Neidio i'r cynnwys

Derwen

Oddi ar Wicipedia
Derw
Derwen goesog Quercus robur
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Fagales
Teulu: Fagaceae
Genws: Quercus
L.
Rhywogaethau

mwy na 500

Erthygl am y goeden yw hon. . Am ddefnydd arall o'r gair, gweler Derwen (gwahaniaethu).

Coed a llwyni sy'n perthyn i'r genws Quercus yw derw. Maen nhw'n cynhyrchu ffrwyth a elwir yn fes. Ceir dwy rywogaeth frodorol yng Nghymru: Derwen goesog (Quercus robur) a Derwen ddigoes (Quercus petraea).

Fideo: casglu a phlanu mes, eu hegino a'u plannu.

Breninbrennau derw

[golygu | golygu cod]

Ym mis Ebrill 2013 cwympodd derwen Pontfadog, derwen hynaf Cymru ac mae'n debyg un o'r hynaf yng ngogledd Ewrop. Dywedir iddi dyfu yn Y Waun ger Wrecsam ers y flwyddyn 802. Gwyddys i Owain Gwynedd ymgasglu ei fyddin o dan y goeden yn 1157, cyn gorchfygu'r Brenin Harri II yng nghyrch Crogen gerllaw.[1]

  • Major Oak

Efallai mai’r Major Oak yn Fforest Sherwood, swydd Nottingham ydy’r dderwen enwocaf ym Mhrydain. Credir ei bod hi’n 800-1100 mlwydd oed ac yn ôl llên gwerin, defnyddid y goeden hon gan Robin Hood a’i ddynion i gael cysgod. Amcangyfrifir bod pwysau’r Major Oak yn 23 tunnell a bod ei chengl yn 33 troedfedd. Cafwyd yr enw ‘Major Oak’ oddi wrth Major Hayman Rooke a roes i ni ddisgrifiad o’r goeden yn 1790. Ers yr Oes Fictoraidd, mae canghennau’r Major Oak yn cael eu cynnal gan system sgaffaldio ac yn 2003, dechreuwyd blanhigfa yn Norset trwy blannu glasbrennau a dyfwyd o fes y Major Oak. Diben y blanhigfa hon oedd astudio hanes a DNA'r Major Oak.[2]

Ecoleg

[golygu | golygu cod]

Mae dibyniaeth y nifer o rywogaethau eraill ar y ddwy rywogaeth cynhenid o dderwen yn rhagori ar unrhyw fath arall o goeden ym Mhrydain.

Darafal neu afal y dderwen yw hwn, math o chwydd (gall), neu ardyfiant planhigol, ar dderw wedi ei achosi gan gacynen chwyddi, gall-wasp yn Saesneg. (Dywedir mai tarddiad y S. ‘’gall’’ yw dieithr, felly ”tyfiant dieithr” - cymh. llygoden Ffrengig, cytiau Gwyddelod ayb.)[3]

'Afal' y dderwen

Mae mes yn chwarae rhan bwysig yn ecoleg y goedwig pan mai derw yw'r rhywogaeth drechaf neu os oes digon ohonynt. Gall cyfaint y cnwd mes amrywio'n fawr, gan greu digonedd mawr neu straen mawr ar yr anifeiliaid niferus sy'n dibynnu ar fes ac ysglyfaethwyr yr anifeiliaid hynny.

Mae bywyd gwyllt sy'n bwyta mes fel rhan bwysig o'u diet yn cynnwys adar, fel sgrech y coed, colomennod, rhai hwyaid, a sawl rhywogaeth o gnocell y coed. Mae mamaliaid bach sy'n bwydo ar fes yn cynnwys llygod, gwiwerod a sawl cnofilyn arall. Mae mes yn cael dylanwad mawr ar gnofilod bach yn eu cynefinoedd, gan fod cnwd mes mawr yn helpu poblogaethau cnofilod i dyfu.

Mae mamaliaid mawr fel moch, eirth, a cheirw hefyd yn bwyta llawer iawn o fes; gallant fod hyd at 25% o ddeiet ceirw yn yr hydref. Yn Sbaen, Portiwgal a rhanbarth y New Forest yn ne Lloegr, mae moch yn dal i gael eu troi'n rhydd mewn dehesas (llwyni derw mawr) yn yr hydref, i'w llenwi a'u pesgi ar fes. Ar y llaw arall, gall bwyta mes yn drwm fod yn wenwynig i anifeiliaid eraill na allant ddadwenwyno eu tannin, fel ceffylau a gwartheg[4]

Mae larfa rhai gwyfynod a gwiddon hefyd yn byw mewn mes ifanc, gan fwyta'r cnewyllyn wrth iddynt ddatblygu.

