Ieithoedd y Deyrnas Unedig
Ieithoedd y Deyrnas Unedig | |
---|---|
![]() Saesneg Sgoteg Cymraeg Gaeleg yr Alban | |
Prif iaith/ieithoedd | Saesneg (98%;[1] cenedlaethol ac yn de facto swyddogol)[a][2][3][4] |
Iaith/Ieithoedd lleiafrifol | Sgoteg (2.5%),[5] Cymraeg (1%),[6] Sgoteg Wlster (0.05%),[7] Cernyweg (<0.01%), Gaeleg yr Alban (0.1%), Gwyddeleg (0.1%)[a] |
Prif iaith/ieithoedd mewnfudo | Pwyleg (1%), Punjabi (0.5%), Wrdw (0.5%), Bengaleg (0.4%), Gwjarati (0.4%), Arabeg (0.3%), Ffrangeg (0.3%), Portiwgaleg (0.2%), Sbaeneg (0.2%), Tamileg (0.2%) |
Prif iaith/ieithoedd tramor | Ffrangeg (23%), Almaeneg (9%), Sbaeneg (8%)[b][8] |
Arwyddiaith/Arwyddieithoedd | Iaith Arwyddo Brydeinig, Iaith Arwyddo Gwyddelig, Iaith Arwyddo Gogledd Iwerddon |
Cynllun(iau) bysellfwrdd cyffredin | ![]() |
Y Saesneg, a thafodieithoedd ohoni, yw'r iaith a siaredir gan y rhan helaeth o'r Deyrnas Unedig,[9] er hynny siaredir sawl iaith "ranbarthol" hefyd. Siaredir un iaith frodorol ar ddeng ar draws Ynysoedd Prydain: tair iaith Germanaidd, pum iaith Geltaidd a thair iaith Romáwns. Siaredir hefyd sawl iaith fewnfudo yn Ynysoedd Prydain, gan amlaf mewn ardaloedd dinasoedd; o Dde Asia a Gorllewin Ewrop y mae'r ieithoedd hyn yn bennaf.
Y Saesneg yw'r iaith swyddogol de facto yn y Deyrnas Unedig,[3][4] a siaredir gan ryw 59.8 miliwn o breswylwyr, neu 98% y boblogaeth, sydd yn dair oed a throsodd.[1][2][10][11][12] Mae rhyw 700,000 o bobl yn medru siarad y Gymraeg yn y DU,[13] sydd yn iaith swyddogol yng Nghymru[14] a'r unig iaith swyddogol de jure mewn unrhyw ran o'r DU.[15] Gall rhyw 1.5 miliwn o bobl yn y DU siarad Sgoteg — er bod dadl parthed ai iaith ei hun ynteu amrywiaeth ar y Saesneg ydyw.[5][16]
Mae cryn drafod ar ieithoedd y tair tiriogaeth ddibynnol y Goron (Jersey, Ynys y Garn ac Ynys Manaw),[17] er nad ydynt yn rhan o'r Deyrnas Unedig.
Rhestr o ieithoedd a thafodieithoedd[golygu | golygu cod]
Byw[golygu | golygu cod]
Dengys y tabl isod ieithoedd brodorol byw y Deyrnas Unedig (Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon). Ni chynhwysir yma ieithoedd tiriogaeth sy'n ddibynnol y goron (Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw).
Iaith | Math | Siaredir yn | Nifer o siaradwyr yn y DU |
---|---|---|---|
Saesneg | Almaenaidd (Almaenaidd y Gorllewin) | Drwyddi draw'r Deyrnas Unedig | 59,824,194; 98% (Cyfrifiad 2011)[1] |
Sgoteg (Sgoteg Wlstwr yng Ngogledd Iwerddon) | Almaenaidd (Almaenaidd y Gorllewin) | yr Alban (Iseldiroedd yr Alban, Gallaibh/Caitnes, Ynysoedd y Gogledd) Gogledd Iwerddon (swyddau Down, Antrim, Derry), Caerferwig |
2.6% (Cyfrifiad 2011)
|
Cymraeg | Celtaidd (Brythonaidd) | Cymru (yn enwedig y gorllewin a'r gogledd) a rhannau o Loegr ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr; cymunedau'r Cymry mewn dinasoedd mawrion Lloegr megis Llundain, Birmingham, Manceinion, a Lerpwl. | 700,000; 1% (amcangyfrifiad)[13]
|
Iaith Arwyddo Prydeinig | BANZSL | Drwyddi draw'r Deyrnas Unedig | 125,000[23] (data 2010) |
Gwyddeleg | Celtaidd (Goedelig) | Gogledd Iwerddon, gyda chymunedau yn Glasgow, Lerpwl, Manceinion, Llundain ayyb. | 95,000[24] (data 2004) |
Angloromaneg | Cymysg | Cymru, yr Alban, a Lloegr | 90,000[25] (data 1990) |
Gaeleg yr Alban | Celtaidd (Goedelig) | yr Alban (Ucheldiroedd yr Alban ac Ynysoedd Heledd gyda lleiafrifoedd sylweddol mewn sawl dinas Albanaidd; cymuned fechan yn Lloegr) | 65,674,[4] (Cyfrifiad yr Alban 2001) er mai 32,400 yw'r nifer sydd yn rhugl ym mhob tri medr[26] |
Cernyweg | Celtaidd (Brythonaidd) | Cernyw (lleiafrifoedd bychain o siaradwyr yn Aberplym, Llundain, a De Cymru) | 557[27] (data 2011) |
Sielteg | Cymysg | Drwyddi draw'r Deyrnas Unedig | Ni wyddys yr union nifer o siaradwyr, ond mae Ethnolouge yn nodi 30,000 yn y DU[28] |
Iaith Arwyddo Gwyddelig | Ffrengig | Gogledd Iwerddon | Anhysbys |
Iaith Arwyddo Gogledd Iwerddon | BANZSL | Gogledd Iwerddon | Anhysbys |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Yn ôl y Cyfrifiad 2011, gall 53,098,301 o bobl yng Nghymru a Lloegr, 5,044,683 o bobl yn yr Alban, a 1,681,210 o bobl yng Ngogledd Iwerddon siarad y Saesneg yn "dda" neu'n "dda iawn"; sef cyfanswm o 59,824,194. Felly, o'r 60,815,385 o breswylwyr y DU sydd yn dair oed a throsodd, gall 98% siarad y Saesneg yn "dda" neu'n "dda iawn".
