Neidio i'r cynnwys

Grym caled

Oddi ar Wicipedia
Grym caled
Enghraifft o'r canlynoltype of power Edit this on Wikidata
Mathgrym Edit this on Wikidata
Parêd Filwrol Diwrnod Buddugoliaeth ar y Sgwâr Coch, Mosgo yn ffordd weledol o ddangos grym caled
Map o ryddhad dinas Kherson yn Rhyfel Rwsia ar Wcráin (11 Tachwedd 2022) yn enghraifft o ddefnydd o bŵer caled eithafol gan Rwsia

Cysyniad mewn gwleidyddiaeth a theorïau grym yw grym caled a elwir hefyd yn pŵer caled. Grym caled yw'r defnydd o ddulliau milwrol ac economaidd i ddylanwadu ar ymddygiad neu fuddiannau cyrff gwleidyddol eraill. Mae'r math hwn o bŵer gwleidyddol yn aml yn ymosodol (gorfodaeth), ac mae'n fwyaf effeithiol pan gaiff ei orfodi gan un corff gwleidyddol ar gorff arall sydd â llai o bŵer milwrol neu economaidd.[1] Mae pŵer caled yn cyferbynnu â grym meddal, sy'n dod o ddiplomyddiaeth, diwylliant a hanes.[1]

Yn ôl Joseph Nye, mae pŵer caled yn golygu “y gallu i ddefnyddio moron a ffyn nerth economaidd a milwrol i wneud i eraill ddilyn eich ewyllys”.[2] Yma, mae "moron" yn golygu cymhellion fel lleihau rhwystrau masnach, cynnig cynghrair neu addewid o amddiffyniad milwrol. Mae "ffyn" yn cynrychioli bygythiadau - gan gynnwys defnyddio diplomyddiaeth orfodol, bygythiad ymyrraeth filwrol, neu weithredu sancsiynau economaidd. Disgrifia Ernest Wilson bŵer caled fel y gallu i orfodi “un arall i weithredu mewn ffyrdd na fyddai’r endid hwnnw wedi gweithredu fel arall”.[3]

Diffiniad

[golygu | golygu cod]

Mae'n dynodi gallu corff gwleidyddol i orfodi ei ewyllys ar gyrff gwleidyddol eraill gan ddefnyddio dulliau milwrol ac economaidd.

Mae cydrannau pŵer caled yn cynnwys:

  • pŵer economaidd;
  • pŵer milwrol;
  • pŵer poblogaeth;
  • grym gwleidyddol

Mae Unol Daleithiau America, er enghraifft, yn gyfrifol am 46% o wariant milwrol y byd [4] (pŵer milwrol), nhw hefyd yw prif fewnforiwr nwyddau'r byd (pŵer economaidd) a nhw yw'r 3edd wlad fwyaf poblog yn y byd a'r mwyaf poblog ymhlith gwledydd datblygedig (parth demograffig).

Mae pŵer caled yn erbyn pŵer meddal (perswadio, y ffordd feddal), fel y dangosir gan Joseph Nye.

Tra bod hanes hir i fodolaeth grym caled, cododd y term ei hun pan fathodd Joseph Nye, grym meddal fel ffurf newydd a gwahanol ar bŵer ym mholisi tramor gwladwriaeth sofran.[5] Yn ôl yr ysgol realaidd mewn theori cysylltiadau rhyngwladol, mae pŵer yn gysylltiedig â meddiant rhai adnoddau diriaethol, gan gynnwys poblogaeth, tiriogaeth, adnoddau naturiol, cryfder economaidd a milwrol, ymhlith eraill. Mae pŵer caled yn disgrifio gallu cenedl neu gorff gwleidyddol i ddefnyddio cymhellion economaidd neu gryfder milwrol i ddylanwadu ar ymddygiadau actorion eraill.

Mae pŵer caled yn cwmpasu ystod eang o bolisïau gorfodol, megis diplomyddiaeth orfodol, sancsiynau economaidd, gweithredu milwrol, a ffurfio cynghreiriau milwrol ar gyfer ataliaeth ac amddiffyn ar y cyd. Gellir defnyddio pŵer caled i sefydlu neu newid cyflwr o hegemoni gwleidyddol neu gydbwysedd pŵer. Er bod y term pŵer caled yn cyfeirio'n gyffredinol at ddiplomyddiaeth, gellir ei ddefnyddio hefyd i ddisgrifio mathau o drafod sy'n cynnwys pwysau neu fygythiadau fel trosoledd.

Pŵer Caled - enghreifftiau

[golygu | golygu cod]

Y dair enghraifft orau 0 ddegawdau cyntaf yr 21g o ddefnyddio pŵer caled y gellid eu crybwyll yw:

  • Rhyfel Rwsia ar Wcráin a ddechreuodd yn 2022 pan geisiodd Vladimir Putin goncro a darostwng llywodraeth Wcráin mewn cyrch filwrol a elwid, er mwyn osgoi canlyniadau cyfreithiol domestig a chodi ofn ar ei ddinasyddion ei hun, yn "gyrch milwrol arbennig".
  • Rhyfel Irac yn 2003 pan ymosododd yr Unol Daleithiau a'i chynghreiriaid ar Saddam Hussein ac Irac.
  • Ymyrraeth filwrol Rwsiaidd yn Rhyfel Cartref Syria a'r rheolaeth y gall archbŵer fel yr Unol Daleithiau a Rwsia ei roi dros y rhan fwyaf o'r byd. Mae eu potensial milwrol hysbys yn caniatáu iddynt orfodi cenhedloedd eraill y byd i gadw at eu gofynion.[6][7]

Grym Caled Gymreig

[golygu | golygu cod]

Heb lu arfog annibynnol ei hun a heb sofraniaeth a "monopoli ar drais" o fewn ei thiriogaeth ei hun, nid oes gan Gymru y gallu i weithredu grym caled. I allu weithredu grym caled Gymreig, hyd yn oed o fewn cyfyngiadau mawr, byddai'n rhaid i Gymru fod yn wlad annibynnol. Byddai disgwyl hefyd yr angen i greu polisi tramor a milwrol lle byddai Cymru yn rhan o gynghrair neu gyfres o gytundebau i warchod ei sofraniaeth rhag gelyn fwy.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Copeland, Daryl (Feb 2, 2010). "Hard Power Vs. Soft Power". The Mark. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 May 2012. Cyrchwyd 26 April 2012.
  2. Nye, Joseph S. (January 10, 2003). "Propaganda Isn't the Way: Soft Power". International Herald Tribune. Cyrchwyd June 19, 2021.
  3. Wilson, Ernest J. (March 2008). "Hard Power, Soft Power, Smart Power". The Annals of the American Academy of Political and Social Science 616 (1): 110–124. doi:10.1177/0002716207312618. http://www.ernestjwilson.com/uploads/Hard%20Power,%20Soft%20Power,%20Smart%20Power.pdf. Adalwyd October 1, 2012.
  4. (Saesneg)SIPRI - Trends in world military expenditure, 2013
  5. Barzegar, Kayhan (July 10, 2008). "Joseph Nye on Smart Power in Iran-U.S. Relations". Belfer Center. Cyrchwyd 19 June 2021.
  6. Barzegar, K. (11 Gorffennaf 2008). "Joseph Nye on Smart Power in Iran-U.S. Relations". belfercenter.org. Cyrchwyd 31 Mai 2019.
  7. Hobsbawm, E. J. (2007). Guerra y paz en el siglo XXI. Crítica. t. 70. ISBN 978-84-08-11958-6.
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.