Effeithiau newid hinsawdd ar bobl

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Wen in flood across Glanywern Chwilog - geograph.org.uk - 341200.jpg
Afon Wen yn gorlifo'r ffordd yng Nglanywern, Chwilog, Gwynedd
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynoleffeithiau newid hinsawdd Edit this on Wikidata

Mae effeithiau newid hinsawdd ar bobl yn bellgyrhaeddol ac yn ffactor sy'n effeithio iechyd, yr amgylchedd, dadleoli ac ymfudo, diogelwch, cymdeithas, anheddiad dynol, ynni a chludiant. Mae newid hinsawdd wedi arwain at newidiadau na ellir eu gwrthdroi o bosibl i systemau daearegol, biolegol ac ecolegol y Ddaear.[1] Mae'r newidiadau hyn wedi arwain at ymddangosiad peryglon amgylcheddol ar raddfa fawr i iechyd pobl; megis tywydd eithafol, disbyddu osôn[2], mwy o berygl o danau gwyllt,[3] colli bioamrywiaeth,[4] systemau cynhyrchu bwyd yn gwegian, a lledaeniad byd-eang o afiechydon heintus.[5] Yn ogystal, amcangyfrifwyd bod newidiadau hinsoddol yn achosi dros 150,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn 2002, gyda Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif y bydd y nifer hwn yn cynyddu i 250,000 o farwolaethau bob blwyddyn rhwng 2030 a 2050.[6][7]

Mae corff cynyddol o ymchwil sy'n archwilio yr holl effeithiau o newid hinsawdd ar iechyd pobl, ar y cyflenwadau bwyd, twf economaidd, ymfudo, diogelwch, newid cymdeithasol, a hanfodion fel dŵr yfed . Mae canlyniadau'r newidiadau hyn yn fwyaf tebygol o fod yn niweidiol yn y tymor hir. Er enghraifft, mae Bangladesh wedi profi cynnydd mewn afiechydon sy'n sensitif i'r hinsawdd; megis malaria, twymyn dengue, dolur rhydd mewn plant, a niwmonia ymhlith cymunedau bregus.[8] Mae llawer o'r astudiaethau hyn yn awgrymu y bydd effeithiau net newid hinsawdd ar gymdeithas ddynol yn parhau i fod yn hynod o negyddol am ganrif o leiaf.[9][10]

Mae cymunedau incwm gwael ac incwm isel ledled y byd yn profi'r rhan fwyaf o effeithiau andwyol y newid hinsawdd hwn; y gwirionedd yw fod y cymunedau hyn fregus i benderfyniadau amgylcheddol, iechyd, incwm a ffactorau eraill. Mae ganddyn nhw hefyd lefelau capasiti llawer is i ymdopi â newid amgylcheddol. Amcangyfrifodd adroddiad ar effaith ddynol fyd-eang newid hinsawdd a gyhoeddwyd gan y Fforwm Dyngarol Byd-eang yn 2009 fod mwy na 300,000 o farwolaethau a thua $125 biliwn mewn colledion economaidd bob blwyddyn. Mae hyn yn dangos sut mae'r mwyafrif o farwolaethau a achosir gan newid hinsawdd o ganlyniad i lifogydd a sychder yn gwaethygu mewn gwledydd sy'n datblygu . Mae sefydliadau Newid Hinsawdd fel GECCO yn ceisio addysgu pobl a gwneud i eraill sylweddoli'r hyn y gallant ei wneud yn unigol.[11]

Gwendidau allweddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r rhan fwyaf o'r gwendidau allweddol i newid hinsawdd yn gysylltiedig â ffenomenau hinsawdd sy'n uwch na'r trothwyon ar gyfer addasu; megis digwyddiadau tywydd eithafol neu newid sydyn yn yr hinsawdd, ynghyd â mynediad cyfyngedig i adnoddau (ariannol, technegol, dynol, addysgol a sefydliadol) i ymdopi. Yn 2007, cyhoeddodd yr IPCC adroddiad ar wendidau allweddol diwydiant, aneddiadau a chymdeithas i newid hinsawdd.[12] Roedd yr asesiad hwn yn cynnwys lefel o hyder ar gyfer pob 'bregusrwydd allweddol' (key vulnerability):

