Daearyddiaeth Asia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Asia o'r gofod

Cyfandir mwyaf hemissfer y gogledd yw Asia. Mae hi'n cynnwys tua thraean o dir y byd (44.4 miliwn km²). Mae ei hyd eithaf o'r gorllewin i'r dwyrain yn 11,000 km, ac yn 8,500 km o'r gogledd i'r de. Mae'r rhan fwyaf o Asia, o bell ffordd, yn gorwedd yn uwch na'r Cyhydedd yn hemisffer y gogledd. Dim ond rhai rhannau o Dde-ddwyrain Asia ac is-gyfandir India sydd i'r de o'r Cyhydedd. Gellid dadlau fod Ewrop yn estyniad o gyfandir Asia i gyfeiriad y gorllewin. Gelwir Asia ac Ewrop gyda'i gilydd yn Ewrasia.

Mae'r cyfandir yn cyffwrdd â'r Môr Arctig yn y gogledd, y Cefnfor Tawel yn y dwyrain a Chefnfor India yn y de. Yn y gorllewin mae Asia yn ffinio ag Ewrop, y Môr Canoldir, rhan ddwyreiniol Gogledd Affrica a'r Môr Coch. Mae Môr Bering, sy'n rhan o'r Cefnfor Tawel, yn gwahanu Siberia yng ngogledd-ddwyrain Asia a Gogledd America. Gorynys Arabia, India, Gorynys Malaya, Korea a Kamchatka yw'r mwyaf a'r pwysicaf o'r gorynysoedd niferus ar y cyfandir. Oddi ar arfordir y gogledd-ddwyrain ceir ynys Sakhalin, ynysoedd Japan a Taiwan.

Yn is i lawr mae De-ddwyrain Asia yn cynnwys nifer fawr iawn o ynysoedd; y pwysicaf ohonynt yw ynysoedd Luzon a Mindanao yn y Pilipinas, Borneo, yr ynysoedd Indonesiaidd Sumatra, Java a Sulawesi, Timor a Guinea Newydd. Yr ynysoedd pwysicaf oddi ar arfordir de Asia yw Ceylon (Sri Lanka), y Maldives ac Ynysoedd Andaman.

Mae'r moroedd llai sy'n perthyn i Asia yn cynnwys y Môr Coch rhwng Arabia a gogledd-ddwyrain Affrica, Môr Arabia rhwng dwyrain Arabia a gorllewin India, Bae Bengal rhwng dwyrain India a Myanmar, Môr De China, Môr Dwyrain China rhwng Taiwan a Japan, y Môr Melyn rhwng gogledd-ddwyrain China a Korea, Môr Japan rhwng Japan a Manchuria, a Môr Okhotsk rhwng Siberia a Kamchatka.

Mae cadwyni mynydd pwysicaf Asia yn cynnwys Mynyddoedd y Cawcasws, yr Ural, yr Hindu Kush, y Karakoram, Mynyddoedd Pamir, y Tien Shan, y Kunlun Shan a'r Himalaya mawr ei hun sy'n cynnwys Mynydd Everest, mynydd uchaf y byd.