Carbon deuocsid yn atmosffer y Ddaear

Oddi ar Wicipedia
Carbon deuocsid yn atmosffer y Ddaear
Rhan oatmosffer y Ddaear Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Chwith: Cyfanswm allyriadau gwledydd y byd: y 40 gwlad uchaf eu hallyriadau. Dde: allyriadau yn ôl nifer y bobl yn y gwledydd hynny.
1. UDA a Chanada 2. Gorllewin Ewrop 3. Dwyrain Asia Gomiwnyddol 4. Dwyrain Ewrop a Chyn-daleithiau Sofietaidd 5. India a de-ddwyrain Asia 6. Awstralia, Japan a Thaleithiau'r Môr Tawel 7. Canol a de America 8. y Dwyrain Canol 9. Affrica
Y 5 prif Nwy Tŷ Gwydr, a sut maen nhw wedi cynyddu ers ddechrau'r 80au.

Mae Carbon deuocsid (CO2) yn nwy hynod bwysig yn atmosffer y Ddaear. Mae'n 0.04% (400 rhan allan o filiwn) o'r atmosffer.[1][2] Er mai cymharol isel yw'r cryodiad ohono yn yr atmosffer, fe all CO2 weithredu fel nwy tŷ gwydr ac mae iddo rôl bwysig iawn yn y broses o reoli tymheredd wyneb y Ddaear.

Mae CO2 yn amsugno ac yn allyru ymbelydredd isgoch ar donfedd o 4.26 µm (modd dirgrynol) a 14.99 µm (modd dirgrynol a phlygiadol). Casglwyd gwybodaeth am grynodiadau a lefelau CO2 ers blynyddoedd, a gwelir nad yw'n sefydlog. Mae'r data'n dangos ei fod wedi newid yn sylweddol gyda'r amrediad at ei uchaf tua 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl (7,000 rhan mewn miliwn) yn ystod y cyfnod Cambriaidd ac ar ei isaf (180 rhan mewn miliwn) yn ystod y Rhewlifiad cwaternaidd, sef o 2.58 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP) hyd at y presennol.

Mae carbon deuocsid yn rhan hanfodol o'r cylch carbon, cylch daeargemegol byw, ble mae'r carbon yn cael ei gyfnewid rhwng cefnforoedd y byd, y pridd a'r biosffer cyfan. Mae'r biosffer presennol yn ddibynol ar CO2 atmosfferig: mae planhigion ac eraill yn defnyddio ynni'r haul i gynhyrchu carbohydrad allan o garbon deuocsid atmosfferig a dŵr, drwy'r broses a elwir yn ffotosynthesis. Yn ei dro, bwyteir y planhigion gan anifeiliaid ac organebau byw eraill: a dyma yw prif ffynhonnell eu hynni.

Y crynodiad presennol[golygu | golygu cod]

Ers cychwyn y Chwyldro Diwydiannol mae'r crynodiad o CO2 atmosfferig wedi cynyddu o 280 i 400 rhan mewn miliwn, ac mae'r lefel hon yn parhau i gynyddu. Dyma'r hyn a elwir yn "gynhesu byd eang", ffenomenom a achoswyd gan fodau dynol.[3] Mae crynodiad cyfartalog CO2 atmosffer y Ddaear ar hyn o bryd yn 0.04%[4] sef 400 rhan o filiwn, mewn cyfaint.[5][6] Ceir amrywrywiadau blynyddol o tua 3-9 rhan mewn miliwn ac mae iddo gydberthyniad (negyddol) gyda thymor tyfu cnydau a phlanhigion eraill yn Hemisffer y Gogledd. Mae Hemisffer y Gogledd, felly'n dominyddu'r cylch CO2 blynyddol oherwydd fod yma fwy o dir i dyfu planhigion, ac felly mwy o blanhigion nag a geir yn Hemisffer y De.[7]

Crynodiad o CO2 yn y gorffennol[golygu | golygu cod]

Mae'r crynodiad o CO2 wedi amrywio cryn dipyn ers i'r Ddaear gael ei chre 4.54 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Cred daearegwyr fod CO2 wedi bodoli yn atmosffer cyntaf y Ddaear, bron yn syth ar ôl iddo gael ei greu. Cafwyd gostyngiad sylweddol yn lefel y CO2 atmosfferig - o 7,000 rhan mewn miliwn 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl i 180 rhan mewn miliwn heddiw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Global carbon dioxide levels break 400ppm milestone". The Guardian. 6 Mai 2015. Cyrchwyd 7 May 2015.
  2. "ESRL Global Monitoring Division - Global Greenhouse Gas Reference Network". NOAA. 6 Mai 2015. Cyrchwyd 7 May 2015.
  3. IPCC AR5 WG1 (2013), Stocker, T.F., ed., Climate Change 2013: The Physical Science Basis. Working Group 1 (WG1) Contribution to the Intergovernmental Panel on Climate Change (IPCC) 5th Assessment Report (AR5), Cambridge University Press, http://www.ipcc.ch/report/ar5/wg1/ Climate Change 2013 Working Group 1 website.
  4. Earth System Research Laboratory Pablo es lindo Global Monitoring Division>"Trends in Atmospheric Carbon Dioxide".
  5. "Current atmospheric CO2 concentration at http://co2unting.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-12. Cyrchwyd 2021-02-19.
  6. "Frequently Asked Questions". Carbon Dioxide Information Analysis Center (CDIAC). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-17. Cyrchwyd 2015-11-29.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]