  • Hyder uchel iawn : Rhyngweithio rhwng newid hinsawdd a threfoli: mae hyn yn fwyaf nodedig mewn gwledydd sy'n datblygu, lle mae trefoli'n aml yn canolbwyntio ar ardaloedd arfordirol bregus.
  • Hyder uchel : Rhyngweithio rhwng newid hinsawdd a thwf economaidd byd-eang: mae straen oherwydd newid hinsawdd nid yn unig yn gysylltiedig ag effeithiau newid hinsawdd, ond hefyd ag effeithiau polisïau newid hinsawdd. Er enghraifft, gallai'r polisïau hyn effeithio ar lwybrau datblygu trwy ofyn am ddewisiadau tanwydd cost uchel. Seilwaith ffisegol sefydlog sy'n bwysig wrth ddiwallu anghenion dynol: mae'r rhain yn cynnwys isadeileddau sy'n agored i ddifrod gan ddigwyddiadau tywydd eithafol neu godiad yn lefel y môr, ac isadeileddau sydd eisoes yn agos at fod yn annigonol.
  • Hyder canolig : Rhyngweithio â strwythurau diwylliannol llywodraethol a chymdeithasol sydd eisoes yn wynebu pwysau eraill (ee adnoddau economaidd cyfyngedig).

Yn ôl astudiaeth "Future of the Human Climate Niche" a gyhoeddwyd ym Mai 2020, ar gyfer pob gradd o godiad tymheredd bydd 1 biliwn o bobl yn byw mewn ardaloedd lle mae'r tymereddau'n cael eu hystyried yn rhy uchel ar gyfer bywyd normal. Yn gyffredinol, mae pobl yn byw mewn ardaloedd lle mae'r tymheredd cyfartalog rhwng 6° C a 28° C, gyda mwyafrif yn byw mewn rhanbarthau â thymheredd o 11° C - 15° C. Mae tymheredd o 29 gradd neu uwch yn cael ei ystyried yn rhy boeth ar gyfer bywyd normal ac ar hyn o bryd (2021) fe'i ceir mewn 0.8% o arwyneb y tir (yn anialwch y Sahara yn bennaf). Fodd bynnag, yn ôl yr astudiaeth hon, erbyn y flwyddyn 2070 yn senario RCP8.5 (busnes fel arfer), bydd 30% o'r boblogaeth ddynol yn byw o fewn y tymheredd yma.[13][14]


Yn ôl y senario hwn bydd y tymheredd cyfartalog byd-eang 3.2 gradd yn uwch yn y flwyddyn 2070 o'i gymharol â'r llinell sylfaen cyn-ddiwydiannol.[15] Yn ôl adroddiad Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig, bydd y tymheredd yn codi 3.2 gradd erbyn diwedd y ganrif. Hyd yn oed os bydd yr holl addewidion yng Nghytundeb Paris (fel yr oeddent yn 2019) yn cael eu cyflawni. [16]

Iechyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae newid hinsawdd yn peri ystod eang o risgiau i iechyd y boblogaeth. Os bydd newid hinsawdd yn fyd-eang yn parhau ar y raddfa gyfredol, bydd y risgiau hyn yn cynyddu yn y degawdau i ddod i lefelau a allai fod yn hanfodol.[17] Mae'r tri phrif gategori o risgiau iechyd yn cynnwys: (i) effeithiau uniongyrchol (ee oherwydd gwres uchel, llygredd aer gwaeth, a thrychinebau tywydd drwg), (ii) effeithiau a gyfryngir trwy newidiadau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd mewn systemau a pherthnasoedd ecolegol (ee. cynnyrch cnwd, ecoleg mosgito, cynhyrchiant morol), a (iii) y canlyniadau mwy gwasgaredig (anuniongyrchol) sy'n ymwneud â thlodi, dadleoli, gwrthdaro adnoddau (ee dŵr), a phroblemau iechyd meddwl ar ôl trychineb.

