Morglawdd Bae Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Morglawdd Bae Caerdydd
Mathmorglawdd llanw Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4481°N 3.1647°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Morglawdd Bae Caerdydd yn gorwedd ar draws aber Bae Caerdydd, rhwng Doc y Frenhines Alexandra a Thrwyn Penarth. Roedd yn un o'r prosiectau peirianneg sifil mwyaf yn Ewrop pan gafodd ei adeiladu yn y 1990au.

Hanes[golygu | golygu cod]

Y Bae ar lanw isel yn datgelu'r fflatiau llaid

Mae gwreiddiau'r cynllun yn dyddio'n ôl i ymweliad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Nicholas Edwards yr AS Ceidwadol dros Sir Benfro â hen ardal dociau Caerdydd, a oedd i raddau helaeth yn segur yn y 1980au. Roedd Edwards yn frwdfrydig iawn am opera, ac fe ddychmygodd gynllun i adfywio'r ardal yn cynnwys tai newydd, siopau, tai bwyta ac fel canolbwynt: tŷ opera ar lan y dŵr. Fodd bynnag, roedd y llanw a thrai ym Mae Caerdydd yn datgelu fflatiau llaid sylweddol arwahân i gyfnod o tua dwyawr bob ochr i'r llanw uchaf – a gwelwyd fod y llaid yn rhoi delwedd anatyniadol i'r ardal.

Rhoddodd Edwards yr her i was sifil o'r Swyddfa Gymreig, Freddie Watson, am yr ateb i'r broblem ymddangosiadol hon. Cynnig Watson oedd adeiladu morglawdd ar draws aber Bae Caerdydd o Ddociau Caerdydd i Benarth a fyddai'n cronni dŵr croyw o afonydd Elái a'r Taf i greu llyn dŵr croyw mawr – ac felly yn rhoi penllanw parhaol. Drwy wneud yr ardal yn fwy deniadol y gobaith oedd y byddai'n denu buddsoddiad i ardal y dociau. Gwelwyd y morglawdd felly yn hanfodol i'r prosiect adfywio. Yn 1987, cyn i gynllun y morglawdd gael ei gymeradwyo, sefydlwyd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd i barhau gyda gwaith ailddatblygu ardal y dociau – ardal oedd yn cynnwys un rhan o chwech o ardal cyfan dinas Caerdydd.

Cwblhawyd y morglawdd yn Nhachwedd 1999 a chaewyd y llifddorau ar lanw uchel i gadw'r dŵr o Fôr Hafren yn y bae 500 erw.

Problemau ansawdd dŵr[golygu | golygu cod]

I ddechrau roedd yna broblemau difrifol gyda ansawdd y dŵr a olygai fod angen gwagio'r bae yn sych dros nos a'i ail-lenwi bob dydd.[angen ffynhonnell] Yn y pendraw gosodwyd systemau ocsigeneiddio (wedi ei seilio ar rai a ddefnyddiwyd ym Morglawdd Abertawe) a gwellodd ansawdd y dŵr a gan i'r bae fod yn llawn dŵr croyw – yr unig fynediad i ddŵr heli yw drwy y tair llifddor sy'n rhoi mynediad i'r môr ar gyfer y nifer o gychod sy'n gwneud defnydd o Fae Caerdydd.

Agorwyd y morglawdd i'r cyhoedd yn 2001.

Gwrthwynebiad[golygu | golygu cod]

Gwrthwynebwyd cynllun y morglawdd nid yn unig gan amgylcheddwyr ond, yn ôl ymchwiliad gan y BBC, Margaret Thatcher, y Prif Weinidog ar y pryd. Roedd swyddogion y Trysorlys wedi holi am achos economaidd y datblygiad a'r fethodoleg economaidd a ddefnyddiwyd i'w gyfiawnhau. Yn 1990 fe wnaeth pwyllgor dethol, oedd wedi methu astudio'rr holl fanylion economaidd oedden nhw eisiau weld, bleidleisio tri i un o blaid y cynllun. Yn ddiweddarach darganfu BBC Wales fod Margaret Thatcher eisiau rhoi'r gorau i gynllun y morglawdd ond newidiodd ei meddwl pan fygythiodd Nicholas Edwards ymddiswyddo.[1]

