Beryl Burton

Oddi ar Wicipedia
Beryl Burton
Ganwyd12 Mai 1937 Edit this on Wikidata
Leeds Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mai 1996 Edit this on Wikidata
o ataliad y galon Edit this on Wikidata
Morley Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
PlantDenise Burton Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Seiclwraig Seisnig oedd Beryl Burton MBE OBE (12 Mai 19378 Mai 1996), ac un o athletwyr gorau Prydain erioed.

Domineiddiodd rasio beiciau merched yn y Deyrnas Unedig, gan ennill dros 90 o bencampwriaethau cenedlaethol a saith pencampwriaeth y byd. Gosododd sawl record cenedlaethol, gan gynnwys y record ar gyfer y treial amser 12 awr, a ragorodd ar record y dynion am ddwy flynedd.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Beryl Charnock yn ardal Halton, Leeds, Gorllewin Swydd Efrog a bu'n byw yn ardal Morley drwy gydol ei bywyd,[1] gan rasio'n bennaf dros y Morley Cycling Club a Knaresborough CC yn ddiweddarach. Roedd yn blentyn gwelw, a dioddefodd nifer o afiechydon, gan gynnwys treulio 15 mis yn yr ysbyty o ganlyniad twymyn gwynegon.[2]

Cyfarfu â'i gŵr, Charlie, yn y gwaith. Cychwynnodd Beryl seiclo gydag ef, a phriodasant ym 1955. Buan y dechreuodd ei adael ar ôl ar y ffordd, a'i syniad oedd cymryd rhan mewn treialon amser, a chytunodd ei gŵr i'w chefnogi. Dyflwydd yn ddiweddarach, cipiodd ei medal cenedlaethol cyntaf yn y treial amser 100 milltir, a chyn diwedd y ddegawd roedd yn cystadlu'n rhyngwladol.

Anrhydeddau rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Enillodd Burton Bencampwriaeth Ras Ffordd y Byd ym 1960 ac ym 1967, a daeth yn ail ym 1961. Arbenigodd yn y pursuit unigol ar y trac, gan ennill medal ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, UCI bron bob blwyddyn dros dair degawd. Bu'n bencampwr y byd pum gwaith (1959, 1960, 1962, 1963 a 1966), yn ail dair gwaith (1961, 1964 a 1968), ac yn drydedd ym 1967, 1970 a 1973.

Cystadlaethau cenedlaethol[golygu | golygu cod]

Mewn treialon amser cartref, bron na ellid trechu Burton. Enillodd gystadleuaeth British Best All-Rounder y Road Time Trials Council am 25 mlynedd yn olynol: o 1959 hyd at 1983. Enillodd 72 teitl treial amser cenedlaethol i gyd, pedwar teitl 10 milltir (cynhaliwyd gyntaf ym 1978), 26 teitl 25 milltir, 24 teitl 50 milltir ac 18 teitl 100 milltir. Enillodd ei theitlau cenedlaethol unigol olaf ym 1986 a hithau bron yn hanner cant oed (25 a 50 milltir) Roedd hefyd yn aelod o'r tîm cyflymaf: Knaresborough CC, yn y bencampwriaeth 50 milltir ym 1989.

Enillodd hefyd 12 teitl Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain a 12 teitl pursuit ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain.

Recordiau[golygu | golygu cod]

Ym 1967, gosododd Burton record treial amser 12-awr newydd, gan gwblhau 277.25 milltir[3] – pellter a ragorodd, o 0.73 milltir, ar record y dynion ar y pryd, ac ni churwyd y nod hwn gan ddyn hyd 1969.[4] Tra'n gosod y record, goddiweddodd Mike McNamara a oedd wrthi'n gosod record y dynion o 276.52 milltir ac ennill cystadleuaeth British Best All-Rounder y dynion. Dywedir iddi roi liquorice allsort iddo wrth iddi reidio heibio.[5]

Gosododd 50 record cenedlaethol ar bellterau o 10, 15, 25, 30, 50 a 100-milltir; a chynhalodd ei recordiau terfynol 10, 25 a 50-milltir am 20 mlynedd cyn iddynt gael eu torri. Safodd ei record 100-milltir am 28 mlynedd, ac mae ei record 12-awr yn dal i sefyll hyd heddiw. Oherwydd ei gallu, derbyniodd wahoddiad arbennig, fel merch, i'r Grand Prix des Nations ym 1967.