Mae newid hinsawdd yn bygwth arafu, atal neu wyrdroi cynnydd rhyngwladol tuag at leihau diffyg maeth plant, marwolaethau o glefydau dolur rhydd a lledaeniad afiechydon heintus eraill. Mae newid hinsawdd yn gweithredu'n bennaf trwy waethygu'r problemau iechyd presennol, sy'n aml yn enfawr, yn enwedig yn rhannau tlotaf y byd. Mae amrywiadau cyfredol mewn amodau tywydd eisoes yn cael llawer o effeithiau andwyol ar iechyd pobl dlawd mewn cenhedloedd sy'n datblygu, [18] ac mae'r rhain hefyd yn debygol o waethygu oherwydd newid hinsawdd.

Digwyddiadau tywydd eithafol[golygu | golygu cod y dudalen]

Fortecs pegynol 2019, digwyddiad tywydd eithafol diweddar

Mae tueddiadau cyfnewidiol mewn tymereddau yn cael effeithiau gwahanol ar bobl ac felly maent yn creu mwy o niwed tymor hir. Mae clefyd heintus yn aml yn cyd-fynd â digwyddiadau tywydd eithafol, fel llifogydd, daeargrynfeydd, sbwriel a sychder.[19] Mae cynnydd mewn afiechydon yn un o'r canlyniadau sy'n deillio o newid hinsawdd gydag epidemigau lleol yn digwydd oherwydd colli seilwaith iechyd eel ysbytai a gwasanaethau glanweithdra, ond hefyd oherwydd newidiadau mewn ecoleg leol a'r amgylchedd. Gall tymereddau cynhesach ddylanwadu ar ddatblygiad adweithiau biocemegol yn gyflym, gan arwain at y cynnydd mewn twf ac atgenhedlu. Mae bioddaearyddiaeth yn ffactor gwych o amrywioldeb twf afiechydon. [20] Gall tymereddau uchel arwain at dwf rhywogaethau cyflymach a fydd yn para cenedlaethau byrrach yn seiliedig ar y newidiadau hinsoddol hyn .

Amgylchedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Gall newid hinsawdd ddileu cynefinoedd mewn modd dramatig, colli cynefin, er enghraifft, cras gall amodau achosiee datgoedwigo fforestydd glaw, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol. [21]

Dŵr[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r adnoddau dŵr croyw y mae pobl yn dibynnu arnynt yn sensitif iawn i amrywiadau yn y tywydd a'r hinsawdd. Yn 2007, adroddodd yr IPCC yn hyderus iawn bod newidhinsawdd yn cael effaith negyddol net ar adnoddau dŵr ac ecosystemau dŵr croyw ym mhobman.[22] Canfu'r IPCC gyda chryn dystiolaeth bod ardaloedd cras a lled-gras yn arbennig o agored i newidiadau ym mhurdeb dŵr croyw.

Wrth i'r hinsawdd gynhesu, mae'n newid natur glawiad byd-eang, anweddiad, eira, llif nentydd a ffactorau eraill sy'n effeithio ar gyflenwad ac ansawdd dŵr. Ymhlith yr effeithiau penodol mae'r canlynol:

