Taxus baccata
| Ywen | |
|---|---|
| Ywen | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Rhaniad: | Pinoophyta |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Pinales |
| Teulu: | Taxaceae |
| Genws: | Taxus |
| Rhywogaeth: | T. baccata |
| Enw deuenwol | |
| Taxus baccata L. | |
Coeden fythwyrdd yw'r Taxus baccata (Enw Lladin) neu Ywen Gyffredin. Mae'n frodor o Ewrop, Gogledd Affrica a gogledd Iran lle mae bellach yn hynod o brin, ond sydd i'w gweld yn eitha cyffredin ym mynwentydd Cymru.
Mae'r ywen yn goeden sy'n tyfu'n araf ac yn byw i gryn oedran. Gall gyrraedd uchder o 12–20m. Ceir coed gwrywaidd a choed benywaidd, ac mae'r hedyn y tu mewn i'r aeron coch yn wenwynig. Ceir nifer sylweddol o goed yw yng Nghymru, yn bennaf mewn mynwentydd. Arferid defnyddio pren ywen ar gyfer y bwa hir. Credir fod yr ywen yn tyfu tua metr mewn canrif - o fesur o gwmpas ei bonyn.
Dosbarthiad yng ngwledydd Prydain
[golygu | golygu cod]Mae'r map ar y dde yn dangos ym mha siroedd y ceir o leiaf un ywen sydd dros 700 mlwydd oed. Po dwyllaf y lliw, y mwyaf o hen goed sydd yno e.e. ceir 45 ohonynt ym Mhowys, ac un yn unig yng Ngheredigion. Mae patrwm amlwg i'w weld, gyda Chernyw a Perth yn yr Alban yn eithriadau. Hyd yma, ni ellir dyddio'n union y coed hynaf, am nifer o resymau, ond y gred gyffredinol gan ysgolheigion yw fod yr hynaf ohonynt wedi'u plannu cyn i Gristnogaeth gyrraedd gwledydd Prydain. Cred rhai fod rhain mynd yn ôl i Oes yr Efydd.[1]

>300 200-300 80-200 17-80 <17
Ceir 100 o goed dros 700 mlwydd oed yng Nghymru, hynny yw, sydd yn mesur o leiaf 7 metr, 157 yn Lloegr a 2 yn yr Alban. Yn y tabl isod gellir gweld fod 10% o'r coed a gofnodwyd bellach wedi diflannu, a'r siroedd gwaethaf yw: Morgannwg, Swydd Efrog a Swydd Warwick. O ran niferoedd, y siroedd lle collwyd yfwyaf yw Gwlad yr Haf (23) a Chain (20). Prin iawn yw'r coed hynafol yn yr Alban, ond yn eironig iawn yno, hefyd mae'r ywen mwyaf, sy'n 17.06m (56 tr) o'i chwmpas.
O ran cynefin, mae 67% (1,850) o goed yw i'w canfod mewn mynwentydd. Mae bron i 80% o'r coed yw (223) sydd wedi diflannu wedi tyfu mewn mynwentydd, sy'n awgrymu iddynt gael eu torri i lawr er mwyn cael rhagor o le i gladdu cyrff. Tair coeden yn unig a ddiflanodd o erddi neu coetiroedd nad oeddent yn gysylltiedig ag eglwysi.
| Gwlad / Sir | Coed byw | Coed wedi diflannu | Coed byw a choed wedi diflannu | Canran (%) a gollwyd | Hyd o'u cwmpas: 7 – 9m | Hyd o'u cwmpas: > 9m | Cyfanswm y coed dros 7m |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Lloegr | 1964 | 205 | 2169 | 10 | 122 | 35 | 157 |
| Cymru | 693 | 71 | 764 | 10 | 81 | 19 | 100 |
| Yr Alban | 103 | 5 | 108 | 5 | 1 | 1 | 2 |
| Powys | 342 | 16 | 358 | 5 | 44 | 8 | 52 |
| Caint | 218 | 20 | 238 | 9 | 19 | 5 | 24 |
| Hampshire | 236 | 9 | 245 | 4 | 20 | 3 | 23 |
| Gwlad yr Haf | 159 | 23 | 182 | 14 | 11 | 3 | 14 |
| Sussex | 109 | 15 | 124 | 14 | 11 | 3 | 14 |
| Swydd Henffordd | 124 | 11 | 135 | 9 | 10 | 3 | 13 |