Mae mes yn ddeniadol i anifeiliaid oherwydd eu bod yn fawr ac felly'n cael eu bwyta neu eu storio'n effeithlon. Mae mes hefyd yn gyfoethog mewn maetholion. Mae'r canrannau'n amrywio o un rhywogaeth i'r llall, ond mae pob mesen yn cynnwys llawer iawn o brotein, carbohydradau a brasterau, yn ogystal â mwynau calsiwm, ffosfforws a [[potasiwm|photasiwm], a fitamin niacin. Mae cyfanswm egni bwyd mewn mes hefyd yn amrywio yn ôl rhywogaeth, ond mae pob un yn cymharu'n dda â bwydydd gwyllt eraill a chnau eraill[5]

Mae mes hefyd yn cynnwys tannin chwerw, y maint yn amrywio yn ôl y rhywogaeth. Gan fod tannin, sy'n un o bolyffenolau planhigion, yn ymyrryd â gallu anifail i fetabolieiddio protein, rhaid i greaduriaid addasu mewn gwahanol ffyrdd i ddefnyddio'r gwerth maethol y mae mes yn ei gynnwys. Gall anifeiliaid ddewis mes sy'n cynnwys llai o daninau. Pan fydd y tannin yn cael ei fetaboleiddio mewn gwartheg, gall yr asid tannig a gynhyrchir achosi wlserau a methiant yr arennau.

Mae’n bosibl y bydd anifeiliaid sy’n storio mes, fel sgrech y coed a gwiwerod, yn aros i fwyta rhai o’r mes hyn nes bod digon o ddŵr daear wedi treiddio drwyddynt i drwytholchi’r taninau. Mae anifeiliaid eraill yn cymysgu eu diet mes gyda bwydydd eraill. Mae llawer o bryfed, adar a mamaliaid yn metaboleiddio tannin gyda llai o effeithiau gwael na phobl.

Mae rhywogaethau o fes sy'n cynnwys llawer iawn o daninau yn chwerw iawn, yn astringent, ac o bosibl yn llidus os cânt eu bwyta'n amrwd. Mae hyn yn arbennig o wir am fes derw coch Americanaidd a derw Seisnig. Mae mes deri gwyn, gan eu bod yn llawer is mewn tannin, yn gneuog eu blas; gwellheir y nodwedd hon os rhoddir rhost ysgafn i'r mes cyn eu malu.

Gellir cael gwared â thaninau trwy socian mes wedi'u malu mewn sawl newid o ddŵr, hyd nes nad yw'r dŵr yn troi'n frown mwyach. Gall trwytholchi dŵr oer gymryd sawl diwrnod, ond gall tri i bedwar newid dŵr berwedig drwytholchi'r taninau mewn llai nag awr. Mae trwytholchi dŵr poeth (berwi) yn coginio startsh y fesen, a fyddai fel arall yn gweithredu fel glwten mewn blawd gan ei helpu i glymu iddo'i hun. Am y rheswm hwn, os defnyddir y mes i wneud blawd, yna mae'n well trwytholchi mewn dŵr oer.

Mytholeg a chred

[golygu | golygu cod]

Mewn nifer o ddiwylliannau Indo-Ewropeaidd, gan gynnwys y Celtiaid (gweler drunemeton), roedd y dderwen yn goeden sanctaidd. Derwen yw tarddiad poblogaidd y gair Gymraeg derwydd, ond gwyddys bellach nad oes sail ieithyddol i hynny. Ym mytholeg y Germaniaid roedd y goeden yn perthyn i Ddonar, duw'r mellt. Roedd y Groegiaid yn ei chysylltu â Zeus, pennaeth duwiau Olympws; plennid derw sanctaidd mewn cysegrfannau fel Dodona. Mae'r dderwen yn symboleiddio nerth gwrywaidd a dyfalbarhad.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Oriel gwefan Llen Natur (llun gyda chaniatad Coed Cadw)
  2. Martin Coleman yn Llais Derwent rhifyn 38
  3. Bwletin Llên Natur rhifyn 52
  4. "A bumper crop of acorns causes concern for those with horses". Countryfile.com. Immediate Media Company. 19 October 2011. Retrieved 27 January 2014.
  5. "Nutrition Facts for Acorn Flour". Nutritiondata.com. Retrieved 6 January 2017