  • Mae tymereddau dŵr cynhesach yn effeithio ar ansawdd dŵr ac yn cyflymu llygredd dŵr.[23]
  • Rhagwelir y bydd codiad yn lefel y môr yn cynyddu ymwthiad dŵr halen i gronfeydd o ddŵr daear mewn rhai gwledydd. Mae hyn yn lleihau faint o ddŵr croyw sydd ar gael i'w yfed a'i ddefnyddio o fewn amaethyddiaeth.
  • Mewn rhai ardaloedd, mae rhewlifoedd yn meirioli gan grebachu a dyddodion eira'n bygwth y cyflenwad dŵr. Bydd ardaloedd sy'n dibynnu ar ddŵr wedi'i doddi yn disbyddu, yn ol pob tebyg, gyda llai o lif ar ddiwedd yr haf ac anterth y gwanwyn yn digwydd yn gynharach. Gall hyn effeithio ar y gallu i ddyfrhio cnydau. (Mae'r sefyllfa hon yn arbennig o ddifrifol o ran dyfrio yn Ne America,[24] ac ac o ran cyflenwadau yfed yng Nghanol Asia, ac ac ynni dŵr yn Norwy, yr Alpau, a Môr Tawel Gogledd-orllewin Gogledd America. )
  • Golyga'r cynnydd mewn tywydd eithafol bod mwy o ddŵr yn cwympo ar dir caled sydd ddim yn cael ei amsugno, gan arwain at fflachlifoedd yn lle ailgyflenwi lleithder y pridd neu lefelau dŵr daear.[25]
  • Mae anweddiad cynyddol yn lleihau effeithiolrwydd cronfeydd dŵr.
  • Ar yr un pryd, bydd y galw am ddŵr yn tyfu at ddibenion oeri a hydradu.
  • Gall mwy o wlybaniaeth arwain at newidiadau mewn afiechydon a gludir gan ddŵr a.[26]

Dadleoli a mudo[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwersyll ffoaduriaid i'r gogledd o Goma ger ffin Rwanda

Mae newid hinsawdd yn achosi dadleoli pobl mewn sawl ffordd, a'r amlycaf - a'r mwyaf dramatig - yw trwy drychinebau sy'n gysylltiedig â'r tywydd ee dinistrio cartrefi a chynefinoedd gan beri i bobl geisio lloches neu fywoliaeth mewn mannau eraill. Mae effeithiau newid hinsawdd fel anialwch a lefelau'r môr yn codi yn erydu bywoliaeth yn raddol ac yn gorfodi cymunedau i gefnu ar eu mamwlad ar gyfer cynefin ac amgylchedd mwy addas. Mae hyn yn digwydd ar hyn o bryd mewn ardaloedd yn Sahel, Affrica, y llain lled-cras sy'n rhychwantu'r cyfandir ychydig o dan ei anialwch gogleddol. Gall amgylcheddau sy'n dirywio a achosir gan newid hinsawdd hefyd arwain at fwy o wrthdaro dros adnoddau a all yn ei dro ddisodli pobl. [27]

Mae'r IPCC wedi amcangyfrif y bydd 150 miliwn o ymfudwyr amgylcheddol yn bodoli erbyn y flwyddyn 2050, yn bennaf oherwydd effeithiau llifogydd arfordirol, erydiad y draethlin ac aflonyddu ar amaethyddiaeth. [28] Fodd bynnag, mae'r IPCC hefyd yn rhybuddio ei bod yn anodd iawn mesur maint yr ymfudo hwn oherwydd cymhlethdod y mater a diffyg data.[12]

Yn ystod 2010 a 2011 (yn ôl y Ganolfan Monitro Dadleoli Mewnol), cafodd mwy na 42 miliwn o bobl eu dadleoli yn Asia a gwledydd y Môr Tawel, cymaint, bron, a phoblogaeth Lloegr. Mae'r ffigur hwn yn cynnwys y rhai sydd wedi'u dadleoli gan stormydd, llifogydd, gwres ac oerfel. Dadleolwyd eraill gan sychder a chodiad yn lefel y môr. Dychwelodd y mwyafrif o'r rhai a orfodwyd i adael eu cartrefi yn y pen draw pan wellodd yr amodau, ond daeth nifer amhenodol yn ymfudwyr, o fewn eu gwlad ac mewn gwledydd eraill.[29]

