Llys Troseddau Rhyngwladol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gofal: ceir erthygl arall o'r enw Llys Barn Rhyngwladol; ceir hefyd sawl mudiad gyda'r talfyriad 'ICC'.
Llys Troseddau Rhyngwladol
International Criminal Court
Cour pénale internationale

International Criminal Court logo.svg

ICC member states.svg
Gwladwriaethau sy'n Aelodau o'r Llys
     Gweithredwyd dros yr Aelod hwn

     Ni weithredwyd dros yr Aelod hwn      Gwnaed cais i ymuno

     Gwladwriaeth nad yw wedi ymuno
Pencadlys Hâg, yr Iseldiroedd
Aelodaeth 123 o o wladwriaethau
Llywydd Song Sang-Hyun
Erlynydd Fatou Bensouda
Cofrestrydd Herman von Hebel
Sefydlwyd 1 Goffennaf 2002
Gwefan www.icc-cpi.int

Mudiad rhyng-lywodraethol a thribiwnlys ar gyfer y byd cyfan yw Llys Troseddau Rhyngwladol (Ffrangeg: Cour pénale internationale; Saesneg: International Criminal Court) (a adnabyddir hefyd gan y talfyriadau: ICC ac ICCt) ac sydd wedi'u sefydlu yn yr Hâg yn yr Iseldiroedd. Caiff y Ffrangeg a'r Saesneg eu siarad yn gyfochrog ym mhob rhan o waith y mudiad.

Defnyddir y talfyriad ICCt yn aml er mwyn gwahaniaethu rhwng y Llys Troseddau Rhyngwladol a nifer o gyrff gyda'r un talfyriad e.e. International Cricket Council neu'r International Control Commission.

Mae gan yr ICCt yr awdurdod i erlyn unigolion am droseddau:

Ni fwriedir i'r ICCt fod yn ychwanegiad i'r system gyfreithiol ryngwladol, bresennol, ac felly dim ond ar rai adegau arbennig mae'n gweithredu; yr adegau hynny yw: pan fo llysoedd gwledydd y byd yn methu erlyn, neu ddim yn fodlon erlyn troseddwyr neu pan fo'r Cenhedloedd Unedig neu wladwriaethau unigol yn gofyn iddyn nhw erlyn.

Cychwynodd y Llys Troseddau Rhyngwladol ar ei waith ar 1 Goffennaf 2002, yr un adeg ag y daeth 'Ystatud Rhufain i rym. Mae Ystatud Rhufain yn gytundeb amlochrog sy'n gynsail i waith yr ICCt. Pan fo gwladwriaeth yn arwyddo Ystatud Rhufain, yna dônt yn aelodau o'r ICCt yn otomatig. Yn 2015 roedd 123 gwladwriaeth wedi arwyddo Ystatud Rhufain, ac felly'n aelodau o'r Llys Troseddau Rhyngwladol.[1]

Mae gan y Llys Troseddau Rhyngwladol bedair adran: y Llywyddiaeth, Adran Farwrol, Adran Erlyniaeth a'r Cofrestrydd. Y Llywydd yw'r Prif Farnwr ac mae wedi'i ethol gan ei gydweithwyr yn yr Adran Farnwrol sef yr adran sy'n eistedd (neu'n cymryd y gwarandawiad) yn y Llys. Ymchilio i'r troseddau mae Adran yr Erlynydd a hi hefyd sy'n agor yr achos. Gwaith Adran y Cofrestrydd yw gweinyddu gwaith y mudiad.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 17 Gorffennaf 1998 derbyniwyd Ystatud Rhufain gan 120 o wledydd, gyda saith yn erbyn a 21 yn ymatal. Y 7 gwlad a oedd yn erbyn ei ffurfio oedd: Unol Daleithiau America, Israel, Tsieina, Irac, Libia, Qatar ac Iemen.[2] Yn dilyn hyn, daeth y cytundeb yn weithredol ar 1 Gorffennol 2002.[3] Penodwyd 18 o farnwyr gan Gynulliad y Gwladwriaethau (the Assembly of States Parties) yn Chwefror 2003. Tyngodd y deunaw barnwr lw o ffyddlondeb i'r Llys ar 11 Mawrth 2003.[4]

Achosion[golygu | golygu cod y dudalen]

Map gwleydd.
Ymchwiliadau gan y Llys Troseddau Rhyngwladol
Gwyrdd:Ymchwiliadau swyddogol
Coch golau: Ymchwiliadau cychwynol cyfoes
Coch tywyll: Ymchwiliadau cychwynol wedi'u gorffen

Hyd at Ionawr 2015 roedd y sefyllfa fel a ganlyn: roedd y Llys, ers ei sefydlu, wedi derbyn nifer o gwynion am droseddau honedig gan o leiaf 139 gwlad ac roedd yr Erlynydd wedi agor ymchwiliadau i naw sefyllfa: Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Wganda, Gweriniaeth Canolbarth Affrica (achos I a II), Darffwr, Swdan, Cenia, Libia, yr Arfordir Ifori a Mali.[5] Yn ogystal â hyn roedd Adran (neu 'Swyddfa'r') Erlynydd wedi agor 9 achos cychwynol arall: Palisteina ac Israel, Affganistan, Colombia, Georgia, Gini, Hondwras, Iraq, Nigeria a'r Wcrain.

Aelodau newydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar y cyntaf o Ebrill, 2015 derbyniwyd Gwladwriaeth Palesteina yn 123ydd gwladwriaeth i dderbyn Ystatud Rhufain ac felly'n Aelod-Wladwriaeth (neu State Party) o'r ICC.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Llys Troseddau Rhyngwladol; adalwyd 17 Ionawr 2015
  2. Scharf, Michael P. (Awst 1998). "Results of the Rome Conference for an International Criminal Court". American Society of International Law. Adalwyd 4 Rhagfyr 2006.
  3. Amnesty International (11 Ebrill 2002). "The International Criminal Court – A Historic Development in the Fight for Justice". Adalwyd Mawrth 2008.
  4. Coalition for the International Criminal Court. "Judges and the Presidency". Archived 9 Rhagfyr 2012. Adalwyd 9 Rhagfyr 2012.
  5. Achosion; gwefan Llys Troseddau Rhyngwladol; adalwyd 17 Ionawr 2015
  6. Gwefan yr ICC; adalwyd 05 Ebrill 2015.