Rhestr seiclwyr proffesiynol sydd wedi marw yn ystod ras
Gwedd
Mae hon yn rhestr o seiclwyr proffesiynol sydd wedi marw yn ystod ras, y rhanfwyaf yn dilyn damwain ar y beic. Ni fu farw pob un yn syth; bu farw nifer o'u hanafiadau mewn ysbytu ar ôl cael eu cymryd yno.
Marwolaethau yn ystod hyfforddi neu yn gysylltiedig â seiclo
[golygu | golygu cod]Ni fu farw'r reidwyr canlynol yn ystod ras, ond yn ystod hyfforddi neu unrhyw reswm arall yn gysylltiedig â seiclo:
Dyddiad | Enw | Cenediglrwydd | Digwyddiad/Damwain |
---|---|---|---|
1 Mehefin 1914 | Franz Suter | Y Swistir | Cafodd ei daro gan drên wrth hyfforddi ger Courbevoie, Ffrainc |
28 Awst 1999 | Edith Atkins | Lloegr | Cafodd ei tharo gan gar wrth gwthio ei beic a ch
groesi ffordd yr A45 ger Ryton-on-Dunsmore[1] |
Adolphe Heliére | Ffrainc | Boddodd tra'n nofio ar ddiwrnod gorffwyso yn Tour de France 1910 | |
14 Mehefin 1927 | Ottavio Bottecchia | Yr Eidal | Canfwyd ar ymyl y ffordd gyda chleisiau a phenglog wedi torri, budd debyg fel canlyniad o ddisgyn. |
1975 | Tommy Godwin | Prydain Fawr | Methiant y galon, 63 oed, wrth ddychwelyd o reid i Gastell Tutbury gyda ffrindiau |
1994 | Antonio Martín | Sbaen | Lladdwyd pan gafodd ei darro gan lori wrth hyfforddi ger Madrid |
28 Chwefror 1999 | Dave Bedwell | Prydain Fawr | Methiant y galon tra ar reid y Cyclists Touring Club. 70 oed |
8 Mai 1996 | Beryl Burton | Prydain Fawr | Methiant y galon |
2000 | Anders Nilsson | Sweden | (triathlon) Cafodd ei daro gan gar tra'n hyfforddi. |
2001 | Ricardo Otxoa | Sbaen | Cafodd ef a'i frawd Javier eu taro gan gar tra'n hyfforddi |
2003 | Lauri Aus | Estonia | Cafodd ei daro gan gar pan oedd yn reidio ar y ffordd i Bencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Estonia |
2004 | Stive Vermaut | Gwlad Belg | Daeth ei yrfa proffesiynol i ben yn 2002 oherwydd problemau gyda'i galon. Cafodd drawiad i'r galon tra ar y beic yn 2004 a bu farw ychydig wythnosau'n diweddarach |
18 Gorffennaf 2005 | Amy Gillett | Awstralia | Cafodd ei lladd wed i gar yrru'n syth i mewn i du blaen grŵp o reidwyr y tîm cenedlaethol pan oeddent yn hyfforddi yn yr Almaen |
2002 | Luke Harrop | Awstralia | Cafodd ei daro gan gar tra'n hyfforddi ar y Gold Coast, Brisbane. Ni stopiodd y gyrrwr. |
Rhagfyr 2006 | Scott Peoples | Awstralia | Cafodd ei daro gan gar o'r cefn tra'n hyfforddi yn Victoria. |
1 Awst 2007 | Ryan Cox | De Affrica | Bu farw yn ysbytu Kempton Park, Gauteng pan fyrstiodd rhydweli yn ei goes chwith, tair wythnos ar ôl llawdriniaeth ar nam gwaedlestrol yn Ffrainc ar gyfer cael gwared a cwlwm yn y rhydweli.[2] |
Ebrill 2007 | Ben Mikic | Awstralia | Cafodd ei daro gan gar tra'n hyfforddi yn Sydney |
16 Ionawr 2008 | Jason MacIntyre | Yr Alban | Cafodd ei daro gan fan y cyngor tra'n hyfforddi |
2009 | Frederiek Nolf | Gwlad Belg | Bu farw yn ei gwsg yn ystod y Tour of Qatar |
25 Mehefin 2009 | Zinaida Stahurskaya | Belarws | Cafodd ei daro gan gar tra'n hyfforddi yn Belarws |
6 Tachwedd 2009 | Dimitri De Fauw | Gwlad Belg | Hunanlofruddiaeth oherwydd iselder yn dilyn marwolaeth Isaac Gálvez yn Six Days of Ghent, 2006 |
8 Ebrill 2010 | Jorge Alvarado | Mecsico | Cafodd ei daro gan gar tra'n hyfforddi yn San Bernardino, roedd gyrrwr y car yn 18 oed ac yn rasio ar y stryd yn anghyfreithlon |
10 Mai 2011 | Shamus Liptrot | Awstralia | Bu farw o ganlyniad i anafiadau a dderbyniod wedi damwain mewn ras scratch gartref Graddfa C ar y trac, yn Devonport, Tasmania |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ron Atkins' Memories. Coventry Telegraph.
- ↑ Tragedy in South Africa as Ryan Cox passes away Susan Westemeyer & Shane Stokes, Cyclingnews.com 1 Awst 2007