Mae rhai o genhedloedd ynysoedd y Môr Tawel, fel Tuvalu, Kiribati, a'r Maldives, [30] yn ystyried y posibilrwydd o adael eu hynysoedd, oherwydd gallai amddiffyn rhag llifogydd fod yn afrealistig yn yn an-economaidd. Mae gan Tuvalu eisoes gytundeb ad hoc gyda Seland Newydd i ganiatáu i'w pobl gael eu hadleoli fesul dipyn.[31] Fodd bynnag, i rai ynyswyr nid yw adleoli yn opsiwn. Nid ydynt yn barod i adael eu cartrefi, eu tir na'u teuluoedd. Yn syml, nid yw rhai'n deall difrifoldeb y bygythiad ac mae hyn yn bennaf oherwydd y diffyg ymwybyddiaeth bod newid hinsawdd yn bodoli. Yn Vutia ar Viti Levu, prif ynys Fiji, nid oedd hanner ymatebwyr un arolwg wedi clywed am "newid hinsawdd" (Lata a Nuun 2012). A lle ceir ymwybyddiaeth mae llawer yn credu ei bod yn broblem a achosir gan wledydd datblygedig ac felly dylai gael ei datrys gan wledydd datblygedig.[32] Yn 2020 mae llawer o ynysoedd y Môr Tawel yn tyfu o ran maint, gan fynd yn groes i honiadau cynharach.[33]

Mae llywodraethau wedi ystyried amryw o ddulliau i leihau ymfudo a orfodir gan amodau amgylcheddol mewn cymunedau sydd mewn perygl, gan gynnwys rhaglenni amddiffyn cymdeithasol, datblygu bywoliaethau, datblygu seilwaith trefol sylfaenol, a rheoli risg trychinebau. Mae rhai arbenigwyr hyd yn oed yn cefnogi ymfudo fel ffordd briodol i bobl ymdopi â newidiadau amgylcheddol. Fodd bynnag, mae hyn yn ddadleuol oherwydd bod ymfudwyr - yn enwedig rhai â sgiliau isel - ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ac yn aml gwrthodir darparu mynediad at wasanaethau ayb.[34]

Dim ond un ffactor yw newid hinsawdd a allai gyfrannu at benderfyniad aelwyd i ffoi; gall ffactorau eraill gynnwys tlodi, twf poblogaeth neu opsiynau cyflogaeth.[35] Am y rheswm hwn, mae'n anodd dosbarthu ymfudwyr amgylcheddol fel "ffoaduriaid" gwirioneddol fel y'u diffinnir yn gyfreithiol gan yr UNHCR .[36] Nid yw Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd na'i Brotocol Kyoto yn cynnwys unrhyw ddarpariaethau sy'n ymwneud â chymorth neu amddiffyniad penodol i'r rhai y bydd newid hinsawdd yn effeithio'n uniongyrchol arnynt. [37]

Mae Banc y Byd yn rhagweld y bydd “taro difrifol” yn sbarduno gwrthdaro a mudo ar draws y Dwyrain Canol, Canolbarth Asia ac Affrica.[38]

Diogelwch[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan newid hinsawdd y potensial i waethygu'r tensiynau presennol neu greu rhai newydd. Gall fod yn gatalydd i drais ac yn fygythiad i ddiogelwch rhyngwladol.[39][40] Canfu meta-ddadansoddiad o dros 50 o astudiaethau meintiol sy'n archwilio'r cysylltiad rhwng hinsawdd a gwrthdaro:

"ar gyfer pob 1 gwyriad safonol (1σ) newid hinsawdd tuag at dymereddau cynhesach neu lawiad mwy eithafol, mae amcangyfrifon canolrif yn nodi bod amlder trais rhwng unigolion yn codi 4% ac mae amlder gwrthdaro rhwng grwpiau yn codi 14%."[41][42] Mae'r IPCC wedi awgrymu y gallai tarfu ar fudo amgylcheddol waethygu gwrthdaro.[43][12] Wrth gwrs, nid yw newidhinsawdd bob amser yn arwain at drais, ac mae gwrthdaro yn aml yn cael ei achosi gan nifer o ffactorau rhyng-gysylltiedig.[44]

Effeithiau cymdeithasol[golygu | golygu cod y dudalen]

