Yr Undeb Sofietaidd
Gwladwriaeth Sosialaidd un-blaid yng ngogledd Ewrasia o 1922 i 1991 oedd yr Undeb Sofietaidd (Rwsieg: Союз Советских Социалистических Республик (CCCP) Soyuz Sovetskikh Sotsialisticheskikh Respublik (SSSR)). Llywodraethwyd y wlad gan y Blaid Gomiwnyddol (КПСС) a hynny o Fosgo, prifddinas yr Undeb Sofietaidd.[1] Er mai undeb o nifer o weriniaethau llai oedd yr Undeb Sofietaidd roedd ei lywodraeth wedi'i ganoli'n llwyr ym Mosgo. Y mwyaf o'r gweriniaethau hyn oedd "Rwsia", o ran maint, poblogaeth, economeg a dylanwad gwleidyddol. Yn achlysurol, newidiai ei ffiniau ac roedd o ran maint ei harwynebedd bron mor fawr ag Ymerodraeth Rwsia heb Wlad Pwyl a'r Ffindir.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae tarddiad yr Undeb Sofietaidd i'w ganfod yn y diffyg bwyd wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf a arweiniodd i Chwyldro Rwsia yn 1917 a phan ymunodd mwyafrif milwyr Petrograd â'r chwyldro gorfodwyd y Tsar Nicholas II i ymddiswyddo o'i frenhiniaeth.
Arweiniwyd y Bolshevikiaid gan Vladimir Lenin a gorchfygwyd y Llywodraeth Dros-dro. Sefydlwyd "Gwladwriaeth Sofiet Sosialaidd, Ffederal Rwsia" a chychwynodd Rhyfel Cartref Rwsia. Cefnogwyd y Comiwnyddion gan y fyddin a chymerwyd drosod peth tir yn yr hen Ymerodraeth. Erbyn 1922 roedd hi'n amlwg mai'r Bolshevikiaid oedd wedi trechu a ffurfiwyd Undeb allan o'r is-weriniaethau llai megis Rwsia, Armenia, yr Wcráin a Bielorwsia. Yn dilyn marwolaeth Lenin yn 1924, a mân-frwydrau am rym, daeth Joseph Stalin i'r brig yng nghanol y 1920au. Fe sodrodd ideoleg y wlad yn sownd mewn Marcsiaeth–Leniniaeth a dilynodd hynny drwy ganoli pwer ac economi'r Undeb. O ganlyniad gwelwyd twf aruthrol yn niwydiant a chyfunoliad y wlad. Cyflwynodd Stalin y Cynlluniau Pum Mlynedd a ffermau cyfunol. Datblygodd yr Undeb Sofietaidd ac erbyn 1922 roedd yn wlad ddiwydiannol pwysig iawn. Roedd hyn yn ei pharatoi'n solad ar gyfer yr Ail Ryfel Byd.[2] Pan welodd Stalin fod Ffasgaeth yn chwalu drwy'r wlad fel tân gwyllt, cychwynodd greu panig politicaidd a system garchardai'r Gwlag a barhaodd hyd at y 1950au.
Cydnabyddwyd nerth yr Undeb Sofietaidd ers yr Ail Ryfel Byd oherwydd ei nerth milwrol, cymorth i wledydd datblygol ac ymchwil gwyddonol, yn bennaf ar gyfer technoleg gofod ac arfau. Fodd bynnag, roedd perthynas yr Undeb Sofietaidd a'r Unol Daleithiau wedi dirywio'n enbyd ac o ganlyniad dechreuodd y Rhyfel Oer. Adeiladwyd Sputnik I, y lloeren gyntaf i gylchdroi'r ddaear yn yr Undeb Sofietaidd.
Yn ail hanner y 1980au cyhoeddodd Mikhail Gorbachev, Ysgrifennydd Cyffredin y Blaid Gomiwnyddol, bolisi o glasnost (didwylledd) a perestroika (newid y strwythur economaidd). O ganlyniad cafwyd cyfarfod rhwng yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd ym 1986 a 1987 a chyfarfu Ronald Reagan, Arlywydd yr Unol Daleithiau gyda Gorbachev ym 1988 a chafodd nifer o arfau yn Ewrop eu lleihau.
Cyn yr Undeb Sofietaidd roedd gwledydd comiwnyddol dwyrain Ewrop yn datgyfannu. Ond o dan reolaeth Boris Yeltsin diddymodd yr Undeb Sofietaidd yn heddychol ym mis Rhagfyr 1991. Ymunodd y mwyafrif o aelod-gweriniaethau yr Undeb Sofietaidd â'r Gymanwlad Gwladwriaethau Annibynnol.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Bridget O'Laughlin (1975) Marxist Approaches in Anthropology Annual Review of Anthropology Cyfrol 4: tud. 341–70 (Hydref 1975) doi:10.1146/annurev.an.04.100175.002013.
William Roseberry (1997) Marx and Anthropology Annual Review of Anthropology, Cyfrol 26: tud. 25–46 (Hydref 1997) doi:10.1146/annurev.anthro.26.1.25 - ↑ Robert Service (9 Medi 2005). Stalin: a biography. Picador. ISBN 978-0-330-41913-0.