Theatr Bara Caws; Pridd (Tach 2013) Theatr Genedlaethol Cymru.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Tuchan o flaen Duw. Hunangofiant Aled Jones Williams, Gwasg Carreg Gwalch (2012)
  2. 2.0 2.1  Offeiriad yn cipio'r Goron. BBC (2002-08-05).
  3.  Bywgraffiad Aled Jones Williams. Gwasg Gomer.