Tommy Godwin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Thomas Godwin
Gwybodaeth bersonol
Enw llawn Thomas Charles Godwin
Llysenw Tommy
Dyddiad geni 5 Tachwedd 1920(1920-11-05)
Dyddiad marw 3 Tachwedd 2012(2012-11-03) (91 oed)
Solihull[1]
Manylion timau
Disgyblaeth Trac
Rôl Reidiwr
Golygwyd ddiwethaf ar
4 Hydref 2007

Seiclwr trac Seisnig oedd Thomas "Tommy" Charles Godwin (5 Tachwedd 19203 Tachwedd 2012). Ganwyd yn Connecticut, Yr Unol Daleithiau i rieni o Loegr a dychwelodd y teulu i wledydd Prydain yn 1932[2]. Bu'n rasio yn ystod y 1940au a'r 1950au ac yn ddiweddarach daeth yn hyfforddwr, rheolwr a gweinydd yn y byd seiclo.

Enillodd Godwin dau fedal efydd yn pursuit tîm (gyda Robert Geldard, David Ricketts a Wilfrid Waters) a Kilo Gemau Olympaidd 1948 yn Llundain, a medal efydd arall yn Kilo Gemau'r Gymanwlad 1950.

Rhwng 1936 a 1950, gweithiodd Godwin yn Birmingham Small Arms Company. Am 36 mlynedd o 1950 rhedodd siop feics yn Silver Street yn ardal Kings Heath, Birmingham.[3]

Roedd Godwin yn reolwr o dîm cenedlaethol Prydain yng Ngemau Olympaidd 1964 yn Tokyo, bu'n Lywydd y British Cycling Federation a chlwb seiclo Solihull yn ddiweddarach. Rhedodd y gwersyll ymarfer cyntaf yn Mallorca a'r cwrs trac cyntaf yn Lilleshall. Sefydlodd Birmingham RCC, a bu ymysg arloeswyr cyntaf hyfforddwyr seiclo. Hyfforddodd a chynghorodd genhedlaeth o seiclwyr trac Prydain; mae nifer ohonynt wedi ennill medalau cenedlaethol a rhyngwladol.

Cyhoeddwyd ei hunanfywgraffiad It Wasn't That Easy: The Tommy Godwin Story yn 2007 gan y 'John Pinkerton Memorial Publishing Fund'.[4] Yn 91 oed fe'i ddewiswyd i gymeryd rhan yn nhaith y Ffagl Olympaidd o gwmpas y DU cyn cychwyn Gemau Olympaidd Lundain yn 2012, a fe'i gariodd ar gymal 300 metr drwy Solihull ar 1 Gorffennaf 2012. Bu farw yn Hospis Marie Curie yn Solihull ar 3 Tachwedd 2012.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]