Effeithiau anghymesur ar blant[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae effeithiau newid hinsawdd, fel newyn, tlodi a chlefydau fel dolur rhydd a malaria, yn cael effaith anghymesur ar blant; mae tua 90% o farwolaethau malaria a dolur rhydd ymhlith plant ifanc. Mae plant hefyd 14–44 y cant yn fwy tebygol o farw o ffactorau amgylcheddol,[45] eto gan eu gadael y rhai mwyaf bregus. Bydd ansawdd aer is a gorboblogi yn effeithio ar y rhai mewn ardaloedd trefol.[46]

Anheddiad dynol[golygu | golygu cod y dudalen]

Her fawr i aneddiadau dynol (dinasoedd, trefi a phentrefi) yw codiad yn lefel y môr, a ddangosir gan arsylwi ac ymchwil barhaus o ostyngiadau cyflym mewn cydbwysedd màs iâ o'r Ynys Las, yr Artig, Antarctica a mannau eraill. Mae'r amcangyfrifon ar gyfer 2100 o leiaf ddwywaith mor fawr â'r amcangyfrif blaenorol gan IPCC AR4, gyda therfyn uchaf o tua dau fetr yng nghodiad lefel y môr.[47] Yn dibynnu ar newidiadaugwahanol ardaloedd, gall patrymau dyodiad uwch achosi mwy o lifogydd neu sychder estynedig fydd yn rhoi cryn bwysau ar yr adnoddau dŵr.

Mae gorlifdiroedd ac ardaloedd arfordirol isel yn gorlifo'n amlach oherwydd newidhinsawdd, fel yr ardal hon o Myanmar a gafodd ei boddi gan Seiclon Nargis

