Lliniaru newid hinsawdd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwynt y Mor wind farm from Rhiwledyn - Clust y Fuwch - Little Orm, Wales.jpg
Un cam a gymerwyd i gyfyngu ar newid hinsawdd: fferm ynni Gwynt y Môr. Tynnwyd y llun o benrhyn Rhiwledyn ger Llandudno
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolmaes gwaith, atal Edit this on Wikidata
Mathgweithredu, rheoli risg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Camau i gyfyngu ar newid hinsawdd yw lliniaru newid hinsawdd, drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr neu dynnu'r nwyon hynny o'r atmosffer.[1]: 2239. Yn llawnach, gellir hefyd ei alw'n lliniaru'r broses o newid yr hinsawdd.  Mae’r cynnydd diweddar yn nhymheredd cyfartalog y Ddaear yn cael ei achosi’n bennaf gan allyriadau o losgi tanwydd ffosil (glo, olew, a nwy naturiol). Gall lliniaru leihau allyriadau trwy newid i ffynonellau ynni cynaliadwy, arbed ynni, a chynyddu effeithlonrwydd. Yn ogystal, gellir tynnu CO o'r atmosffer trwy ehangu coedwigoedd, adfer gwlyptiroedd a defnyddio prosesau naturiol a thechnegol eraill, sy'n cael eu grwpio gyda'i gilydd o dan y term dal a storio carbon.[2]: 12 [3]

Ynni solar ac ynni gwynt sydd â'r potensial mwyaf i liniaru newid hinsawdd, am y gost lleiaf.[4] Rhoddir sylw i argaeledd amrywiol haul a gwynt trwy storio ynni a gwell gridiau trydanol, gan gynnwys trawsyrru trydan pellter hir, rheoli galw ac arallgyfeirio ynni adnewyddadwy. Gan fod pŵer carbon isel ar gael ym mhobman, gall cludiant a gwresogi ddibynnu fwyfwy ar y ffynonellau hyn.[5]: 1  Mae effeithlonrwydd ynni yn cael ei wella gan y defnydd o bympiau gwres a cherbydau trydan. Os oes rhaid i brosesau diwydiannol greu carbon deuocsid, gall dal a storio carbon leihau allyriadau net.[6]

Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr o amaethyddiaeth yn cynnwys llosgnwy (methan) yn ogystal ag ocsid nitraidd. Gellir eu lleihau trwy ffermio llai o wartheg.[7][8]

Mae polisïau lliniaru newid hinsawdd yn cynnwys: prisio carbon trwy drethi carbon a masnachu allyriadau carbon, llacio rheoliadau ar gyfer defnyddio ynni adnewyddadwy, gostyngiadau mewn cymorthdaliadau tanwydd ffosil, a dargyfeirio o danwydd ffosil, a chymorthdaliadau ar gyfer ynni glân.[9] Amcangyfrifir y bydd polisïau presennol y Ddaear yn codi tymheredd y Ddaear tua 2.7 °C erbyn 2100.[10] Mae'r cynhesu hwn yn sylweddol uwch na nod Cytundeb Paris 2016 o gyfyngu cynhesu byd-eang yn is na 2. °C ac yn ddelfrydol i lawr 1.5 °C.[11][12]

Diffiniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn diffinio lliniaru (newid hinsawdd) fel "ymyriad dynol i leihau allyriadau neu wella sinciau nwyon tŷ gwydr".[1]: 2239.

Mathau gwahanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir grwpio mesurau lliniaru i'r pedwar dosbarth canlynol.

  1. Ynni cynaliadwy a thrafnidiaeth gynaliadwy
  2. Arbed ynni (mae hyn yn cynnwys defnydd effeithlon o ynni)
  3. Ar gyfer cynhyrchu amaethyddol a phrosesau diwydiannol: amaethyddiaeth gynaliadwy a pholisi diwydiannol gwyrdd
  4. Gwella sinciau carbon: Cael gwared ar garbon deuocsid a dal a storio carbon

Nod, buddion a risgiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Nod cyffredinol lliniaru newidiadau yn yr hinsawdd yw: “cadw biosffer a all gynnal gwareiddiad dynol a’r cymhlethdod o wasanaethau ecosystem sy’n ei amgylchynu a’i gefnogi. Mae hyn yn golygu lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr anthropogenig (a grewyd gan bobl) tuag at sero net i gyfyngu ar y cynhesu hwn, gyda nodau byd-eang wedi'u cytuno yng Nghytundeb Paris."[13]

Allyriadau nwyon tŷ gwydr[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr o weithgareddau dynol yn cryfhau'r effaith tŷ gwydr, gan gyfrannu at newid hinsawdd. Carbon deuocsid yw'r rhan fwyaf, o losgi tanwydd ffosil: glo, olew a nwy naturiol. Mae allyriadau a achosir gan bobl wedi cynyddu carbon deuocsid atmosfferig tua 50% dros lefelau cyn-ddiwydiannol. Roedd allyriadau yn y 2010au ar gyfartaledd yn 56 biliwn tunnell y flwyddyn, sy'n uwch nag erioed.[14]

Gellir cyfrifo allyriadau nwyon tŷ gwydr fesul sector mewn gwahanol ffyrdd. Mae dull sefydledig gan 'Ein Byd mewn Data' yn eu grwpio fel a ganlyn (data ar gyfer 2016):

  • Ynni (trydan, gwres a thrafnidiaeth): 73.2%,
  • prosesau diwydiannol uniongyrchol: 5.2%,
  • gwastraff: 3.2%,
  • amaethyddiaeth, coedwigaeth a defnydd tir: 18.4 %.[3]

Cynhyrchu trydan a thrafnidiaeth yw'r allyrwyr mawr, a’r ffynhonnell unigol fwyaf yw gorsafoedd pŵer sy’n llosgi glo sef 20% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr.[15] Mae datgoedwigo a newidiadau eraill mewn defnydd tir hefyd yn allyrru carbon deuocsid a llosgnwy (methan). Y ffynhonnell fwyaf o allyriadau methan anthropogenig yw amaethyddiaeth,  yn cael ei ddilyn yn agos gan awyru nwy ac allyriadau ffo o'r diwydiant tanwydd ffosil. Y ffynhonnell methan amaethyddol fwyaf yw da byw (gwartheg). Mae priddoedd amaethyddol yn gollwng ocsid nitraidd yn rhannol oherwydd gwrtaith ond ar y llaw arall, mae'r broblem o nwyon fflworinedig allan o oeryddion wedi'i ddatrys, nawr mae cymaint o wledydd wedi cadarnhau Gwelliant Kigali.[16]

Yn 2020 roedd y cyfraddau allyriadau ar gyfartaledd yn 6.5 tunnell y person y flwyddyn (gydag amrywiadau mawr o un wlad i'r llall).[17]

Yn ôl y math o nwy tŷ gwydr[golygu | golygu cod y dudalen]

Carbon deuocsid (CO) yw'r prif nwy tŷ gwydr a allyrrir, tra bod gan llosgnwy (methan) (CH4) allyriadau sydd bron cynddrwg.[18] Mae ocsid nitraidd (N 2 O) a nwyon fflworin (Nwyon-F) yn chwarae rhan fach.

Systemau ynni[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae glo, olew a nwy naturiol yn parhau i fod yn brif ffynonellau ynni byd-eang hyd yn oed wrth i ynni adnewyddadwy ddechrau cynyddu.[19]