- ↑ 2.0 2.1 "United Kingdom". Languages Across Europe. BBC. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013.
- ↑ 3.0 3.1 United Kingdom; Key Facts. Commonwealth Secretariat. http://www.thecommonwealth.org/YearbookHomeInternal/139560/. Adalwyd 23 April 2008.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 "English language". Directgov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Hydref 2012. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013.
- ↑ 5.0 5.1 Scotland's Census 2011 – Language, All people aged 3 and over. Out of the 60,815,385 residents of the UK over the age of three, 1,541,693 (2.5%) can speak Scots, link.
- ↑ QS206WA – Welsh language skills, ONS 2011 census. Out of the 60,815,385 residents of the UK over the age of three, 562,016 (1%) can speak Welsh. Retrieved 15 Mawrth 2015.
- ↑ 7.0 7.1 Anorak, Scots. "Ulster Scots in the Northern Ireland Census". Scots Language Centre. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-04. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013.
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref'ec.europa.eu
- ↑ http://www.cambridge.org/uk/catalogue/catalogue.asp?isbn=9780521794886
- ↑ Scotland's Census 2011 – Proficiency in English, All people aged 3 and over.
- ↑ Northern Ireland Census 2011 – Main language and Proficiency in English, All usual residents aged 3 and over.
- ↑ ONS census, QS205EW – Proficiency in English. Retrieved 15 Mawrth 2015.
- ↑ 13.0 13.1 13.2 13.3 Bwrdd yr Iaith Gymraeg, A statistical overview of the Welsh language, by Hywel M Jones, page 115, 13.5.1.6, England. Published Chwefror 2012. Retrieved 28 Mawrth 2016.
- ↑ "Welsh Language (Wales) Measure 2011". legislation.gov.uk. The National Archives. Cyrchwyd 30 Mai 2016.
- ↑ "Welsh Language Measure receives Royal Assent". Welsh Government. 11 Chwefror 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Medi 2013. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ A.J. Aitken in The Oxford Companion to the English Language, Oxford University Press 1992. p.894
- ↑ "Background briefing on the Crown Dependencies: Jersey, Guernsey and the Isle of Man" (PDF). Ministry of Justice. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-11-02. Cyrchwyd 9 Mawrth 2015.
- ↑ Scotland's Census 2011 – Language, All people aged 3 and over. Out of the 5,118,223 residents of Scotland over the age of three, 1,541,693 (30%) can speak Scots.
- ↑ QS206WA - Welsh language skills, ONS 2011 census. Out of the 2,955,841 residents of Wales over the age of three, 562,016 (19%) can speak Welsh. Retrieved 20 Gorffennaf 2015.
- ↑ "2011 Census: Key Statistics for Wales, March 2011". Office for National Statistics. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013.
- ↑ http://www.nomisweb.co.uk/census/2011/QS206WA/view/2092957700?cols=measures
- ↑ "2011 Census, Key Statistics and Quick Statistics for Wards and Output Areas in England and Wales". Office for National Statistics. 30 Ionawr 2013. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013.
- ↑ "The GP Patient Survey in Northern Ireland 2009/10 Summary Report" (PDF). Department of Health, Social Services, and Public Safety. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013.
- ↑ "United Kingdom". Ethnologue. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013.
- ↑ "Angloromani". Ethnologue. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013.
- ↑ "Scotland's Census 2011: Gaelic report (Part 1)". National Records of Scotland. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-27. Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2016. Text "National Records of Scotland" ignored (help)
- ↑ "South West". TeachingEnglish. BBC British Council. 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Ionawr 2010. Cyrchwyd 9 Chwefror 2010. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ https://www.ethnologue.com/country/GB