Kherson
Trem ar borthladd Kherson o'r awyr. | |
| Math | dinas yn Wcráin |
|---|---|
| Poblogaeth | 279,131 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Ihor Kolykhaiev |
| Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00, EET |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | southern Ukraine |
| Sir | Kherson urban hromada |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 68.7 km² |
| Uwch y môr | 25 metr |
| Gerllaw | Afon Dnieper |
| Cyfesurynnau | 46.6425°N 32.625°E |
| Cod post | 73000 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Ihor Kolykhaiev |
![]() | |
Dinas a phorthladd yn Wcráin a chanolfan weinyddol Oblast Kherson yw Kherson (Wcreineg: Херсо́н). Saif ar lannau gorllewinol Afon Dnieper, rhyw 25 km o aber yr afon ar arfordir y Môr Du. Enwir y ddinas ar ôl Khersónēsos, gwladfa Roegaidd a sefydlwyd yn y Crimea yn y 6g CC.
Sefydlwyd caer yma ym 1778 wrth i Ymerodraeth Rwsia ehangu tua'r de-orllewin, a'r porthladd hwn oedd y ganolfan lyngesol a'r iard longau gyntaf a adeiladwyd gan y Rwsiaid yn y Môr Du. Dyrchafwyd yn brifddinas ranbarthol ym 1803, ac wrth i'r 19g fynd rhagddi tyfai'r ddinas ar sail cludo nwyddau ac adeiladu llongau. Ar y cyd â ffyniant y porthladd, datblygodd diwydiannau eraill gan gynnwys peirianneg, puro olew, a gweithgynhyrchu tecstilau.
Yn ystod goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022, Kherson oedd y ddinas fawr gyntaf i ildio i luoedd Rwsia.[1] Ond ym mis Tachwedd 2022, gorchmynnodd Vladimir Putin y gwacáu sifiliaid o'r ardal ar ôl i'r Wcráin ymladd yn ôl.[2]
Gostyngodd y boblogaeth o 328,000 yn 2001 i 284,000 yn 2021.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Michael Schwirtz a Richard Pérez-Peña, "First Ukraine City Falls as Russia Strikes More Civilian Targets", The New York Times (2 Mawrth 2022). Archifwyd o'r dudalen wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 3 Mawrth 2022.
- ↑ Michael Drummond (6 Tachwedd 2022). "Ukraine war: Putin orders Kherson evacuation as Ukrainian forces close in on key city". Sky News (yn Saesneg).
- ↑ (Saesneg) Kherson. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Mawrth 2022.