Daeth gwrthwynebiad i'r cynllun o sawl cyfeiriad. Un o'r beirniaid mwyaf blaenllaw oedd Rhodri Morgan, AS Gorllewin Caerdydd dros Lafur, a fyddai yn ddiweddarach yn dod yn Brif Weinidog cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Dywedodd Morgan – fel Mrs Thatcher – y byddai'r cynllun yn costio gormod o arian. Fe adroddwyd yn y Daily Mirror yn Mawrth 2000 fod cost adeiladu'r morglawdd yn unig wedi codi i £400 miliwn ac roedd cost o £12 miliwn y flwyddyn i'w weithredu a'i gynnal. Dywedodd Morgan "Roedd hyn llawer uwch na ddynodwyd yn ystod taith Bil y Morglawdd drwy Senedd San Steffan."

Yn y cyfamser roedd y boblogaeth leol yn ardal a bae neu ar lannau'r Taf yn ofni y byddai eu tai yn cael eu niweidio gan lefel uwch y dŵr fel yr oedden nhw wedi gweld mewn llifogydd blaenorol.

Roedd grwpiau amgylcheddol yn gwrthwynebu'r cynllun yn gryf oherwydd bod y bae yn dir bwydo i adar, a fyddai'n cael ei golli wedi corlannu'r bae. Roedd pryderon hefyd dros lefelau dŵr daear mewn ardaloedd isel o Gaerdydd a allai effeithio seleri a blychau trydanol tanddaearol.

Yn ystod datblygiad Bae Caerdydd a Morglawdd Bae Caerdydd roedd tyndra parhaol rhwng Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd a Chyngor Dinas Caerdydd (Cyngor Sir Caerdydd yn ddiweddarach). Fe wnaeth Pwyllgor Archwilio'r Cynulliad Cenedlaethol sôn am y "berthynas weithio toredig" rhwng y ddau gorff.[2] Ar ôl croniad gwreiddiol dyfroedd Bae Caerdydd yn Tachwedd 1999 roedd sôn am agoriad Brenhinol o'r morglawdd. Rhagwelwyd hyn yn cael ei gynnal ar Ddydd Dewi Sant 2000 gyda'r Frenhines a Phrif Weinidog Cymru Rhodri Morgan  – gwrthwynebydd croch o'r cynllun. Fel y bu hi, ni chynhaliwyd y fath ddigwyddiad. Ar 1 Mawrth 2000, diwrnod arfaethedig, y seremoni cyhoeddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru na fyddai unrhyw seremoni arbennig i nodi'r cynllun.[3]

Seremoni agor Morglawdd Bae Caerdydd yn Tachwedd 1999

Yn hytrach na'r agoriad Brenhinol swyddogol o'r cynllun peirianneg sifil anferth, y mwyaf o'i fath yn Ewrop, trefnwyd seremoni syml gan Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd a weinyddwyd gan y Cynghorydd Ricky Ormonde (a wasanaethodd fel Arglwydd Faer Caerdydd yn 1994) ynghyd ac Alun Michael, AS Llafur dros Dde Caerdydd a Phenarth a oedd wedi cefnogi'r cynllun erioed. Fodd bynnag, am nad oedd Cyngor Caerdydd yn fodlon gosod plac coffaol ar eu tir nhw, roedd rhaid i'r seremoni gymryd lle, a'r plac ei ddadorchuddio, ar dir yn berchen i'r cyngor lleol cyfagos, Cyngor Bro Morgannwg ar ochr Penarth y morglawdd. Dewiswyd y safle yma hefyd ar gyfer gosod ffigwr efydd 7 troedfedd o fôr-forwyn – a oedd yn rhan o logo Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd. (Dyluniwyd y logo gan ddyluniwr graffeg o Gaerdydd, Roger Fickling).

Diddymwyd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd ar 31 Mawrth 2000 – gan basio rheolaeth o'r prosiect wedi cwblhau i Gyngor Caerdydd. Yn fuan wedi hynny, tynnwyd y plac ar ochr Penarth y morglawdd a gosodwyd plac newydd sbon hanner ffordd ar draws y morglawdd. Nid oedd y plac newydd yn crybwyll Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd o gwbl. Fodd bynnag, parhaodd y ffigwr efydd o'r fôr-forwyn, symbol CDBC, ar gylchfan wrth fynediad i ochr Penarth y morglawdd.