Am resymau hanesyddol sy'n ymwneud â masnach, mae llawer o ddinasoedd mwyaf a mwyaf llewyrchus y byd ar yr arfordir. Mewn gwledydd sy'n datblygu, mae'r tlotaf yn aml yn byw ar orlifdiroedd, oherwydd dyma'r unig le sydd ar gael, neu dir amaethyddol ffrwythlon. Yn aml nid oes gan yr aneddiadau hyn seilwaith fel morglawdd a systemau rhybuddio cynnar. Mae cymunedau tlotach hefyd yn tueddu i fod heb yswiriant na'r mynediad at nawdd sydd ei angen i adfer ar ôl trychinebau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. America's Climate Choices. Washington, D.C.: The National Academies Press. 2011. t. 15. doi:10.17226/12781. ISBN 978-0-309-14585-5. The average temperature of the Earth’s surface increased by about 1.4 °F (0.8 °C) over the past 100 years, with about 1.0 °F (0.6 °C) of this warming occurring over just the past three decades
  2. MPIBGC/PH (2013). "Extreme meteorological events and global warming: a vicious cycle?". Max Planck Research. http://www.mpg.de/7501454/weather-extreme_carbon-cycle_cimate-change.
  3. Tang, Ying; S. Zhong; L. Luo; X. Bian; W.E. Heilman; J. Winkler (2015). "The Potential Impact of Regional Climate Change on Fire Weather in the United States". Annals of the Association of American Geographers 105 (1): 1–21. doi:10.1080/00045608.2014.968892.
  4. Sahney, S.; Benton, M.J.; Ferry, P.A. (2010). "Links between global taxonomic diversity, ecological diversity and the expansion of vertebrates on land". Biology Letters 6 (4): 544–547. doi:10.1098/rsbl.2009.1024. PMC 2936204. PMID 20106856. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2936204.
  5. A. J. McMichael (2003). A. McMichael; D. Campbell-Lendrum; C. Corvalan; K. Ebi (gol.). Global Climate Change and Health: An Old Story Writ Large. ISBN 9789241562485.
  6. "WHO | Climate change". WHO. Cyrchwyd 2019-07-25.
  7. "Climate change and health". www.who.int (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-05.
  8. Kabir, M. I., Rahman, M. B., Smith, W., Lusha, M. A. F., & Milton, A. H. (2016). Climate change and health in Bangladesh: a baseline cross-sectional survey. Global Health Action, 9, 29609. doi:10.3402/gha.v9.29609
  9. "Ghfgeneva.org" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 10 April 2011.
  10. "Oxfam GB - leading UK charity fighting global poverty" (PDF). Oxfam GB. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2 March 2012. Cyrchwyd 10 November 2009.
  11. "Climate Change - The Anatomy of a Silent Crisis" (PDF). Global Humanitarian Forum. Global Humanitarian Forum. 2009. Cyrchwyd 9 August 2018.
  12. 12.0 12.1 12.2 Wilbanks, T.J.; et al. (2007). "Industry, settlement and society. In: Climate Change 2007: Impacts, Adaptation and Vulnerability. Contribution of Working Group II to the Fourth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change Parry et al. (eds.)". Cambridge University Press, Cambridge, U.K., and New York, N.Y., U.S.A. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 March 2013. Cyrchwyd 20 May 2009.. PDF version Archifwyd 2017-05-19 yn y Peiriant Wayback. with page numbers. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "wilbanks" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "wilbanks" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  13. Watts, Jonathan (5 May 2020). "One billion people will live in insufferable heat within 50 years – study". Guardian. Cyrchwyd 7 May 2020.
  14. Xu, Chi; M. Lenton, Timothy; Svenning, Jens-Christian; Scheffer, Marten (26 May 2020). "Future of the human climate niche". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 117 (21): 11350–11355. doi:10.1073/pnas.1910114117. PMC 7260949. PMID 32366654. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7260949.
  15. Supplementary Materials Future of the human climate niche (PDF). t. 21. Cyrchwyd 14 June 2020.
  16. Emissions Gap Report 2019 Global progress report on climate action UNEP Nov 2019
  17. A.J. McMichael; R. Woodruff; S. Hales (2006). "Climate Change and Human Health: Present and Future Risks". Lancet 367 (9513): 859–69. doi:10.1016/S0140-6736(06)68079-3. PMID 16530580.
  18. "Bulletin". World Meteorological Organization. 21 September 2015. Cyrchwyd 22 March 2019.
  19. Smith, K.R.; Woodward, A.; Campbell-Lendrum, D.; Chadee, D.D.; Honda, Y.; Liu, Q.; Olwoch, J.M.; Revich, B.; Sauerborn, R. (2014). "Human health: impacts, adaptation, and co-benefits.". In Field, C.B. (gol.). Climate Change 2014: Impacts, Adaptation, and Vulnerability. Part A: Global and Sectoral Aspects. Contribution of Working Group II to the Fifth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change. Cambridge and New York, NY: Cambridge University Press. tt. 709–754.
