Effeithiau newid hinsawdd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cardiff Bay Barrage - geograph.org.uk - 1717533.jpg
Un o effeithiau newid hinsawdd yw codi lefel y môr. Codwyd Morglawdd Bae Caerdydd i wrthsefyll y posibilrwydd o lifogydd o ganlyniad i hyn.
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynoleffaith Edit this on Wikidata
Matheffaith pobl ar yr amgylchedd Edit this on Wikidata

Mae effeithiau newid hinsawdd yn cwmpasu'r impact ar yr amgylchedd ffisegol, ecosystemau ac ar bobl. Mae effeithiau amgylcheddol newid hinsawdd yn eang ac yn bellgyrhaeddol gan eu bod yn effeithio ar y cylchred dŵr, cefnforoedd, iâ môr a thir (rhewlifoedd), lefel y môr, yn ogystal â digwyddiadau tywydd a hinsawdd eithafol.[1] Nid yw'r newidiadau yn yr hinsawdd yn gyson nac yn unffurf ar draws y Ddaear: mae'r rhan fwyaf o dir wedi cynhesu'n gyflymach na'r cefnforoedd, ac mae'r Arctig yn cynhesu'n gyflymach na'r rhan fwyaf o'r rhanbarthau eraill.[2] Ar lledredau uchel y tymheredd cyfartalog sy'n cynyddu, tra ar gyfer y cefnforoedd a'r trofannau yn arbennig y glawiad a'r cylch dŵr sy'n newid.[3] Gellir lleihau maint yr effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol trwy liniaru ac addasu i newid hinsawdd.

Mae newid hinsawdd wedi diraddio tir drwy godi tymheredd, sychu pridd a chynyddu’r perygl o danau gwyllt.[4] Mae cynhesu diweddar wedi effeithio'n fawr ar systemau biolegol naturiol.[5] Gwelir fod llawer o rywogaethau ledled y byd yn mudo tuag at ardaloedd oerach. Ar y tir, mae llawer o rywogaethau'n symud i ddrychiadau uwch, tra bod rhywogaethau morol yn ceisio dŵr oerach mewn dyfroedd tyfnach.[6] Aseswyd bod rhwng 1% a 50% o rywogaethau ar dir mewn perygl sylweddol uwch o ddifodi oherwydd newid hinsawdd.[7]

Effeithiau sy'n gysylltiedig â'r tywydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Llifogydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Bydd hinsawdd gynnes yn dwysáu digwyddiadau glaw. Bydd llifogydd y dyfodol, mewn byd cynhesach yn fwy difrifol.[8] Bydd cynydd mewn llifogydd mewn rhai ardaloedd a gostyngiad mewn ardaloedd eraill. Mae hyn yn dibynnu ar sawl ffactor, megis newidiadau mewn toddi eira, lleithder pridd a glawiad.[8]:156  Gall llifogydd fod ar ffurf llifogydd trefol, llifogydd afonydd neu lifogydd arfordirol; mae cynnydd yn lefel y môr yn cynyddu’r perygl o lifogydd arfordirol ymhellach : os bydd lefel y môr yn codi 0.15 metr yn uwch yna bydd 20% yn fwy o bobl yn agored i lifogydd arfordirol ar y raddfa 1 mewn 100 mlynedd.[9] Os cwyd lefel y môr 0.75 m yn ychwanegol, yna bydd y nifer o bobl hyn yn dyblu.[9]

Mae cynhesu byd-eang yn gwneud stormydd mwy yn ddigwyddiadau mwy cyffredin oherwydd bod y gylchred ddŵr yn dwysáu.[10] Byddai'r cynnydd hwn yn amlder digwyddiadau stormydd mawr yn newid y cromliniau Dwysedd-Hyd-Amlder presennol (cromliniau IDF) (Intensity-Duration-Frequency curves (IDF curves)) oherwydd y newid mewn amlder, ond hefyd trwy godi a gwneud y cromliniau'n fwy serth, yn y dyfodol.[11]

Sychder[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwely llyn sych yng Nghaliffornia, sydd yn 2022 yn profi ei sychder mwyaf difrifol mewn 1,200 o flynyddoedd, wedi'i waethygu gan newid hinsawdd.[12]

