Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol
| Enghraifft o: | sefydliad rhyngwladol, cymanwlad, sefydliad rhynglywodraethol, cenedl mewn chwaraeon |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 8 Rhagfyr 1991 |
| Rhagflaenwyd gan | Yr Undeb Sofietaidd, Soviet empire |
| Lleoliad | Cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd |
![]() | |
| Sylfaenydd | Gwladwriaeth Ffederal, Sosialaidd, Sofietaidd Rwsia, Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin, Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Belarws |
| Isgwmni/au | Union State |
| Pencadlys | Minsk |
| Enw brodorol | Содружество Независимых Государств |
| Gwefan | https://e-cis.info/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/096ds |


Corff rhyngwladol yw Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol (CIS) (Rwsieg: Содружество Независимых Государств (СНГ) - Sodruzhestvo Nezavisimykh Gosudastv) sy'n hybu cysylltiadau rhwng 12 o'r 15 o wladwriaethau a oedd yn rhan o'r Undeb Sofietaidd blaenorol. Nid yw'r gwledydd Baltaidd yn aelodau.
Yng Cytundebau Belovezh cytunodd arweinyddion Rwsia, Belarws ac Wcráin sefydlu'r CIS ar 8 Rhagfyr 1991 yn Belovezhskaya Pushcha ger Brest ym Melarws, ac felly daeth yr Undeb Sofietaidd i ben. Arwyddwyd Protocol Alma-ata, sef cytundeb gan yr aelod-wladwriaethau eraill ar 21 Rhagfyr 1991 (heblaw am Georgia, a ymunodd ym 1993).
Er nad oes fawr o bŵer gan y Gymanwlad, mae hi'n bwysig serch hynny am ei bod yn cydlynu polisïau'r aelodau ym materion masnach, cyllid, y gyfraith ac amddiffyn. Un o'r materion pwysicaf i'r corff oedd sefydlu ardal masnach rydd yn 2005.
- Aelodau

