Ocsid nitraidd
| Enghraifft o: | math o endid cemegol |
|---|---|
| Math | nitrogen oxide |
| Màs | 44.001 uned Dalton |
| Fformiwla gemegol | N₂o |
| Clefydau i'w trin | Trafferth anadlu, cnawdnychiad, camddefnyddio sylweddau |
| Rhan o | nitrous-oxide reductase activity, nitric oxide reductase activity |
| Yn cynnwys | ocsigen |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/09bml |
| Thesawrws y BNCF | 42757 |
| CAS | 10024-97-2 |
| PubChem CID | 948 |
| ChEBI | 17045 |
| ChEMBL | Chembl1234579 |
| ChemSpider | 923 |
| UNII | K50xqu1029 |
| ATC | N01ax13 |
| KEGG | D00102 |
| MeSH | D009609 |
| Rhif EC | 233-032-0 |
| Cofrestr Beilstein | 8137358 |
| Drugbank | Db06690 |
| ECHA | 100.030.017 |
| HMDB | Hmdb0035807 |
| PDB | 2icq, 2ie7, 3ple, 3plg, 3pli, 3plh, 3plj, 3plm, 4nxc, 2ppa, 3pku, 3pks, 3pk3, 4nwe, 3pkt, 3sbr, 4o4z |
| RxNorm CUI | 7486 |
| UMLS CUI | C0028215 |
| NDF-RT | N0000147387 |
| Quora | Nitrous-oxide |
Mae ocsid nitraidd sy’n cael ei alw’n aml yn nwy chwerthin, yn gyfansoddyn cemegol, yn ocsid nitrogen.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw N₂O. Ar dymheredd yr ystafell, mae'n nwy di-fflamadwy di-liw, gydag arogl a blas metelig. Ar dymheredd uchel, mae ocsid nitraidd yn ocsidydd pwerus sy'n debyg i ocsigen moleciwlaidd.
Mae gan ocsid nitraidd ddefnyddiau meddygol sylweddol, yn enwedig mewn llawfeddygaeth a deintyddiaeth[2], am ei effeithiau anaesthetig a lleihau poen. Mae ei enw nwy chwerthin, a bathwyd gan Humphry Davy, yn seiliedig ar yr effeithiau perlesmeiriol ceir wrth ei anadlu, eiddo sydd wedi arwain at ei ddefnydd hamddenol fel anesthetig datgysylltiol[3].
Defnydd meddygol
[golygu | golygu cod]Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Enwau
[golygu | golygu cod]Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw ocsid nitraidd, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Gwthiant aerosol
[golygu | golygu cod]Mae'r nwy yn cael ei gymeradwyo i'w ddefnyddio fel ychwanegyn bwyd (E942)[4], yn benodol fel gwthiant chwistrellu aerosol. Ei ddefnydd mwyaf cyffredin yn y cyd-destun hwn yw mewn caniau hufen a chwistrelliad aerosol a chwistrellau coginio. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio fel nwy anadweithiol i ddisodli ocsigen er mwyn atal twf bacteriol wrth lenwi pecynnau creision tatws, bwydydd byrbryd tebyg a llysiau wedi eu rhagbaratoi.
Tanwydd
[golygu | golygu cod]Mae ocsid nitraidd yn cael ei ddefnyddio fel ocsidydd mewn tanwydd roced ac mewn ceir rasio modur i gynyddu allbwn pŵer eu peiriannau.
Effaith diwylliannol
[golygu | golygu cod]Mae ocsid nitraidd yn digwydd ar lefelau bychan yn yr atmosffer. Mae'n garthysydd raddfa fawr ar osôn stratosfferig, gydag effaith sy'n debyg i effaith CFCs. Amcangyfrifir bod 30% o'r ocsid nitraidd yn yr atmosffer yn ganlyniad gweithgarwch dynol, yn bennaf trwy amaethyddiaeth[5][6].
Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pubchem. "Ocsid Nitrus". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
- ↑ Dental fear central Inhalation Sedation (Laughing Gas) adalwyd 9 Mawrth 2018
- ↑ BBC newyddion How dangerous is laughing gas? adalwyd 9 Mawrth 2018
- ↑ Food Info - E942 adalwyd 9 Mawrth 2018
- ↑ Ravishankara, A. R.; Daniel, J. S.; Portmann, R. W. (2009). "Nitrous Oxide (N2O): The Dominant Ozone-Depleting Substance Emitted in the 21st Century". Science 326 (5949): 123–5. Bibcode 2009Sci...326..123R. doi:10.1126/science.1176985. PMID 19713491. https://archive.org/details/sim_science_2009-10-02_326_5949/page/122.
- ↑ Grossman, Lisa (28 August 2009). "Laughing gas is biggest threat to ozone layer". NewScientist.
| Cyngor meddygol |
|
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |