Cytundeb Kyoto

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Byd Bregus
Cynhesu Byd Eang

Amgylchedd
Adnewyddadwy
Anadnewyddadwy
Asesiad Amgylcheddol
Cylchred carbon
Cynhesu byd eang
Cytundeb Kyoto
Eco-sgolion
Haen osôn
Panel solar
Tanwydd ffosil
Ynni adnewyddol
Ynni cynaladwy


Categori


Protocol yn ymwneud â chynhesu byd-eang a baratowyd ar gyfer y Cenhedloedd Unedig gan un o'i is-bwyllgorau (Confesniswn fframwaith y Newid mewn Hinsawdd) ydy Cytundeb Kyoto (neu Protocol Kyoto; Saesneg: Kyoto Protocol). Fe'i luniwyd yn yng 'Nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar yr Amgylchedd a'i Ddatblygiad' (neu i roi ei lysenw: 'Earth Summit' a gyfarfu yn Rio de Janeiro, Brasil, ers 14 Mehefin 1992. Pwrpas y cytundeb yw stabilization of greenhouse gas concentrations in the atmosphere at a level that would prevent dangerous anthropogenic interference with the climate system.[1] Gweler isod am fanylion - y pump prif bwrpas.

Mae'r cytundeb yn rhwymo'n gyfreithiol y gwledydd sy'n ei arwyddo i leihau'r Effaith tŷ gwydr drwy leihau'r nwyon: carbon deuocsid, methan, nitrous ocsid, swlffwr hecsofflworid, a dau grŵp o nwyon a elwir yn hydrofluorocarbonau a perfluorocarbonau. Dan y cytundeb hwn, mae gwledydd diwydiannol (megis Gwledydd Prydain wedi cytuno i leihau'r nwyon uchod (NTG) ar gyfartaledd o 5.2% o'i gymharu â'r flwyddyn 1990. Mae'r canran yn newid o wlad i wlad fodd bynnag, gyda 8% o leihâd i wledydd yr Undeb Ewropeaidd, 7% i Unol Daleithiau America, 6% i Japan a 0% i Rwsia. Canataodd y cytundeb i rai gwledydd gynyddu'r nwyon NTG gyadg Awstralia, er enghraifft, yn cael ei godi 8% yn uwch na'r hyn oedd yn 1900 a 10% i Wlad yr Iâ.

Pwrpas y cytundeb[golygu]

     wedi arwydd a chadarnhau      wedi arwyddo ond heb gadarnhau      heb arwyddo na chadarnhau
1. UDA a Chanada 2. Gorllewin Ewrop 3. Dwyrain Asia Gomiwnyddol 4. Dwyrain Ewrop a Chyn-daleithiau Sofietaidd 5. India a de-ddwyrain Asia 6. Awstralia, Japan a Thaleithiau'r Môr Tawel 7. Canol a de America 8. y Dwyrain Canol 9. Affrica
Y 5 prif Nwy Tŷ Gwydr, a sut mae nhw wedi cynyddu ers ddechrau'r 80au.

Pwrpas y cytundeb hwn ydy cadw lefelau'r nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu carthu i'r amgylchedd ar lefel saff, lefel nad yw'n peryglu'r system hinsawdd.

Mae'r 'Intergovernmental Panel on Climate Change' (IPCC) wedi rhagweld cynnydd cyfartalog yn nhymheredd y blaned o 1.4°C (2.5°F) i 5.8 °C (10.4°F) rhwng 1990 a 2100.[2]

Y cam cyntaf yn unig yw Protocol Kyoto i lawer o bobl, [3] gan y bydd gofynion y protocol yn cael eu haddasu nes y cyrhaeddir y nôd, sef Erthygl 4.2 o Erthygl yr UNFCC.[4]