Gwaith adeiladu[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd y morglawdd gan fenter ar y cyd rhwng Balfour Beatty a Costain. Dyluniwyd, gosodwyd a pharatowyd yr offer rheoli a trydanol gan Lintott Control Systems (Norwich).[4] Dechreuodd y gwaith adeiladu yn 1994, yn dilyn taith lwyddiannus Deddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993drwy Senedd y DU. Roedd y ddeddf yn cynnwys darpariaeth ar gyfer iawndal i unrhyw dai a niweidiwyd gan y morglawdd a chynefin gwlybtir mawr i adar yn bellach i'r dwyrain lawr Môr Hafren. Roedd nodweddion yn cynnwys llwybr pysgod[5] sy'n caniátau'r eogiaid i gyrraedd mannau silio yn Afon Taf a tair llifddor ar gyfer traffig morwrol. Cwblhawyd y gwaith adeiladu yn 1999 ac yn fuan wedyn daeth y morglawdd yn weithredol. Fe wnaeth cronni afonydd y Taf ac Elai greu llyn dŵr croyw 2 cilomedr sgwâr (490 erw).

Heddiw[golygu | golygu cod]

Adeilad Rheoli Morglawdd Bae Caerdydd.

Mae'r morglawdd wedi chwarae rhan bwysig yn adfywiad yr ardal. Mae atyniadau tebyg i Ganolfan Mileniwm Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, siopau, tai bwyta a chwaraeon dŵr wedi sefydlu yn y Bae. Ar ôl diddymu Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd yn 2000, fe wobrwyodd y Cynulliad gontract i Gyngor Caerdydd reoli'r morglawdd fel Awdurdod Harbwr Caerdydd (AHC).

Ochr y lliffddorau sy'n wynebu'r môr yn Morglawdd Bae Caerdydd

Un o atyniadau mawr y datblygiad oedd agor llwybr i gerddwyr a seiclwyr ar draws y morglawdd. Fe fyddai hyd nid yn unig yn gwella twristiaeth ar y ddau ochr ond yn darparu llwybr byr dymunol rhwng Caerdydd a Phenarth, yn torri dwy filltir o'r siwrnai a fyddai cyn hynny yn gorfod teithio ar ffyrdd prysur. Fodd bynnag, fe gymerodd y fantais hon flynyddoedd i'w wireddu oherwydd diffyg cytundeb rhwng perchnogion y tir diffaith (Associated British Ports) a Chyngor Caerdydd.

Roedd y morglawdd "anorffenedig" yn destun embaras i Gynulliad Cymru.[angen ffynhonnell] Fe wnaeth Awdurdod Harbwr Caerdydd gynnydd sylweddol wrth greu'r llwybr cerdded wrth ochr y bae ac wedi ail-ddatblygu darn helaeth a'r tir ar gyrion y bae. Agorwyd y llwybr i'r cyhoedd ar ddydd Llun, 30 Mehefin 2008, yn caniatáu mynediad cyhoeddus i Mermaid Quay a Marina Penarth. Mae'r AHC wedi datblygu parth Pysgota Môr ar fraich allanol y morglawdd.

Mae Morglawdd Bae Caerdydd wedi ennill gwobrau fel gorchest peirianneg yng Ngwobrau Diwydiant Peirianneg Prydain a derbyniodd Medal Brunel Sefydliad y Peirianwyr Sifil.[6]

Gwaith celf[golygu | golygu cod]

3 Hirgylch i 3 Llifddor

Comisiynodd Ymddiriedolaeth Gelf Bae Caerdydd, adwaenid nawr fel Safle, yr artist Felice Varini o'r Swistir i gynhyrchu darn o gelf gyhoeddus, o'r enw 3 Ellipses for 3 Locks (3 Hirgylch i 3 Llifddor). Fe gostiodd £25,000 a fe'i cynhyrchwyd rhwng 11 a 25 Mawrth 2007. Peintiwyd tri hirgylch melyn ar y llifddorau a'r gatiau, gyda dringwyr mynydd yn cael eu defnyddio i beintio darnau anoddaf y morglawdd. Hwn oedd gwaith cyntaf Varini yng Nghymru a'r DU a cymerodd flwyddyn i'w gynllunio.[7]

