Rhestr o arfbeisiau hanesyddol Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhestru rhai o arfbeisiau hanesyddol Cymru. Am restr o faneri Cymreig, gweler yma.
Ceir dau fath o arfbais, arfbais personnol yr unigolyn (arglwydd neu uchelwr fel arfer) ac arfbais a oedd yn perthyn i deyrnas neu ran o'r wlad.
Cynnwys |
Arfbeisiau personnol Tywysogion Cymru [golygu]
| Baner | Dyddiad | Defnydd | Disgrifiad |
|---|---|---|---|
| 1267-83, 1400au | Arfbais bersonnol, gwreiddiol Tywysog Cymru. Daeth yn faner Tywysogaeth Cymru yn nheyrnasiad Llywelyn Fawr. | Llewod coch drithroed (passant) yn y corneli chwith uchaf a de gwaelod ar faes melyn gyda'r lliwiau wedi eu cyfnewid yn y corneli eraill. | |
| c. 1223 – 11 Rhagfyr 1282 | Arfbais bersonnol Llywelyn ap Gruffudd | Tri llew coch ar drithroed ar faes llwyd. Flynyddoedd yn ddiweddarach, mabwysiadwyd yr arfbais gan dîm pel-droed Lloegr! | |
| 13eg ganrif | Baner Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn II. | Y llewod yn sefyll ar drithroed (passant). | |
| 14eg - 15fed ganrif - | Arfbais Glyndŵr | Arfau Gwynedd: llewod yn sefyll ar undroed (regardent), gydag arfau Owain Lawgoch ac Owain Glyndŵr | |
| 1100 - 1170 | Arfbais Owain Gwynedd | Tri eryr aur ar faes gwyrdd. Roedd yr arfbais hon hefyd yn cael ei ddefnyddio gan ddisgynyddion Owain sef y teulu Anwyl o Dywyn. | |
| c.1055–1137 | Arfbais bersonnol Gruffudd ap Cynan | Tri llew llwyd ar drithroed (passant), ar faes coch. |
Arfbeisiau Teyrnasoedd Cymru [golygu]
| Baner | Dyddiad | Defnydd | Disgrifiad |
|---|---|---|---|
| c. 1200 - heddiw | Arfbais Teyrnas Gwynedd ac arfbais draddodiadol Aberffraw a Llywelyn Fawr. | Llewod coch drithroed (passant) yn y corneli chwith uchaf a de gwaelod ar faes melyn gyda'r lliwiau wedi eu cyfnewid yn y corneli eraill. | |
| ? | Teyrnas Powys ac yn ddiweddarach: Powys Wenwynwyn. Yn draddodiadol, hon oedd arfbais Llŷs Mathrafal. | Llew coch tywyll yn sefyll ar undroed (regardent), ar gefndir melyn. | |
| 1191-1236 | Arfbais Powys Fadog sef y rhan ogleddol o Deyrnas Powys; yn wreiddiol: arfbais Madog ap Gruffydd Maelor. Argent, a lion Sable armed and langed Gules. | Llew du yn sefyll ar undroed (regardent), ar gefndir gwyn. | |
| ? | Cysylltir yr arfbais hon gyda Theyrnas Deheubarth. | Llew aur yn sefyll ar undroed (regardent), ar gefndir coch, gydag ymyl pigog, melyn. | |
| ? | Arfbais Teyrnas Gwent | Hanner chwith glas, hanner dde yn ddu, gyda thair Fleurs-de-Lis aur. | |
| ? | Arfbais Elystan Glodrydd, sylfaenydd 5ed Llinach Frenhinol Cymru - Teyrnas Rhwng Gwy a Hafren gan gynnwys: Maelienydd, Elfael, Ceri, Gwerthrynion, Cwmwd Deuddwr a Buellt) | Gules, a lion rampant regardant Or. | |
| ? | Arfbais Teyrnas Ceredigion | Llew aur yn sefyll ar undroed (regardent) yn edrych yn ôl, ar gefndir gwyn. | |
| o 1045 ymlaen | Arfbais Teyrnas Morgannwg a'u sefydlydd, sef Iestyn ap Gwrgant. | Tri chevronels argent gwyn ar faes coch. | |
| hyd at 920 | Arfbais Teyrnas Dyfed | Llew aur yn sefyll ar undroed (regardent), gyda phedwar rhosyn aur o'i ddeutu, ar gefndir glas. |
Pymtheg Llwyth Gwynedd [golygu]
Mae'r arfbeisiau canlynol i'w gweld mewn ystafell arbennig yn Erddig wedi'u creu ar gyfer perchennog y tŷ, Philip Yorke (1743 - 1804) a oedd hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi llyfr ar arfbeisiau Cymru.[1][2]
-
Collwyn ap Tango
Arglwydd Eifionydd ac Ardudwy -
Gweirydd ap Rhys Goch
Un o gyndadau Teulu'r Wyniaid, Môn -
Hwfa ap Cynddelw
Arglwydd Llys Llifon -
Cilmyn Troed-ddu
Un o gyndadau Teulu Salusbury -
Marchweithian
Arglwydd Is Aled -
Braint Hir
Arglwydd Is Dulas -
Maelog Crwm
Arglwydd Arllechwedd Isaf a'r Creuddyn -
Hedd Molwynog
Arglwydd Llanfair Talhaiarn, Dyffryn Elwy ac Is Aled -
Edwin ap Gronwy
Arglwydd Tegeingl -
Tudor Trefor,
Arglwydd Henffordd
Unigolion eraill [golygu]
| Baner | Dyddiad | Defnydd | Disgrifiad |
|---|---|---|---|
| 6ed ganrif | Arfbais a grewyd yn ddiweddar i goffhau Dewi Sant | Tair rhosyn gwyn ar gefndir du gyda shefron wen. | |
| 6ed ganrif | Arfbais Brochwel Ysgithrog, Teyrnas Powys | Tri pen ceffyl arian ar gefndir du. | |
| diwedd y 12ed ganrif a dechrau'r 13 ganrif | Arfau Gwenwynwyn ab Owain | Pawen goch ar gefndir melyn. | |
| crewyd yn 1628 | Arfbais Iarll Caernarfon | Tri llew gwyn ar untroed ar gefndir gwyrdd (chwith) a porffor (dde). | |
| dechrau'r 12ed ganrif | Arfau Iarll Penfro | Tri llew gwyn ar untroed ar gefndir glas (chwith) a coch (dde). | |
| 1160 – 1191 | Arfbais Gruffudd Maelor I | Llew du ar gefndir gwyn. | |
| 1802 – 1896 | Arfbais Arglwyddes Llanofer | Gweler yma am ddisgrifiad llawn. | |
| 1820 – 9 Mai 1885 | Arfbais Syr Watkin Williams-Wynn, 6ed Barwnig | Gweler yma am ddisgrifiad llawn. |
Arfbeisiau Saeson a Normaniaid yng Nghymru [golygu]
-
teulu Brewys (de Braose), Arglwydd Bramber a Gŵyr
Yr Eglwys yng Nghymru [golygu]
Arall [golygu]
Gweler hefyd [golygu]
Dolennau allanol [golygu]
- Arfbeisiau Gregynog (Plas Gregynog)