Gwibgymalwst

Oddi ar Wicipedia
Gwibgymalwst
Ffotograff o gefn person, gyda'r croen yn nodweddiadol o'r Gwibgymalwst.
Croen yn nodweddiadol o'r Gwibgymalwst
Dosbarthu a chyfeiriadaeth allanol
ArbenigeddHeintiau
ICD-ICD-10A90.
ICD- 9061
OMIM614371
Afiechydon3564
MedlinePlus001374
eMedicinemed/528
Patient UKGwibgymalwst
MeSHC02.782.417.214

Haint sy'n cael ei ymledu gan y mosgito yn y trofannau yw'r gwibgymalwst. Mae'r symtomau i'w gweld fel arfer rhwng tridiau a phythefnos wedi i'r claf gael ei bigo gan y mosgito.[1] Gall y symtomau hyn gynnwys tymheredd uchel (twymyn), cur pen, taflu i fyny, poen yn y cyhyrau a'r cymalau a brech dros rhan o'r croen.[1][2]

Mae'r claf fel arfer yn cymryd rhwng dau a saith diwrnod i wella.[1] Mewn canran fechan o'r achosion mae'r clefyd yn datblygu i fod yn fygythiad i fywyd y claf, a gall waedu, lleihau'r nifer o blatennau yn y gwaed, colli plasma neu fynd i 'lewyg y gwibgymalwst' (dengue shock) ble mae'r pwysau gwaed yn beryglus o isel.[2] Gall y symtomau fod yn eitha tebyg i'r rheiny a achosir gan y y Feirws Zika.

Achos[golygu | golygu cod]

Asgwrn y gynnen, fel arfer, ydy'r mosgito yn y genws Aedes yn enwedig y rhywogaeth Aedes aegypti.[1] Mae 5 math o'r firws;[3] mae heintiau gan un o'r mathau hyn yn rhoi imiwnedd gydol oes i'r math hwnnw, ac imiwnedd dros dro i'r 4 math arall. Os heintir y claf yr eildro, gyda math arall o firws, yna mae'r haint yn waeth a cheir cymhlethdodau.[1] Ceir sawl math o brawf meddygol er mwyn cadarnhau a yw'r claf wedi'i heintio, drwy ganfod gwrthgorffynnau'r firws, neu ei RNA.[2]

Cynnydd[golygu | golygu cod]

Cynyddodd yr achosion o wibgymalwst ers yr Ail Ryfel Byd, gan ddod yn endemig mewn dros 110 o wledydd.[4][5] Pob blwyddyn mae rhwng 50 a 528 miliwn o bobl yn cael eu heintio a 20,000 yn marw.[6][7][8] Disgrifiwyd yr haint hwn am y tro cyntaf yn 1779; erbyn yr 20g, roedd gwyddonwyr yn deall mai firws oedd yn ei achosi a'i fod yn cael ei ymledu gan y mosgito.[9] Ceisir dileu a diddymu'r mosgito a cheisir hefyd ymosod ar y firws drwy feddyginiaeth.[5][10]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "Dengue and severe dengue Fact sheet N°117". WHO. Mai 2015. Cyrchwyd 3 Chwefror 2016.
  2. 2.0 2.1 2.2 Kularatne, SA (15 Medi 2015). "Dengue fever.". BMJ (Clinical research ed.) 351: h4661. PMID 26374064.
  3. Normile D (2013). "Surprising new dengue virus throws a spanner in disease control efforts". Science 342 (6157): 415. doi:10.1126/science.342.6157.415. PMID 24159024.
  4. Ranjit S, Kissoon N (Ionawr 2011). "Dengue hemorrhagic fever and shock syndromes". Pediatr. Crit. Care Med. 12 (1): 90–100. doi:10.1097/PCC.0b013e3181e911a7. PMID 20639791.
  5. 5.0 5.1 Gubler DJ (Gorffennaf 1998). "Dengue and dengue hemorrhagic fever". Clin. Microbiol. Rev. 11 (3): 480–96. PMC 88892. PMID 9665979. http://cmr.asm.org/cgi/content/full/11/3/480.
  6. Whitehorn J, Farrar J (2010). "Dengue". Br. Med. Bull. 95: 161–73. doi:10.1093/bmb/ldq019. PMID 20616106.
  7. "The global distribution and burden of dengue". Nature 496 (7446): 504–7. Ebrill 2013. doi:10.1038/nature12060. PMC 3651993. PMID 23563266. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3651993.
  8. Carabali, M; Hernandez, LM; Arauz, MJ; Villar, LA; Ridde, V (30 July 2015). "Why are people with dengue dying? A scoping review of determinants for dengue mortality.". BMC infectious diseases 15: 301. PMID 26223700.
  9. Henchal EA, Putnak JR (Hydref 1990). "The dengue viruses". Clin. Microbiol. Rev. 3 (4): 376–96. doi:10.1128/CMR.3.4.376. PMC 358169. PMID 2224837. http://cmr.asm.org/cgi/reprint/3/4/376.
  10. Noble CG, Chen YL, Dong H (Mawrth 2010). "Strategies for development of Dengue virus inhibitors". Antiviral Res. 85 (3): 450–62. doi:10.1016/j.antiviral.2009.12.011. PMID 20060421.