Cynlluniwyd môr-forwyn efydd sy'n sefyll ar gylchfan ar ochr Penarth gan y dyluniwr graffeg Roger Fickling o Gaerdydd ac yn adlewyrchu logo swyddogol Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd. Fe'i gosodwyd ar dir Bro Morgannwg oherwydd tyndra rhwng CDBC a Chyngor Caerdydd (gweler uchod).

Chwaraeon modur[golygu | golygu cod]

Defnyddiwyd y morglawdd fel rhan o gymal arbennig yn ystod Rali Cymru GB 2010.

Effaith ar ecoleg y bae[golygu | golygu cod]

Adar[golygu | golygu cod]

Yn ôl dwy astudiaeth a gyhoeddwyd yn 2006,[8] mae colli'r fflatiau llaid wedi golygu lleihad sylweddol yn nifer ac amrywiaeth o adar ym Mae Caerdydd. Nid yw'r rhan helaeth o adar fel Hwyaid yr eithin a'r rhydwyr yn bwydo yno bellach. I gychwyn roedd yr adar yn defnyddio mannau gerllaw i fwydo, ond yn y rhan fwyaf o achosion, ni barhaodd yr ymddygiad hwn ac nid oedd yr adar yn gallu setlo mewn mannau eraill. Fe wnaeth y pibyddion coesgoch a ddisodlwyd o Fae Caerdydd setlo yn aber Afon Rhymni gerllaw, ond roeddynt yn arddangos pwysau corff llai, ac fe leihaodd eu cyfradd goroesi flynyddol o 85% i 78% o ganlyniad i lefel is o oroesi gaeafol.

Algâu[golygu | golygu cod]

I ddechrau cafodd y llyn dŵr croyw broblemau gydag algâu gwyrddlas oedd yn gwneud hi'n amhosib nofio yn y dŵr neu ei ddefnyddio ar gyfer chwaraeon dŵr. Mae'r broblem wedi ei ddatrys i raddau helaeth er bod algâu gwenwynig yn parhau mewn rhai mannau yn nociau'r bae.[9]

Cregyn gleision rhesog[golygu | golygu cod]

Yn 2004 darganfu cregyn gleision rhesog ym Mae Caerdydd, yr ardal dŵr croyw cyntaf yng Nghymru lle cofnodwyd y pla  – mae'n rhywogaeth estron i'r DU sy'n atgynhyrchu'n gyflym ac yn anfantais i fywyd y môr. Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd wedi gorchymyn fod "cychod personol" a ddefnyddir yn y bae, tebyg i gaiacau, ganŵod a chychod dingi yn gorfod cael ei golchi lawr gyda thoddiant cannu (bleach) cyn y gall ei symud i unrhyw ardal arall o ddŵr croyw.[10]

Golygfeydd o'r morglawdd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Thatcher Opposition to Cardiff Barrage beaten by threat to quit". lgcplus.com.
  2. "Audit Committee Report - Securing the Future of Cardiff Bay" (PDF). www.assembly.wales. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2009-01-07. Cyrchwyd 2016-03-11.
  3. "BBC News - WALES - Assembly snub for barrage". bbc.co.uk.
  4. "Cardiff Bay Barrage Report". newswales.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-04. Cyrchwyd 2016-03-11.
  5. "Cardiff Harbour Authority - Fish Pass". cardiffharbour.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2016-03-11.
  6. "Barrage dog is one in a million – One millionth visitor". cardiff.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-23. Cyrchwyd 2016-03-11.
  7. "BBC NEWS - In Pictures - Public art at Cardiff Bay barrage". bbc.co.uk.
  8. Journal of Applied Ecology 43:464–473 a Bird Study 47:102–112
  9. "BBC NEWS - UK - Wales - South East Wales - Tiny lake animals excite experts". bbc.co.uk.
  10. "Cardiff Harbour Authority - Zebra Mussels". cardiffharbour.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-25. Cyrchwyd 2016-03-11.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]