Iaith Arwyddion Prydain

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Iaith Arwyddo Brydeinig)
Yr wyddor sillafu â bysedd Iaith Arwyddion Prydain.

Yr iaith arwyddion fwyaf poblogaidd gan bobl fyddar yn y DU yw Iaith Arwyddion Prydain (Saesneg: British Sign Language neu BSL). Mae 125,000[1] o oedolion byddar yn y DU yn defnyddio'r iaith, yn ogystal â thua 20,000 o blant. Mae'r iaith yn defnyddio gofod a symudiad y dwylo, y corff, yr wyneb a'r pen i gyfathrebu. Mae miloedd o bobl nad ydynt yn fyddar hefyd yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, megis perthnasau, cyfieithwyr, staff meddygol neu eraill sy'n ymwneud â'r gymuned fyddar.

Statws[golygu | golygu cod]

Cydnabyddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Iaith Aryddion Prydain fel iaith ar 18 Mawrth 2003. Ar 28 Ebrill 2022 cydnabyddwyd BSL fel swyddogol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Mae'r wythnos oddeutu 28 Ebrill bellach yn Wythnos Iaith Arwyddo.[2]

Cymru[golygu | golygu cod]

Arwyddir 'Cymru' (y wlad) mewn BSL fel crafanc Draig Goch Cymru yn sgathru am lawr.[3]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. IPSOS Mori GP Patient Survey 2009/10
  2. "Wythnos Iaith Arwyddion 2023". Sianel Youtube Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda.
  3. "Wales". BSL Sign Language Dictionary. Cyrchwyd 28 Ebrill 2023.