Yn Kyoto, Japan y cafodd y cytundeb hwn ei wyntyllu a hynny yn Rhagfyr 1997, gyda rhai gwledydd yn ei arwyddo ar 16 Mawrth 1998 hyd 15 Mawrth 1999. Daeth i rym ar 16 Chwefror 2005 yn dilyn cadarnhad gan Rwsia ar 18 Tachwedd 2004. Ers Mai 2008 mae 181 gwlad ac un mudiad economaidd rhanbarthol wedi'i arwyddo ac wedi cadarnhau, sef dros 61.6% o'r allyriant - o wledydd Atodiad 1.[5]

Daeth Awstralia i gytuno â'r protocol ar 3 Rhagfyr 2007 - gan eu Prif Weinidog Kevin Rudd. A thrwy hyn, daeth y cytudeb i rym gweithredol.

Pump congl-faen y protocol yw:

  • Ymrwymiadau. Dyma brif garreg allwedd y cyfan, mae'n ymrwymo'r gwledydd yn gyfreithiol i wneud yr hyn maent wedi'i arwyddo.
  • Gweithredu. Er mwyn cyrraedd nodau'r protocol mae'n rhaid i wledydd Atodiad I baratoi polisiau a mesurau i leihau'r nwyon tŷ gwydr yn eu gwledydd. Yn ogystal â hyn, mae'n orfodol iddynt gynyddu'r dulliau a'r systemau i amsugno'r nwyon yn eu gwledydd eu hunain a thrwy gytundebau rhyngwladol megis masnachu a chyfnewid allyriant (emissions trading) i'w gwobrwyo gyda chredits.
  • Lleihau'r effaith negyddol ar Wledydd sy'n Datblygu drwy sefydlu cronfa addasu ar gyfer newid hinsawdd.
  • Cyfrifon, Cofnodi ac Adolygu er mwyn sicrhau integriti'r protocol.
  • Cydymffurfio. Sefydlu Pwyllgor Sicrhau Cydymffurfio â'r ymrwymiadau

Rhai gwledydd[golygu]

Gwledydd Prydain[golygu]

Ymddengys fod Gwledydd prydain ar y llwybr cywir yn ôl yr hyn mae wedi ei wneud hyd yma a'r cynlluniau (deddfwriaethol) mae wedi ei baratoi.[6] Mae'r lefel allyriant y nwyon tŷ gwydr wedi gostwng yng Ngwledydd Prydain ond mae'r allyriant blynyddol o garbon deuocsid wedi codi tua 2% ers i'r Blaid Lafur ddod i bwer yn 1997. Ymddengys felly (yng ngwanwyn 2009) yn bur anhebyg y bydd y llywodraeth yn cadw at ei air (gweler eu maniffesto) i leihau'r lefel o garbon deuocsid sy'n cael ei bwmpio i'r awyr. Roeddent wedi dweud y byddai Gwledydd Prydain yn lleihau'r allyriant o CO2 20% o lefelau 1990.

Ffrainc[golygu]

Yn 2004, fe gaeodd Ffrainc eu gorsaf lo olaf a daw 80% o'u trydan o bwer niwclear.[7] ac felly, bach iawn yw'r allyriant o CO2 [8]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) [1] "United Nations Framework Convention on Climate Change"
  2. (Saesneg) [2] | Pennod 9: 'Projections of Future Climate Change'
  3. (Saesneg) [3] 'The effect of the Kyoto Protocol on global warming'
  4. [4] The United Nations Framework Convention on Climate Change.
  5. (Saesneg) [5] Climate Action Network Europe: Ratification Calendar 30 Chwefror 2006
  6. (Saesneg) http://www.defra.gov.uk/news/2007/070131a.htm | publisher=gan DEFRA "UK climate change sustainable development indicator and greenhouse gas emissions final figures" 2007-06-22
  7. Newyddion BBC "France closes its last coal mine"
  8. (Saesneg) [6] "Institute for Energy and Environmental Research (2006-5-4)". Datganiad i'r Wasg.

Dolennau allanol[golygu]