Y system ynni yw prif allyrrydd CO.[20]: 6–6 Felly mae lleihau allyriadau'r sector ynni yn hanfodol i gyfyngu ar gynhesu.[20]: 6–6  Mae angen gostyngiadau cyflym yn lefel y CO a’r allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r system ynni er mwyn cyfyngu cynhesu byd-eang i lai na 2. °C.[20]: 6–3  Mae'r mesurau a argymhellir yn cynnwys: "llai o ddefnydd o danwydd ffosil, mwy o gynhyrchiad o ffynonellau ynni carbon isel a di-garbon, a mwy o ddefnydd o drydan a chludwyr ynni amgen".[20]: 6–3 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 IPCC, 2021: Annex VII: Glossary [Matthews, J.B.R., V. Möller, R. van Diemen, J.S. Fuglestvedt, V. Masson-Delmotte, C.  Méndez, S. Semenov, A. Reisinger (eds.)]. In Climate Change 2021: The Physical Science Basis. Contribution of Working Group I to the Sixth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change [Masson-Delmotte, V., P. Zhai, A. Pirani, S.L. Connors, C. Péan, S. Berger, N. Caud, Y. Chen, L. Goldfarb, M.I. Gomis, M. Huang, K. Leitzell, E. Lonnoy, J.B.R. Matthews, T.K. Maycock, T. Waterfield, O. Yelekçi, R. Yu, and B. Zhou (eds.)]. Cambridge University Press, Cambridge, United Kingdom and New York, NY, USA, pp. 2215–2256, doi:10.1017/9781009157896.022.
  2. Olivier J.G.J. and Peters J.A.H.W. (2020), Trends in global CO2 and total greenhouse gas emissions: 2020 report. PBL Netherlands Environmental Assessment Agency, The Hague.
  3. 3.0 3.1 "Sector by sector: where do global greenhouse gas emissions come from?". Our World in Data. Cyrchwyd 2022-11-16.
  4. IPCC (2022) Summary for policy makers in Climate Change 2022: Mitigation of Climate Change. Contribution of Working Group III to the Sixth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change, Cambridge University Press, Cambridge, United Kingdom and New York, NY, USA
  5. Ram M., Bogdanov D., Aghahosseini A., Gulagi A., Oyewo A.S., Child M., Caldera U., Sadovskaia K., Farfan J., Barbosa LSNS., Fasihi M., Khalili S., Dalheimer B., Gruber G., Traber T., De Caluwe F., Fell H.-J., Breyer C. Global Energy System based on 100% Renewable Energy – Power, Heat, Transport and Desalination Sectors. Study by Lappeenranta University of Technology and Energy Watch Group, Lappeenranta, Berlin, March 2019.
  6. "Cement – Analysis". IEA (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-11-24.
  7. Pérez-Domínguez, Ignacio; del Prado, Agustin; Mittenzwei, Klaus; Hristov, Jordan; Frank, Stefan; Tabeau, Andrzej; Witzke, Peter; Havlik, Petr et al. (December 2021). "Short- and long-term warming effects of methane may affect the cost-effectiveness of mitigation policies and benefits of low-meat diets" (yn en). Nature Food 2 (12): 970–980. doi:10.1038/s43016-021-00385-8. ISSN 2662-1355. PMC 7612339. PMID 35146439. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7612339.
  8. "Global Livestock Environmental Assessment Model (GLEAM)". Food and Agriculture Organization. Cyrchwyd 2022-12-05. Cattle are the main contributor to the sector's emissions with about 5.0 gigatonnes CO2-eq, which represents about 62 percent of sector's emissions.
  9. "Climate Change Performance Index" (PDF). November 2022. Cyrchwyd 16 November 2022.
  10. Ritchie, Hannah; Roser, Max; Rosado, Pablo (11 May 2020). "CO₂ and Greenhouse Gas Emissions". Our World in Data. https://ourworldindata.org/co2-and-other-greenhouse-gas-emissions#future-emissions. Adalwyd 27 August 2022.
  11. Harvey, Fiona (26 November 2019). "UN calls for push to cut greenhouse gas levels to avoid climate chaos". The Guardian. Cyrchwyd 27 November 2019.
  12. "Cut Global Emissions by 7.6 Percent Every Year for Next Decade to Meet 1.5°C Paris Target – UN Report". United Nations Framework Convention on Climate Change. United Nations. Cyrchwyd 27 November 2019.
  13. IPCC (2022) Chapter 1: Introduction and Framing in Climate Change 2022: Mitigation of Climate Change. Contribution of Working Group III to the Sixth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change, Cambridge University Press, Cambridge, United Kingdom and New York, NY, USA
  14. "Chapter 2: Emissions trends and drivers". Ipcc_Ar6_Wgiii. 2022. https://report.ipcc.ch/ar6wg3/pdf/IPCC_AR6_WGIII_FinalDraft_Chapter02.pdf.
  15. "It's critical to tackle coal emissions". blogs.worldbank.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-11-25. Coal power plants produce a fifth of global greenhouse gas emissions – more than any other single source.
  16. "Biden signs international climate deal on refrigerants". AP NEWS (yn Saesneg). 2022-10-27. Cyrchwyd 2022-11-26.
  17. Intergovernmental Panel on Climate Change (4 April 2022). "IPCC: Climate Change 2022, Mitigation of Climate Change, Summary for Policymakers" (PDF). ipecac.ch. Cyrchwyd 22 April 2004.
  18. "Methane vs. Carbon Dioxide: A Greenhouse Gas Showdown". One Green Planet. 30 September 2014. Cyrchwyd 13 February 2020.
  19. Friedlingstein, Pierre; Jones, Matthew W.; O'Sullivan, Michael; Andrew, Robbie M.; Hauck, Judith; Peters, Glen P.; Peters, Wouter; Pongratz, Julia et al. (2019). "Global Carbon Budget 2019". Earth System Science Data 11 (4): 1783–1838. Bibcode 2019ESSD...11.1783F. doi:10.5194/essd-11-1783-2019. ISSN 1866-3508. https://essd.copernicus.org/articles/11/1783/2019/. Adalwyd 15 February 2021.
  20. 20.0 20.1 20.2 20.3 IPCC (2022) Chapter 6: Energy systems in Climate Change 2022: Mitigation of Climate Change. Contribution of Working Group III to the Sixth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change, Cambridge University Press, Cambridge, United Kingdom and New York, NY, USA