Elystan Glodrydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Sefydlydd traddodiadol y pumed o Lwythau Brenhinol Cymru, yn ôl yr Achau Cymreig, oedd Elystan Glodrydd (bu farw tua 1010).

Bywgraffiad[golygu]

Ychydig iawn a wyddys am Elystan ei hun, ond roedd ei ddisgynyddion, yn cynnwys Cadwallon ap Madog, yn rheoli rhan o ardal Rhwng Gwy a Hafren yng nghanolbarth Cymru. Mae un o'r achau cynnar yn ei gysylltu â Gwrtheyrnion.[1] Roedd disgynyddion eraill iddo yn teyrnasu ym Maelienydd ac Elfael.[2] gyda changen arall yn rheoli Cedewain.[3] Gorweddai'r tiriogaethau hyn i gyd yn y rhan o Gymru a elwid yn Rhwng Gwy a Hafren yn yr Oesoedd Canol ac sy'n cyfateb yn fras i ardaloedd Maldwyn a Maesyfed ym Mhowys heddiw.

Mae un o'r achau Cymreig yn cofnodi bod Elystan yn gorwedd yn y seithfed ach o Iorwerth Hirflawdd,[4] pennaeth neu frenin o ardal Rhwng Gwy a Hafren a fu farw tua diwedd y 9fed ganrif, yn ôl pob tebyg.

Roedd Owain Cyfeiliog (c.1130-1197), y bardd-dywysog o Bowys yn fab i Gruffudd ap Maredudd a'i wraig Gwerful ferch Gwrgenau, o linach Elystan Glodrydd.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. P. C. Bartrum, Early Welsh Genealogical Tracts (Caerdydd, 1966), tud. 104.
  2. Bartrum, op. cit., tud. 104.
  3. Bartrum, op. cit., p. 105.
  4. Bartrum, op. cit., p. 104.