| Swydd Amwythig | 142 | 9 | 151 | 6 | 9 | 3 | 12 |
| Surrey | 103 | 9 | 112 | 9 | 9 | 3 | 12 |
| Sir Fynwy | 72 | 13 | 85 | 18 | 9 | 3 | 12 |
| Dorset | 104 | 15 | 119 | 14 | 8 | 2 | 10 |
| Dyfnaint | 78 | 5 | 83 | 6 | 6 | 4 | 10 |
| Gwynedd | 34 | 5 | 39 | 15 | 5 | 4 | 9 |
| Wiltshire | 77 | 11 | 88 | 14 | 5 | 1 | 6 |
| Ceredigon | 26 | 4 | 30 | 15 | 4 | 2 | 6 |
| Conwy | 31 | 4 | 35 | 13 | 3 | 2 | 5 |
| Swydd Gaerloyw | 119 | 7 | 126 | 6 | 3 | 1 | 4 |
| Sir Gaerfyrddin | 37 | 6 | 43 | 16 | 4 | 4 | |
| Swydd Rydychen | 37 | 5 | 42 | 14 | 3 | 3 | |
| Sir Forgannwg | 33 | 9 | 42 | 27 | 3 | 3 | |
| Llundain Fwyaf | 25 | 5 | 30 | 20 | 1 | 2 | 3 |
| Cumbria | 52 | 5 | 57 | 10 | 2 | 2 | |
| Sir Ddinbych | 40 | 2 | 42 | 5 | 2 | 2 | |
| Berkshire | 61 | 7 | 68 | 11 | 1 | 1 | |
| Swydd Derby | 40 | 7 | 47 | 18 | 1 | 1 | |
| Swydd Warwick | 22 | 6 | 28 | 27 | 1 | 1 | |
| Perth a Kinross | 17 | 0 | 17 | 0 | 1 | 1 | |
| Swydd Buckingham | 16 | 3 | 19 | 19 | 1 | 1 | |
| Caerwrangon | 47 | 8 | 55 | 17 | 0 | ||
| Swydd Stafford | 35 | 2 | 37 | 6 | 0 | ||
| Swydd Efrog | 28 | 8 | 36 | 29 | 0 | ||
| Siroedd eraill | 296 | 32 | 328 | 11 | 9 | 2 | 11 |
| CYFANSWM | 2760 | 281 | 3041 | 10 | 204 | 55 | 259 |
Coed yw nodedig yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Nododd Bevan-Jones yn 2002 fod cysylltiad amlwg rhwng cell y meudwy, neu seintiau cynnar â choed yw. Maint celloedd o'r fath fel arfer oedd tua 3m x 4m, a'r rheiny wedi'u gwneud o goed yn bennaf. Mae'r dystiolaeth archaeolegol ohonynt, felly'n brin iawn. Ceir sawl astudiaeth sy'n dangos fod yr eglwys o leiaf yr un oedran a'r coed yw e.e. Plwyf Dunsfold, Surrey (Chetan and Brueton, 1994).
Coed dros 800 o flynyddoedd oed
[golygu | golygu cod]- Sir Gaerfyrddin: Aberbranddu, Llanfihangel-ar-Arth, Llanycrwys ac Ystradffin
- Ceredigion: Cenarth, Llandre, Llanfair Clydogau, Silian ac Ystrad Aeron
- Conwy: Ffynnon Bedr, Gwytherin, Llangernyw a Llangwm
- Sir Ddinbych: Cyffylliog, Llandrillo a Nantglyn
- Sir Forgannwg: Pendeulwyn, Llanedeyrn, St Brides-super-ely a St George`s-super-ely
- Gwynedd: Llanelltud, Llanycil, Llanymawddwy a Mallwyd
- Sir Fynwy: 14 gan gynnwys Betws Newydd, Llanfair Cilgedin (2) a Mamheilad
- Powys: 41 coeden gan gynnwys Pencelli. Ceir mwy o goed yw hynafol ym Mhowys na'r un sir arall drwy wledydd Prydain.
- Wrecsam: Caer Alyn, Gresffordd, Owrtyn
- Ywen Llangernyw; credir ei bod tua 2,000 o flynyddoedd oed.
- Roedd coed yw eglwys Owrtyn yn un o Saith Rhyfeddod Cymru
- Coed yw Llanddeiniolen, Gwynedd, a anfarwolwyd gan gerdd W.J. Gruffydd, Ywen Llanddeiniolen
- Ywen Llanafan Fawr, Powys; credir ei bod tua 2,000 o flynyddoedd oed.
-
Ywen Llangernyw: fel nifer o goed yw, fe'i lleolwyd i'r gogledd o'r eglwys.
-
Dwy ywen ger drws Eglwys Sant Garmon, Llanarmon Dyffryn Ceiriog: yr un ar y chwith yn fenywaidd a'r llall yn wrywaidd.
-
Eglwys yr Holl Seintiau, Gresffordd
-
Eglwys Corff Crist, Tremeirchion.
-
Eglwys Sant Tydecho, Cemais, Powys
-
Llanelidan, Sir Ddinbych.