Mae newid hinsawdd yn effeithio ar ffactorau lluosog sy'n gysylltiedig â sychder, megis faint o law sy'n disgyn a pha mor gyflym y mae'r glaw yn anweddu.[8]: 1057  Mae gwyddonwyr yn rhagweld y bydd llai o law mewn rhai rhannau o'r byd yn y dyfodol oherwydd cynhesu byd-eang. Bydd y rhanbarthau hyn felly'n fwy tueddol o gael sychder yn y dyfodol: rhanbarthau isdrofannol fel Môr y Canoldir, de Affrica, de-orllewin Awstralia a de-orllewin De America, yn ogystal â Chanolbarth America trofannol, gorllewin Affrica a basn yr Amason.[8]: 1157.

Mae ffiseg yn mynnu bod tymereddau uwch yn arwain at anweddiad mwy. Effaith hyn yw sychu pridd a mwy o straen ar blanhigion a fydd yn effeithio'n negyddol ar amaethyddiaeth.[8]: 1157. Am y rheswm hwn, bydd hyd yn oed y rhanbarthau hynny lle na ddisgwylir newidiadau mawr mewn dyodiad (fel canol a gogledd Ewrop) yn profi sychu pridd.[8]: 1157. Y rhagfynegiad diweddaraf gan wyddonwyr yn 2022 yw "Os na chaiff allyriadau nwyon tŷ gwydr eu cwtogi, rhagwelir y bydd tua thraean o ardaloedd tir byd-eang yn dioddef o sychder cymedrol o leiaf erbyn 2100".[8]: 1157.  Pan fydd sychder yn digwydd maent yn debygol o fod yn ddwysach nag yn y gorffennol.[13]

Mae amlder a hyd cyfnodau o sychder ill dau wedi cynyddu. Cynyddodd y rhain 29% o'r flwyddyn 2000 i 2022.[14] Y rhagfynegiad yw y bydd mwy na 75% o ddynoliaeth yn byw mewn amodau o sychder erbyn 2050.[14]: 37  Gall adfer tir, yn enwedig gan amaethyddiaeth a choedwigaeth, helpu i leihau effaith sychder.[14]

Yn 2019 cyhoeddodd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd <i>Adroddiad Arbennig ar Newid Hinsawdd a Thir</i>. Ymhlith prif ddatganiadau'r adroddiad roedd y ffaith a ganlyn:[15][16]

Rhwng 1960 a 2013 cynyddodd arwynebedd y tiroedd mewn sychder 1% y flwyddyn. Yn 2015, roedd tua 500 miliwn o bobl yn byw mewn ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan ddiffeithdiro rhwng y 1980au a'r 2000au. Mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd sydd wedi'u heffeithio gan ddiraddio tir a diffeithdiro yn cael eu "heffeithio'n gynyddol ac yn negyddol gan newid hinsawdd". 

