Baner Glyndŵr
Baner Glyndŵr yw'r enw a roddir i'r faner sy'n dangos yr arfau a fabwysiadodd Owain Glyndŵr yn ystod ei wrthryfel dros annibyniaeth i Gymru ar ddechrau'r 15fed ganrif. Mae'n dangos pedwar llew ungoes (rampant), dau yn goch ar gefndir meylyn, a dau yn felyn ar gefndir goch.
Crêd rhai fod yr arfau hyn yn gyfuniad o arfau Teyrnas Powys, y gallai Owain hawlio bod yn etifedd iddi trwy ei dad, a Deheubarth, y gallai hawlio bod yn etifedd iddi trwy ei fam. Dywed R.R. Davies, fodd bynnag, mai mabwysiadu'r arfau a ddefnyddid gan Owain Lawgoch, etifedd olaf Teyrnas Gwynedd yn y llinach wrywaidd uniongyrchol, a wnaeth Glyndŵr. Roedd yr arfau hyn, a ddefnyddid gan Thomas ap Rhodri, tad Owain Lawgoch, hefyd, yn amrywiad o arfbais Gwynedd yng nghyfnod Llywelyn Fawr a Llywelyn ap Gruffudd, lle roedd ystum y llewod yn wahanol. Trwy fabwysiadu'r arfau hyn, roedd Glyndŵr yn hawlio bod yn olynydd llinach Aberffraw hefyd.
Yn ddiweddar mae Diwrnod Owain Glyndŵr wedi dod yn ddydd gŵyl answyddogol a ddethlir yng Nghymru ar 16 Medi, y dyddiad y cyhoeddwyd Glyndŵr yn Dywysog Cymru yn 1400. Cytunwyd i hedfan baner Glyndŵr ar furiau Castell Caerdydd ar 16 Medi 2006, mewn ymateb i bwysau gan y cyhoedd.[1] Yn 2008, gydag Alun Ffred Jones AC (Plaid Cymru) yn Weinidog Treftadaeth yn Llywodraeth Cymru, cyhoeddodd Cadw eu bod am chwifio baner Glyndŵr ar gestyll Caernarfon, Caerffili, Conwy a Harlech.
Cario'r faner [golygu]
Ellis ap Richard ap Howell ap Morgan Llwyd oedd cludwr baner (Saesneg: standard bearer) Glyndŵr. Bu farw ym Mrwydr Gallt Campston yn 1404.