Brân goesgoch

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Brân Goesgoch)
Brân goesgoch
Recordiad o'r Frân goesgoch yng Ngheredigion
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Corvidae
Genws: Pyrrhocorax
Rhywogaeth: P. pyrrhocorax
Enw deuenwol
Pyrrhocorax pyrrhocorax
(Linnaeus, 1758)

Aelod o'r genws Pyrrhocorax yn nheulu'r brain yw'r Frân goesgoch (enw gwyddonol: Pyrrhocorax pyrrhocorax; Saesneg: Red-billed chough).

Mae'n aderyn gweddol fawr, 37–41 cm o hyd a 68–80 cm ar draws yr adenydd, ac mae'r pig a choesau coch yn ei wneud yn hawdd ei adnabod. Mae'n nythu ym Mhrydain, de Ewrop yn enwedig yr Alpau, rhannau mynyddig o ganolbarth Asia ac yn yr Himalaya, lle gall fod yn gyffredin iawn, er enghraifft yn Bhutan mae'n un o'r adar mwyaf cyffredin. Ceir hefyd boblogaeth yn ucheldiroedd Ethiopia. Fel rheol mae'n nythu mewn creigiau, un ai yn y mynyddoedd neu ar yr arfordir.

Fe'i ceir hefyd o gwmpas arfordir Ynys Môn, Llŷn a Sir Benfro ac yn y mynyddoedd, yn enwedig yn Eryri.

Yng ngwledydd Prydain mae'n aderyn sy'n gyfyngedig i'r ardaloedd Celtaidd, gorllewin yr Alban, Ynys Manaw, Cymru a Chernyw. Mae'n ymddangos ar arfbais Cernyw ac yn cael ei ystyried yn symbol o'r wlad, ond dim ond yn ddiweddar y mae ychydig o barau wedi dychwelyd i nythu yno ar ôl bod yn absennol am flynyddoedd lawer.

Ymddengys y frân goesgoch ar arfbais Sir Fflint, yn ogystal â bod yn aderyn cenedlaethol Cernyw. Caiff ei dangos hefyd ar arfbais Ysgol Maelor, Llannerch Banna oherwydd roedd y pentref ei hun unwaith oyn cael ei gynnwys yn ffiniau hen Sir Fflint.

Dosbarthiad hanesyddol[golygu | golygu cod]

Dyma ysgrifennodd Gilbert White yn 1778:

Cornish choughs abound, and breed on Beechy Head, and on the cliffs of the Sussex coast.

Dyma brawf i frain coesgoch ymledu llawer yn ehangach ar un adeg, gan gynnwys yr ardal yn nrama’r Brenin Llŷr gan Shakespeare, sef Caint. Mae’r mosaic Rufeinig yma [1] o Fila Rufeinig Brading hefyd yn dangos bod brain coesgoch yn byw yn ardal Ynys Wyth ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, tan yr 1880au meddai haneswyr lleol[1]. Ac yng Nghaersallwg (Salisbury) bu tafarn o’r enw The Chough Inn (The Blue Boar erbyn heddiw) sydd yn dyddio’n ôl i’r 19g.

Y frân goesgoch yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Aelodau eraill o deulu'r brain[golygu | golygu cod]

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Brân Goesgoch Pyrrhocorax pyrrhocorax
Brân goesgoch Alpaidd Pyrrhocorax graculus
Chwibanwr Borneo Pachycephala hypoxantha
Chwibanwr mangrof Pachycephala cinerea
Jac y do Dawria Corvus dauuricus
Malwr cnau Nucifraga caryocatactes
Pioden las Fformosa Urocissa caerulea
Pioden las bigfelen Urocissa flavirostris
Pioden las gochbig Urocissa erythroryncha
Sgrech Siberia Perisoreus infaustus
Sgrech benlas Cyanolyca cucullata
Sgrech fechan Cyanolyca nanus
Sgrech hardd Cyanolyca pulchra
Sgrech lwyd Perisoreus canadensis
Sgrech-bioden gynffon-raced Crypsirina temia
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cofnodion unigol[golygu | golygu cod]

  • Yn 2014 daeth Anet Thomas o Lanengan hyd i gorff bran goesgoch wedi ei reibio gyda modrwy am y goes. Gyrrodd y fodrwy i arbenigwr lleol a fu’n monitro brain ers blynyddoedd. Cadarnhaodd hi mai gweddillion “Mrs Sant Tudwal”, 16oed, oedd yma wedi ei modrwyo yn giw yn Rhoscolyn yn 1997. Bu’n nythu yn Nhrwyn Cilan, ac yna ar Ynys Tudwal o 2000 i 2013.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Alan Phillips (dyddiad?) Cock and Bull Stories
  2. Bwletin Llên Natur rhifyn 71