Tanau gwyllt[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn fyd-eang, mae newid hinsawdd yn hybu’r math o dywydd sy’n gwneud tanau gwyllt yn fwy tebygol. Mewn rhai ardaloedd, mae cynnydd mewn tanau gwyllt wedi'i briodoli'n uniongyrchol i newid hinsawdd. Mae'r ffaith bod amodau hinsawdd cynhesach yn peri mwy o berygl o danau gwyllt yn gyson â thystiolaeth o orffennol y Ddaear: roedd mwy o danau mewn cyfnodau cynhesach, a llai mewn cyfnodau hinsoddol oerach.[17] Mae newid hinsawdd yn cynyddu anweddiad dŵr, a all achosi i lystyfiant sychu. Pan fydd tân yn cychwyn mewn ardal â llystyfiant sych iawn, gall ledaenu'n gyflym. Gall tymereddau uwch hefyd wneud tymor y tanau'n hirach, sef y cyfnod pan fydd tanau gwyllt difrifol yn fwyaf tebygol. Mewn rhanbarthau lle mae eira'n diflannu, efallai y bydd y tymor tân yn cael ei ymestyn yn fwyfwy.[18]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "The Effects of Climate Change". NASA.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 February 2022.
  2. Lindsey, Rebecca; Dahlman, Luann (June 28, 2022). "Climate Change: Global Temperature". climate.gov. National Oceanographic and Atmospheric Administration. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 17, 2022.
  3. Trenberth, Kevin E. (2022). The Changing Flow of Energy Through the Climate System (arg. 1). Cambridge University Press. doi:10.1017/9781108979030. ISBN 978-1-108-97903-0.
  4. IPCC SRCCL Summary for Policymakers. 2019. t. 9.
  5. Rosenzweig, "Chapter 1: Assessment of Observed Changes and Responses in Natural and Managed Systems", IPCC AR4 WG2 2007, Executive summary, http://archive.ipcc.ch/publications_and_data/ar4/wg2/en/ch1.html, adalwyd 28 December 2018
  6. Pecl, Gretta T.; Araújo, Miguel B.; Bell, Johann D.; Blanchard, Julia; Bonebrake, Timothy C.; Chen, I-Ching; Clark, Timothy D.; Colwell, Robert K. et al. (31 March 2017). "Biodiversity redistribution under climate change: Impacts on ecosystems and human well-being". Science 355 (6332): eaai9214. doi:10.1126/science.aai9214. PMID 28360268.
  7. Settele, J.; Scholes, R.; Betts, R.; Bunn, S.; et al. (2014). "Chapter 4: Terrestrial and Inland Water Systems". IPCC AR5 WG2 A 2014. t. 300. |access-date= requires |url= (help)
  8. 8.0 8.1 8.2 8.3 8.4 8.5 8.6 "Chapter 8: Water Cycle Changes". Working Group 1: The Physical Science Basis. IPCC Sixth Assessment Report. doi:10.1017/9781009157896.010.
  9. 9.0 9.1 Pörtner, Hans-O.; Roberts, Debra; Adam, Helen; Adler, Caroline; et al. "Summary for Policymakers". Climate Change 2022: Impacts, Adaptation and Vulnerability. In Press. ¶SPM.B.4.5.
  10. Hirabayashi, Yukiko; Mahendran, Roobavannan; Koirala, Sujan; Konoshima, Lisako; Yamazaki, Dai; Watanabe, Satoshi; Kim, Hyungjun; Kanae, Shinjiro (2013). "Global flood risk under climate change". Nature Climate Change 3 (9): 816–821. Bibcode 2013NatCC...3..816H. doi:10.1038/nclimate1911.
  11. Hosseinzadehtalaei, Parisa; Tabari, Hossein; Willems, Patrick (November 2020). "Climate change impact on short-duration extreme precipitation and intensity–duration–frequency curves over Europe". Journal of Hydrology 590: 125249. Bibcode 2020JHyd..59025249H. doi:10.1016/j.jhydrol.2020.125249.
  12. Irina Ivanova (2 June 2022). "California is rationing water amid its worst drought in 1,200 years". CBS News. Cyrchwyd 2 June 2022.
  13. Trenberth, Kevin E.; Dai, Aiguo; van der Schrier, Gerard; Jones, Philip D.; Barichivich, Jonathan; Briffa, Keith R.; Sheffield, Justin (2014). "Global warming and changes in drought". Nature Climate Change 4 (1): 17–22. Bibcode 2014NatCC...4...17T. doi:10.1038/nclimate2067.
  14. 14.0 14.1 14.2 Daniel Tsegai, Miriam Medel, Patrick Augenstein, Zhuojing Huang (2022) Drought in Numbers 2022 - restoration for readiness and resilience, United Nations Convention to Combat Desertification (UNCCD)
  15. IPCC SRCCL 2019
  16. IPCC SRCCL Summary for Policymakers 2019
  17. Jones, Matthew; Smith, Adam; Betts, Richard; Canadell, Josep; Prentice, Collin; Le Quéré, Corrine. "Climate Change Increases the Risk of Wildfires". ScienceBrief. Cyrchwyd 16 February 2022.
  18. Dunne, Daisy (14 July 2020). "Explainer: How climate change is affecting wildfires around the world". Carbon Brief. Cyrchwyd 17 February 2022.