Gweriniaeth Sofietaidd yr Wcráin
Jump to navigation
Jump to search
Cyn wladwriaeth a fu'n rhan o'r Undeb Sofietaidd oedd Gweriniaeth Sofietaidd yr Wcráin. Cyn hynny roedd yr Wcráin ei hun yn rhan o Ymerodraeth Rwsia. Ffiniai â Gweriniaeth Sofietaidd Belarws (Belarws heddiw), Gweriniaeth Sofietaidd Moldofa (Moldofa) a Gweriniaeth Sofietaidd Ffederal Rwsia (Rwsia). Daeth yn wlad annibynnol ar Rwsia yn 1991, ar ddiwedd y Rhyfel Oer, fel Gweriniaeth yr Wcráin.