  20. Lafferty, Kevin D. (2009). "The ecology of climate change and infectious diseases" (yn en). Ecology 90 (4): 888–900. doi:10.1890/08-0079.1. ISSN 1939-9170. https://esajournals.onlinelibrary.wiley.com/doi/abs/10.1890/08-0079.1.
  21. Sahney, S.; Benton, M.J.; Falcon-Lang, H.J. (2010). "Rainforest collapse triggered Pennsylvanian tetrapod diversification in Euramerica". Geology 38 (12): 1079–1082. Bibcode 2010Geo....38.1079S. doi:10.1130/G31182.1.
  22. Kundzewicz Z.W.; et al. (2007). "Freshwater resources and their management. In: Climate Change 2007: Impacts, Adaptation and Vulnerability. Contribution of Working Group II to the Fourth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change M.L. Parry et al. (eds.)". Cambridge University Press, Cambridge, U.K., and New York, N.Y., U.S.A. tt. 173–210. Cyrchwyd 2009-05-20.
  23. "Dr. Kathleen Miller's Research: Climate Change Impacts on Water". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 October 2015. Cyrchwyd 10 November 2009.
  24. News, BBC (October 9, 2003). "Melting glaciers threaten Peru". BBC News.
  25. "Climate Change and Mental Health". Psychiatry.org. Cyrchwyd 2018-02-26.
  26. Rahman, A. (2008). "Climate Change and its Impact on health in Bangladesh". Regional Health Forum 12: 16–26. http://ngof.org/wdb_new/sites/default/files/Climate%20change%20and%20its%20Impact%20on%20Health%20in%20Bangladesh.pdf.
  27. "Environment a Growing Driver in Displacement of People". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 January 2018. Cyrchwyd 10 November 2009.
  28. Hidden statistics: environmental refugees Hidden statistics: environmental refugees.
  29. Bogumil Terminski, Environmentally-Induced Displacement. Theoretical Frameworks and Current Challenges. CEDEM, Université de Liège, 2012
  30. "First wave". 2013-09-23.
  31. Unnatural disasters Andrew Simms The Guardian October 2003
  32. Betzold, Carola (2015). Climatic Change: Adapting to climate change in small island developing states. Springer Netherlands.
  33. https://www.abc.net.au/news/2021-01-08/why-are-hundreds-of-pacific-islands-getting-bigger/13038430
  34. (PDF). 6 April 2015 https://web.archive.org/web/20150406002645/http://beta.adb.org/sites/default/files/pub/2012/addressing-climate-change-migration.pdf. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 6 April 2015. Cyrchwyd 22 March 2019. Missing or empty |title= (help)
  35. Bogumil Terminski, Environmentally-Induced Displacement. Theoretical Frameworks and Current Challenges, CEDEM, University of Liège, 2012
  36. "UNHCR – Environmental refugees: myth or reality?, Richard Black" (PDF). UNHCR.
  37. Ferris, Elizabeth (14 December 2007). "Making Sense of Climate Change, Natural Disasters, and Displacement: A Work in Progress". Brookings Institution. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 June 2011.
  38. Lois Parshley (June 9, 2016). "When the State Wilts Away; In weak nations, environmental stress can tip society into catastrophe". Bloomberg.com. Cyrchwyd 17 June 2016.
  39. Smith, Dan; Vivekananda, Janani (2007). "A climate of conflict". International Alert. http://www.international-alert.org/resources/publications/climate-conflict.
  40. "World in Transition: Climate Change as a Security Risk". German Advisory Council on Global Change. 2007. http://www.wbgu.de/en/flagship-reports/fr-2007-security/. Adalwyd 19 October 2014.
  41. Burke, Marshall; Hsiang, Solomon M.; Miguel, Edward (2015-01-01). "Climate and Conflict". Annual Review of Economics 7 (1): 577–617. doi:10.1146/annurev-economics-080614-115430.
  42. Hsiang, S. M.; Burke, M.; Miguel, E. (2013-09-13). "Quantifying the Influence of Climate on Human Conflict" (yn en). Science 341 (6151): 1235367. doi:10.1126/science.1235367. PMID 24031020.
  43. Schneider, S.H.; et al. (2007). "Assessing key vulnerabilities and the risk from climate change. In: Climate Change 2007: Impacts, Adaptation and Vulnerability. Contribution of Working Group II to the Fourth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change [M.L. Parry et al. (eds.)]". Cambridge University Press, Cambridge, U.K., and New York, N.Y., U.S.A. tt. 779–810. Cyrchwyd 2009-05-20.
  44. Ryan P. Harrod and Martin, Debra L. The Bioarchaeology of Climate Change and Violence. New York: Springer, 2013.
  45. Bartlett, Sheridan (2008). "Climate change and urban children: Impacts and implications for adaptation in low- and middle-income countries". Environment and Urbanization 20 (2): 501–519. doi:10.1177/0956247808096125.
  46. "WHO - The global burden of disease: 2004 update".
  47. I. Allison; N.L. Bindoff; R.A. Bindschadler; P.M. Cox; N. de Noblet; M.H. England; J.E. Francis; N. Gruber et al. (2009), The Copenhagen Diagnosis, 2009: Updating the World on the Latest Climate Science, http://www.theravinaproject.org/Copenhagen_Diagnosis_LOW.pdf

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]