Ym 1982, gosododd Burton record 10-milltir cenedlaethol tandem merched, ynghyd â'i merch Denise: 21 munud, 25 eiliad.

Cymyn[golygu | golygu cod]

Roedd merch Beryl Burton, Denise, hefyd yn seiclwraig benigamp: enillodd y fedal efydd yn y pursuit ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, UCI 1975). Cafodd y ddwy eu dewis i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth y Byd ym 1972.

Cafodd ei champau eu cydnabod yn swyddogol ym 1964, pan dderbyniodd MBE ac OBE ym 1968. Enillodd Burton hefyd un o brif acolâdau seiclo Prydain, Gwobr Goffa Bidlake, dair gwaith (record arall), ym 1959, 1960 a 1967.

Bu farw Burton o fethiant y galon tra'n reidio'n gymdeithasol i ddanfon gwahoddiadau i'w pharti pen-blwydd yn 59 oed; roedd wedi byw erioed gyda rhythmau calon anarferol. Crybwyllodd ei merch Denise y gallai ei hysbryd cystadleuol fod wedi cyfrannu at flino'i chorf yn y pen draw.[6]

Sefydlwyd gardd goffa Beryl Burton yn Morley, ac mae Morley Cycling Club wedi rhoi tlws (a enillwyd 20 gwaith gan Burton) i'r RTTC ar gyfer y gystadleuaeth Champion of Champions ar gyfer merched: adnabyddir ef fel tlws Beryl Burton.

Mae llwybr beiciau'r Beryl Burton Cycle Way yn galluogi i seiclwyr deithio 2.8 km rhwng Harrogate a Knaresborough gan osgoi'r A59.[7] Mae actifyddion yn Harrogate, gan gynnwys Cycle Harrogate[8] wedi lobïo i gael y llwybr wedi ei drwsio oherwydd fod ei gyflwr mor wael.

Yn 2009, anrhydeddwyd Burton drwy ei chynnwys yn y British Cycling Hall of Fame.[9]

Golden Book of Cycling[golygu | golygu cod]

Dathlwyd campau Burton am y tro cyntaf ym 1960 pan gysegrodd Cycling Weekly dudalen iddi yn y Golden Book of Cycling.[10] Erbyn 1991, roedd ei gyrfa wedi datblygu cymaint fel y rhoddwyd anrhydedd unigryw iddi, sef ail dudalen yn y llyfr.

Drama Radio[golygu | golygu cod]

Darlledwyd drama yn dilyn hanes Burton ar BBC Radio 4 ar 27 Tachwedd 2012, sef Beryl: A Love Story On Two Wheels. Ysgrifennwyd y ddrama gan yr actores Maxine Peake, a hithau hefyd chwaraeodd ran Burton. Cynhwyswyd yn y ddrama ddarnau o gyfweliadau gyda Charlie Burton, a'u merch, Denise Burton Cole.[11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Infamous and Famous from Morley. Wakefield Family History Society.
  2.  Vamplew, Wray (1885–1900). "Burton ,Beryl" . Dictionary of National Biography. Llundain: Smith, Elder & Co.
  3.  CTT Competition Records - Women. Cycling Time Trials.
  4.  CTT Competition Records - Men. Cycling Time Trials.
  5. Woodland, L. (2005), This Island Race, Mousehold Press, p. 174, ISBN 1-874739-36-6
  6.  Hugh Gladstone (26 Chwefror 2010). Beryl Burton: British Legend. Cycling Weekly. Adalwyd ar 22 Chwefror 2012.
  7.  Harrogate Borough Council - Beryl Burton Cycle Way. Harrogate.gov.uk. Adalwyd ar 20 Gorffennaf 2012.
  8.  Cycle Harrogate.
  9.  50 Cycling Heroes Named in British Cycling's Hall of Fame. British Cycling (17 Rhagfyr 2009).
  10.  The Golden Book of Cycling - Beryl Burton, 1960. Thepedalclub.org. Adalwyd ar 20 July 2012.
  11.  Beryl: A Love Story On Two Wheels. BBC. Adalwyd ar 22 Tachwedd 2012.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]